Fe wnaethom gyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol newydd a’r dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC/PEDW) i’w harchwilio, o dan adran 64(1) Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ar 23 Rhagfyr 2025.

Mae gan bob dogfen rif cyfeirnod unigryw a dolen i’r ddogfen.

Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru nawr yn trefnu i Archwiliad o’r Cynllun gael ei gynnal yn gynnar yn 2026 gan Arolygydd Cynllunio annibynnol. Bydd hyn yn cael ei reoli gan Swyddog Rhaglen, o dan gyfarwyddyd yr Arolygydd(ion) penodedig.

Bydd rhagor o wybodaeth am yr archwiliad yn cael eu cyhoeddi ar dudalen y Gwrandawiadau pan fydd ar gael.

Mae’r wybodaeth yn y dogfennau hyn wedi’u cynllunio i’w hargraffu.  Efallai na fydd y fformat hwn yn gwbl hygyrch ar-lein.   ​A wnewch chi gysylltu â ni os oes angen dogfen mewn fformat hygyrch arnoch.

Dogfennau a gyflwynwyd