Ar 28 Ionawr 2016 mabwysiadodd y Cyngor Gynllun Datblygu Lleol ar gyfer Caerdydd.   Daeth y CDLl yn weithredol ar ôl ei fabwysiadu ac mae bellach yn ffurfio’r cynllun datblygu a bydd yn sail i benderfyniadau a wneir ar gynllunio’r defnydd o dir yng Nghaerdydd.

Defnyddir y CDLl gan y Cyngor i arwain a rheoli gwaith datblygu, darparu sail y caiff ceisiadau cynllunio eu penderfynu arni a sail a fydd yn disodli fframwaith y cynllun datblygu presennol a fabwysiadwyd ar gyfer Caerdydd gan gynnwys Cynllun Datblygu Unedol Caerdydd Ar Adnau  (2003), Cynllun Strwythur Newydd De Morgannwg (Ardal Caerdydd), Cynllun Strwythur Sirol Morgannwg Ganol, Cynllun Mwynau Lleol De Morgannwg (Ardal Caerdydd) a Chynllun Lleol Dinas Caerdydd.​

Gweler hefyd