Trosolwg o’r llinell amser

Bydd y CDLl Newydd yn siapio Caerdydd at 2036, gan sicrhau bod y datblygiad cywir yn digwydd yn y lle cywir ar yr adeg gywir, yn dod â manteision i gymunedau a’r economi ac yn nodi pa ardaloedd mae angen eu diogelu.

Mae llawer o gamau o ran paratoi Cynllun Datblygu Lleol fel y nodir yn ein Cytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (PDF)

Mawrth 2021

Y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar Gytundeb Darparu.

Mai 2021

CDLl Newydd Digwyddiad Cyn Lansio (PPT)

Ymgynghoriad ar weledigaeth/materion/amcanion drafft ac Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig drafft a Galwad am Safleoedd Ymgeisiol.

Tachwedd 2021 – Chwefror 2022

Ymgynghoriad ar Opsiynau strategol.

Gorffennaf 2023 – Hydref 2023

Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir