Er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yn cael eu diweddaru, mae’n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ymgymryd ag adolygiad llawn o’u Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl ei fabwysiadu.

Yn dilyn ymgynghoriad ym mis Ionawr/Chwefror ar yr Adroddiad drafft, mae wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu materion a godwyd lle y bo’n briodol. Ar 18 Mawrth 2021 cytunodd y Cyngor i ddechrau gweithio ar baratoi CDLl Newydd ar gyfer Caerdydd.

Darllenwch gopi o’r Adroddiad Adolygiad CDLl terfynol (904kb PDF) .

Byddwn nawr yn dechrau paratoi CDLl Newydd ar gyfer Caerdydd. Bydd y Cynllun yn cynnwys strategaeth a pholisïau newydd i arwain a rheoli twf a newid yng Nghaerdydd dros y 15 mlynedd nesaf hyd at 2036.

Cardiff transport