Ar y 30 Medi cymeradwyodd y Cyngor Llawn y Weledigaeth ac Amcanion (PDF) gyfer y CDLl Newydd, yn dilyn ymgynghoriad ar y Weledigaeth, Materion ac Amcanion drafft (PDF) rhwng 28 Mai 2021 a 23 Gorffennaf 2021.  Maent yn ceisio darparu cyd-destun trosfwaol ar gyfer y cynllun sy’n dangos sut y gellir cydbwyso ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol er mwyn sicrhau datblygiad cynaliadwy Caerdydd hyd at 2036

Bydd y Weledigaeth a’r Amcanion arfaethedig yn rhan bwysig o’r Strategaeth a Ffefrir a fydd yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn ystod ym mis Haf 2023.