Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol

Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn rhestr o’r safleoedd a gyflwynwyd i’r Cyngor yn ystod yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol a gynhaliwyd rhwng 31 Mai a 20 Awst 2021 ac fe’i cyflwynir fel rhan o’r ymgynghoriad ar yr Opsiynau Strategol. Mae’n bwysig nodi os caiff safleoedd posibl eu cyflwyno, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddant yn rhan o’r CDLl.

Nid yw Safleoedd Ymgeisiol sydd wedi’u cynnwys yn y gofrestr yn rhan o’r CDLl.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am y Safleoedd Ymgeisiol

Yn dilyn yr alwad am Safleoedd Ymgeisiol, rydym am i chi ddweud wrthym a ydych yn gwrthwynebu neu’n cefnogi safle(oedd) ymgeisiol sy’n cael eu cynnwys yn y CDLl Newydd neu ddim ond am wneud sylw.

I roi sylwadau ar Safle Ymgeisiol, dewiswch y safle yr hoffech wneud sylw arni a chwblhau’r ffurflen adborth.

Sylwch na ellir trin sylwadau a wneir yn gyfrinachol.

Gallwch weld yr asesiad cychwynnol o’r Safleoedd Ymgeisiol ynghyd â’r papurau cefndir eraill yn yr Ystafell Rithwir.

Mae Rheoliadau CDLl yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol ofyn am enwebiadau ar gyfer safleoedd, a elwir Safleoedd Ymgeisiol, i’w cynnwys yn y CDLl.  Mae’r alwad am safleoedd ymgeisiol yn rhan bwysig o’r broses o lunio cynllun ac mae’n ofynnol ei chynnal yn gynnar yn y broses o baratoi cynllun, cyn y camau ffurfiol a chyn i’r Cynllun drafft gael ei baratoi a’i ymgynghori arno yn y Cam Strategaeth a Ffefrir.

Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i baratoi CDLl.  Un o swyddogaethau pwysig y CDLl yw nodi strategaeth defnydd tir y Cyngor a nodi’r lefel ddisgwyliedig o ddatblygiadau yn y dyfodol a allai ddigwydd a dyrannu tir ar gyfer datblygiad o’r fath a allai ddigwydd yn ystod oes y Cynllun.  Mae’r Llawlyfr CDLl (Llywodraeth Cymru, Mawrth 2020) yn argymell y dylai awdurdodau cynllunio lleol ymgysylltu â datblygwyr a thirfeddianwyr ar gam casglu tystiolaeth y CDLl i gasglu gwybodaeth am safleoedd datblygu y gellid eu cynnwys yn y cynllun. Nod hyn yw helpu’r cyngor i ystyried safleoedd addas i’w cynnwys yn y CDLl ac osgoi nifer sylweddol o safleoedd anhysbys yn cael eu cyflwyno yn ystod y cam archwilio olaf a hefyd i sicrhau y gellir darparu’r CDLl yn nhermau defnydd tir.

Rhwng 31 Mai a 20 Awst 2021, gwahoddodd y Cyngor bob parti yn ffurfiol i gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol posibl, ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, roeddent am gael eu hystyried i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd yn unol â’r canllawiau.

Dylai’r Gofrestr gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Cyfeirnod y Safle Ymgeisiol
  • Enw’r Safle
  • Adran Etholiadol
  • Cynigydd Safle
  • Defnydd a Gynigir
  • Arwynebedd y Safle (mewn hectarau)
  • Map Lleoliad y Safle (fel y’i cyflwynwyd gan y Cynigydd Safle)

Trefnir y safleoedd yn ôl Adran Etholiadol ac yn ôl cyfeirnod y safle.  Mae rhai safleoedd yn croesi ffin nifer o Adrannau Etholiadol a chyfeirir atynt yn unol â hynny.  Dylid nodi bod yr holl wybodaeth a ffiniau safleoedd yn y Gofrestr fel y nodir yn y cyflwyniadau a dderbyniwyd.  Mae’n bwysig nodi os caiff safleoedd posibl eu cyflwyno a’u cynnwys yn y Gofrestr, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddant yn cael eu cynnwys yn y CDLl.  Nid yw safleoedd sydd wedi’u cynnwys yn y gofrestr yn rhan o’r CDLl newydd.

Bydd sylwadau a ddaw i law ar y Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn bwydo i mewn i’r asesiad manwl o’r safleoedd dros y misoedd nesaf yn unol â’r canllawiau a nodir yn y Methodoleg Safleoedd Ymgeisiol.

Bydd canfyddiadau’r asesiad manwl hwn yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar Gynllun Adneuo’r CDLl Newydd a fwriedir ar gyfer hydref 2024.

Y Safleoedd Ymgeisiol

Gallwch weld y Safleoedd Ymgeisiol isod neu gallwch eu gweld ar fap.