Ymgynghoriadau agored
Rydym yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i restr y Cyngor o adeiladau o bwys lleol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ffurfio rhan o adolygiad cam cyntaf o Restr Leol Caerdydd o Adeiladau a Safleoedd o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol (Rhestr Treftadaeth Leol), gan ganolbwyntio ar dafarndai, gwestai a chlybiau o bwys lleol (yn y gorffennol a’r presennol).
Ymgynghoriad wyth wythnos – 24ain Gorffennaf – 18fed Medi 2024
Ymgynghoriadau wedi cau
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir a Safleoedd Ymgeisiol o 27 Gorffennaf tan 5 Hydref 2023 drwy ddefnyddio’r wefan hon ac Ystafell Ymgynghori Rithwir.
Cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori â’r gymuned hefyd yn y gymuned ei hun ac ar-lein.
Roedd yr ymgynghoriad ar yr papur opsiynau strategol (PDF) yn rhedeg o ddydd Mawrth 30 Tachwedd tan Ddydd Mawrth 8 Chwefror 2022.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y ddogfen Weledigaeth, Materion ac Amcanion Drafft (PDF) a’r Adroddiad Cwmpasu Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig Drafft (PDF) rhwng 28 Mai a 23 Gorffennaf 2021.
Cafwyd yr alwad am safleoedd sy’n ymgeisio o 28 Mai i 20 Awst 2021
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.