Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd (CDLl) ar 28ain Ionawr 2016. Fel rhan o broses y cynllun datblygu statudol, mae’n ofynnol i’r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB).

Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn galluogi asesu gweithrediad y Cynllun Datblygu Lleol.  Rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu’r CDLl.

Oherwydd pandemig COVID-19 nid oes gofyniad i gyhoeddi adroddiad ar gyfer 2020.