Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd.

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â ni os ydych:

  • yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
  • yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
  • os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol

E-bost: cdl@caerdydd.gov.uk

Ffôn: 02920 872 087

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â [Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 neu Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2], oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

  • Nid yw rhai ffeiliau PDF yn gwbl hygyrch oherwydd cynnwys heb ei dagio, teitl dogfen ar goll, iaith sylfaenol ar goll, testun amgen ar goll, cynnwys penawdau tabl anghywir a strwythurau pennawd anghywir.Wrth i ni weithio i wella hygyrchedd ein dogfennau, os byddwch yn dod ar draws problem yn cael mynediad at wybodaeth, gallwch ofyn am ddogfen ar fformat hygyrch.

    Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau newydd, byddwn yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau hygyrchedd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a rhai eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau neu os byddai’n arwain at faich anghymesur. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu unioni’r cynllun datblygu mabwysiedig (Ionawr 2016) a dogfennau cysylltiedig gan y bydd y rhain yn cael eu disodli gan y cynllun datblygu newydd.

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 1 Chwefror 2024.

Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 21 Chwefror 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 21 Chwefror 2024 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 22 Chwefror 2024.