Mae’r Arolygwyr wedi creu canllawiau i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y sesiynau gwrandawiad rhithwir neu sy’n eu mynychu. Mae’r ddogfen ganlynol wedi cael ei hychwanegu i’r llyfrgell archwilio:
Bydd rhagor o wybodaeth am sesiynau gwrandawiad rhithwir yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen we Sesiynau Gwrandawiad.
Bydd Swyddog y Rhaglen yn anfon Dolenni Teams cyfarfodydd rhithwir at yr holl gyfranogwyr yn fuan cyn y sesiynau gwrandawiad.
Yn ogystal, bydd Dolenni Teams cyfarfod rhithwir ar gael ar dudalennau gwe y Sesiwn Gwrandawiad unigol. Gellir cyrchu’r tudalennau hyn o’r dudalen we Sesiynau Gwrandawiad. Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau wrth gyrchu dolenni’r cyfarfodydd, cysylltwch â swyddog y rhaglen yn Kerry.trueman@caerdydd.gov.uk.
