Er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yn cael eu diweddaru, mae’n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ymgymryd ag adolygiad llawn o’u Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl ei fabwysiadu.
Yn dilyn ymgynghoriad ym mis Ionawr/Chwefror ar Gytundeb Cyflawni ac Adroddiad Adolygu drafft, mae’r ddwy ddogfen wedi’u diweddaru i adlewyrchu materion a godwyd lle y bo’n briodol. Ar 18 Mawrth 2021 cytunodd y Cyngor i ddechrau gweithio ar baratoi CDLl Newydd ar gyfer Caerdydd.
Darllenwch gopi o’r Adroddiad Adolygiad CDLl terfynol (904kb PDF)
Ar 30 Mawrth 2021 cymeradwyodd Llywodraeth Cymru Gytundeb Cyflawni CDLl Newydd Caerdydd. Mae’r Cytundeb Cyflawni yn nodi’r gwahanol gamau sy’n gysylltiedig â’r broses o lunio’r Cynllun, yr amser y mae pob rhan o’r broses yn debygol o gymryd a’r ffordd y mae’r Cyngor yn bwriadu cynnwys y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill wrth baratoi CDLl Newydd.
Darllenwch gopi o’r Cytundeb Cyflawni cymeradwy (3.7mb PDF)
Byddwn nawr yn dechrau paratoi CDLl Newydd ar gyfer Caerdydd. Bydd y Cynllun yn cynnwys strategaeth a pholisïau newydd i arwain a rheoli twf a newid yng Nghaerdydd dros y 15 mlynedd nesaf hyd at 2036.