Cardiff Bay

Bu’r Cyngor yn ymgynghori ar Gweledigaeth ac Amcanion ar gyfer y cynllun yn 2021 a’r Opsiynau Twf Strategol y llynedd. Y cam nesaf wrth baratoi’r Strategaeth a Ffefrir a fydd yn nodi’r lefel a ffefrir o dwf tai a swyddi ar gyfer y cynllun a’r strategaeth ofodol i gyflawni’r twf hwn. Bydd hefyd yn nodi’r Polisïau Allweddol hynny a fydd yn llywio’r broses o baratoi Cynllun ar Adnau.

Dyma’r cam ffurfiol cyntaf wrth baratoi’r cynllun ac mae’n gyfnod allweddol yn natblygiad y cynllun.  Mae canllawiau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â pharatoi CDLlau yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu sefydlu ar sylfaen dystiolaeth gadarn a chyfredol. O ystyried hyn, mae’n bwysig mai’r dystiolaeth ddiweddaraf sy’n llywio’r Strategaeth a Ffefrir. Mae’r gofyniad hwn hefyd yn “brawf cadernid” a fydd yn cael ei ystyried gan Arolygydd penodedig yn ystod archwiliad annibynnol o’r cynllun.

O ystyried hyn, mae’n bwysig bod datblygiad Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei lywio gan y dystiolaeth ddiweddaraf yn ymwneud ag angen tai a ffigurau poblogaeth diwygiedig yn dilyn rhyddhau canfyddiadau Cyfrifiad 2021, ac Asesiad o’r Farchnad Dai Leol wedi’i ddiweddaru a gwblhawyd yn unol â methodoleg ddiwygiedig Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd y llynedd.

Er mwyn rhoi digon o amser i ystyried y materion hyn yn llawn, bydd y Strategaeth a Ffefrir yn cael ei hystyried gan y Cabinet a’r Cyngor yn hwyrach na’r disgwyl yn 2023, gydag ymgynghoriad yn debygol o fod yn ystod haf 2023. Mae’r dyddiadau arfaethedig ar gyfer yr amserlen ddiwygiedig wedi’u nodi isod:

  • Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir – Gorffennaf i Fedi 2023
  • Ymgynghoriad ar y Cynllun ar Adnau – Gorffennaf i Fedi 2024
  • Archwiliad – Mai 2025 i Hydref 2025
  • Mabwysiadu – Tachwedd 2025

Bydd yr amserlenni diwygiedig hyn hefyd yn galluogi’r Cyngor i ystyried yn llawn sut y gall y cynllun gyflawni’n effeithiol y blaenoriaethau corfforaethol a nodir yn y Strategaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach. ac ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur datganedig y Cyngor. Bydd hefyd yn rhoi digon o amser i gwblhau gwahanol asesiadau’r Strategaeth a Ffefrir fel a nodir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru a’u hystyried yn llawn.

Bydd yr amserlen ddiwygiedig a nodir uchod yn galluogi paratoi cynllun cadarn sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor ac yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf.