Fe wnaethom gyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol newydd a’r dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC/PEDW) i’w harchwilio, o dan adran 64(1) Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ar 23 Rhagfyr 2025.
Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru nawr yn trefnu i Archwiliad o’r Cynllun gael ei gynnal yn gynnar yn 2026 gan Arolygydd Cynllunio annibynnol. Bydd hyn yn cael ei reoli gan Swyddog Rhaglen, o dan gyfarwyddyd yr Arolygydd(ion) penodedig.
