Oherwydd gadewch i ni fod yn onest, boed yn gynnig i adeiladu fflatiau uchel o amgylch y gornel, yr ymdrech i ddod o hyd i le fforddiadwy i fyw ynddo, neu rywbeth mor syml ag adeiladu estyniad i’ch cegin, mae’n effeithio ar bob un ohonom.
Ond sut mae’n gweithio?
Y gwir yw, mae’n gymhleth a fydd rhoi eglurhad cyflawn ar y cyfryngau cymdeithasol:
- Fyth yn mynd i allu cwmpasu pob sefyllfa.
- Bydd yn diflasu llawer o bobl hyd ddagrau.
- Ac yn y bôn, mae’n amhosib.
Ond yn grwn ac yn gryno, fel yr awdurdod cynllunio lleol, ni sydd yn gosod polisi cynllunio lleol ac yn gyfrifol am benderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer popeth o’r estyniad hwnnw i’r gegin, i’r stadiwm hwnnw, a phopeth rhwng y ddau.
Yn y bôn, os oes rhywun am ei godi, mae angen iddyn nhw ofyn i ni yn gyntaf.*
Ond fel pob awdurdod cynllunio mae’n rhaid i ni weithio o fewn cyfreithiau, polisïau, fframweithiau – os na wnawn hynny yna gellir gwrthdroi’r penderfyniadau hynny, ac o bosibl gallai hynny gostio cannoedd o filoedd o bunnoedd i drethdalwyr.
Felly pwy sy’n gwneud y penderfyniadau hyn?
Wel (a dyma lle mae’n dechrau mynd yn gymhleth) mae’n dibynnu. Mae Swyddogion Cynllunio yn llunio adroddiad gan ystyried y ddeddfwriaeth, y polisïau, yr ymatebion i’r ymgynghoriad, y safle, ei hanes, maint y datblygiad… mae’r rhestr yn mynd ymlaen!
Os ydych chi’n adeiladu estyniad, neu’n trosi eich atig, mae’n siŵr (oes mae rhai eithriadau… ac ydy mae’n gymhleth) y bydd un o’r Swyddogion Cynllunio hynny a Rheolwr Cynllunio yn gwneud penderfyniad i’w gymeradwyo (neu beidio). Ond os ydych chi’n bwriadu adeiladu stadiwm, neu floc o fflatiau yna’r Pwyllgor Cynllunio fyddai’n penderfynu.
Y peth cyntaf i’w ddweud am y pwyllgor cynllunio yw ei fod yn gweithredu y tu allan i wleidyddiaeth y cyngor – felly nid yw’n rhan o gylch gwaith Arweinydd y Cyngor (nac aelodau ei gabinet gwleidyddol).
Mae’r pwyllgor yn cynnwys cynghorwyr etholedig sy’n cwmpasu holl sbectrwm y pleidiau gwleidyddol. Eu rôl yw edrych ar yr holl dystiolaeth a gyflwynir iddynt yn deg ac yn wrthrychol – ychydig fel llys barn.
Ac yn union fel llys, rhaid i’r penderfyniadau a wna’r pwyllgor gael eu cefnogi gan y gyfraith.
Hyd yn oed os yw datblygiad arfaethedig yn amhoblogaidd, os bodlonir yr holl ofynion cyfreithiol, ni all y pwyllgor wrthod y cais heb adael ei hun yn agored i her gyfreithiol gan y datblygwr, a fyddai efallai’n golygu symiau enfawr o arian cyhoeddus.
Un peth y gall y pwyllgor ei wneud yw gosod amodau ar ddatblygwyr – yn ei hanfod, peri iddynt wneud pethau nad oeddent yn eu cynlluniau gwreiddiol. Pethau a all helpu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yng ngwrthwynebiadau pobl a helpu i sicrhau nad yw’r datblygiad yn effeithio’n andwyol ar gymunedau.
Yn dibynnu ar y cynnig, efallai y bydd yn rhaid iddynt blannu coed newydd ychwanegol neu wneud gwaith tirlunio, efallai y bydd yn rhaid iddynt osod mesurau atal sŵn ychwanegol neu gyfyngu ar eu horiau gweithredu.
Efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu am seilwaith cymunedol hanfodol hefyd. Yng Nghaerdydd, mae dros £100 miliwn o’r taliadau hyn, a elwir yn ‘gyfraniadau 106’ wedi’u negodi ers 2016/17. Gan helpu i dalu am bethau fel mannau chwarae ac ysgolion.
Y cyfan oherwydd y pwyllgor cynllunio.
Mae dinasoedd llwyddiannus yn tyfu am fod pobl am fyw ynddynt, ac mae dinasoedd sy’n tyfu angen cartrefi, swyddi, ysgolion, ysbytai, lleoliadau diwylliannol, parciau a chanolfannau trafnidiaeth.
Ac er bod poblogaeth Caerdydd yn tyfu ychydig yn arafach na’r disgwyl ychydig flynyddoedd yn ôl, mae’n dal i dyfu’n gyflym, mae rhestr aros hir am dai eisoes, ac mae’r ddinas yn mynd i barhau i dyfu, gyda’r cartrefi newydd hynny neu hebddynt.
Yn y pen draw, mae dewis, rydym naill ai’n sicrhau bod lle ar gael i godi cartrefi newydd neu bydd pobl (a gwasanaethau cyhoeddus) yn ymgodymu gydag effaith argyfwng tai.
Felly mae angen mwy o gartrefi arnom. A hoffi neu beidio, mae’n rhaid i’r cartrefi hynny gael eu codi yn rhywle.
Yr allwedd yw sicrhau bod datblygwyr yn adeiladu’r adeiladau cywir yn y mannau cywir. Dyna lle mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn chwarae ei ran. Mae’r CDLl presennol, er enghraifft, wedi golygu fod 32% o’r cartrefi a adeiladwyd yng Nghaerdydd ers 2017 yn rhai ‘fforddiadwy’ (ddim yn ddrwg, o’i gymharu â’r 12% yn Leeds dros yr un cyfnod, neu’r 25% a godwyd ym Mryste y llynedd).
Caiff y cynlluniau hyn eu hadolygu bob 4 blynedd ac yn y bôn maent yn nodi polisïau cynllunio lleol, fel bod datblygwyr yn gwybod pa ardaloedd sy’n addas i’w datblygu, a pha fath o adeiladau y mae’r ddinas yn gobeithio eu gweld yn cael eu codi yno.
Cefnogir y CDLl gan ganllawiau cynllunio atodol – manylion technegol ychwanegol ar y polisïau yn y CDLl, sy’n ymdrin â phethau fel:
- y safonau y bydd disgwyl i ddatblygwyr eu cyflawni gydag adeiladau uchel;
- y seilwaith sydd ei angen;
- diogelu mannau gwyrdd.
Mae’r CDLl yn cydbwyso materion fel faint o gartrefi sydd eu hangen arnom? A pha fath? A faint ddylai fynd ar dir glas? A faint ddylai fynd ar dir llwyd? A sut ydych chi’n gwneud lle i gyfleusterau fel ysgolion neu lonydd beicio tra’n colli cyn lleied o goed â phosibl?
Bob pedair blynedd mae trigolion yn cael dweud eu dweud ar yr holl bethau hynny, gan helpu i lunio golwg a naws y ddinas – ac mae eich cyfle chi’n dod yn fuan. Gwyliwch y gofod am ragor o wybodaeth.
*Rhybudd (fe ddwedon ni ei fod yn gymhleth): does dim angen caniatâd cynllunio ar bopeth – os yw’r gwaith yn fach efallai y cânt eu caniatáu o dan reolau ‘datblygu a ganiateir’.
Cynllunio: Holi ac Ateb.