Mae’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn dilyn proses benodol:

Cyflwyniad (Rheoliad 22)

  • Yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yn cyflwyno’r CDLl a dogfennau rhagnodedig i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC/PEDW)
  • Tudalennau gwe’r archwiliad yn mynd yn fyw
  • Penodi Arolygydd a Swyddog Rhaglen

Archwiliad

  • Arolygydd yn cyhoeddi Llythyr Cychwynnol
  • Materion a Phroblemau (MIQs) yn cael eu cyhoeddi
  • Cyflwyno datganiadau gwrandawiad
  • Sesiynau gwrandawiad yn cael eu cynnal
  • Arolygydd yn cyhoeddi Pwyntiau Gweithredu a nodiadau

Wedi’r gwrandawiad

  • Mae’r Cyngor yn cyhoeddi Newidiadau Materion sy’n Codi (NMCau), os oes angen
  • Ymgynghoriad 6 wythnos ar y NMCau
  • Sylwadau ar y NMCau yn cael eu cyhoeddi
  • Arolygydd yn ystyried sylwadau’r NMCau ac yn cwblhau’r adroddiad

Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu

  • Arolygydd yn cyhoeddi ei adroddiad
  • Y Cyngor yn mabwysiadu’r CDLl gyda newidiadau a argymhellir