Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol

Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn rhestr o safleoedd a gyflwynwyd i’r Cyngor yn ystod yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol a gynhaliwyd rhwng 31 Mai a 20 Awst 2021 a’r safleoedd hynny a gyflwynwyd i’w hystyried fel sylwadau i ymgynghoriadau’r CDLl Newydd.

Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn ddogfen annibynnol ac nid yw’n ffurfio rhan o’r CDLlN. Mae’n bwysig nodi os caiff safleoedd ymgeisiol eu cyflwyno, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddant yn rhan o’r CDLlN.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am y Safleoedd Ymgeisiol

Rydym am i chi ddweud wrthym a ydych yn gwrthwynebu neu’n cefnogi safle(oedd) ymgeisiol sy’n cael eu cynnwys yn y CDLl Newydd neu am wneud sylw yn unig.

I roi sylwadau ar Safle Ymgeisiol, dewiswch y safle yr hoffech wneud sylw arno a chwblhewch y ffurflen adborth.

Sylwer, na ellir trin sylwadau a wneir fel rhai cyfrinachol, a dim ond sylwadau a wneir yn y cam Adneuo hwn o’r ymgynghoriad fydd yn cael eu hanfon ymlaen at yr Arolygydd Cynllunio i’w hystyried fel rhan o’r Archwiliad i gadernid y CDLlN. Nid yw sylwadau a wnaed ar gamau blaenorol yn cael eu hanfon ymlaen at yr Arolygydd Cynllunio penodedig.

Asesu Safleoedd Ymgeisiol

Mae’r Safleoedd Ymgeisiol wedi eu hasesu i benderfynu a ydynt yn cefnogi Strategaeth y CDLl Newydd a, lle y bo hynny’n briodol, eu haddasrwydd i’w dwyn ymlaen i’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Mae Papur Technegol Cefndir Rhif 10 – Asesu Safleoedd Ymgeisiol, yn nodi sut y cynhaliwyd y broses hon a gellir ei gweld, ynghyd â’r papurau cefndir eraill, yn yr Ystafell Ymgynghori Rithwir.

Ymgynghoriad ar y Cynllun Adneuo

Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar ei Gynllun Adneuo ynghyd â’r Adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o 18 Chwefror hyd at 15 Ebrill 2025.

Os ydych am gyflwyno safle newydd neu ddiwygiedig i’w ystyried gyda’ch sylwadau, dylech ddarparu

  • Cynllun o’r safle, gyda ffiniau safle wedi’u nodi’n glir
  • Manylion y defnydd arfaethedig o’r safle
  • Tystiolaeth bod y safle’n cyd-fynd â Strategaeth y CDLl Newydd ac y byddai’r Cynllun yn gadarn pe bai’r safle’n cael ei gynnwys. Mae Nodyn Cyfarwyddyd ar rai o’r Asesiadau Allweddol sydd eu hangen i gefnogi safleoedd ymgeisiol newydd ar gael.
  • Arfarniad Cynaliadwyedd o’r safle arfaethedig y mae’n rhaid iddo fod yn gyson â’r cwmpas, y fframwaith a lefel y manylder fel y nodir yn yr Arfarniad Cynaliadwyedd ar gyfer CDLl Newydd Caerdydd, sydd ar gael i’w weld yn yr Ystafell Ymgynghori Rithwir.

Mae Rheoliadau CDLl yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol ofyn am enwebiadau ar gyfer safleoedd, a elwir Safleoedd Ymgeisiol, i’w cynnwys yn y CDLl.  Mae’r alwad am safleoedd ymgeisiol yn rhan bwysig o’r broses o lunio cynllun ac mae’n ofynnol ei chynnal yn gynnar yn y broses o baratoi cynllun, cyn y camau ffurfiol a chyn i’r Cynllun drafft gael ei baratoi a’i ymgynghori arno yn y Cam Strategaeth a Ffefrir.

Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i baratoi CDLl.  Un o swyddogaethau pwysig y CDLl yw nodi strategaeth defnydd tir y Cyngor a nodi’r lefel ddisgwyliedig o ddatblygiadau yn y dyfodol a allai ddigwydd a dyrannu tir ar gyfer datblygiad o’r fath a allai ddigwydd yn ystod oes y Cynllun.  Mae’r Llawlyfr CDLl (Llywodraeth Cymru, Mawrth 2020) yn argymell y dylai awdurdodau cynllunio lleol ymgysylltu â datblygwyr a thirfeddianwyr ar gam casglu tystiolaeth y CDLl i gasglu gwybodaeth am safleoedd datblygu y gellid eu cynnwys yn y cynllun. Nod hyn yw helpu’r cyngor i ystyried safleoedd addas i’w cynnwys yn y CDLl ac osgoi nifer sylweddol o safleoedd anhysbys yn cael eu cyflwyno yn ystod y cam archwilio olaf a hefyd i sicrhau y gellir darparu’r CDLl yn nhermau defnydd tir.

Rhwng 31 Mai a 20 Awst 2021, gwahoddodd y Cyngor bob parti yn ffurfiol i gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol posibl, ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, roeddent am gael eu hystyried i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd yn unol â’r canllawiau.

Dylai’r Gofrestr gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Cyfeirnod y Safle Ymgeisiol
  • Enw’r Safle
  • Adran Etholiadol
  • Cynigydd Safle
  • Defnydd a Gynigir
  • Arwynebedd y Safle (mewn hectarau)
  • Map Lleoliad y Safle (fel y’i cyflwynwyd gan y Cynigydd Safle)

Trefnir y safleoedd yn ôl Adran Etholiadol ac yn ôl cyfeirnod y safle.  Mae rhai safleoedd yn croesi ffin nifer o Adrannau Etholiadol a chyfeirir atynt yn unol â hynny.  Dylid nodi bod yr holl wybodaeth a ffiniau safleoedd yn y Gofrestr fel y nodir yn y cyflwyniadau a dderbyniwyd.  Mae’n bwysig nodi os caiff safleoedd posibl eu cyflwyno a’u cynnwys yn y Gofrestr, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddant yn cael eu cynnwys yn y CDLl.  Nid yw safleoedd sydd wedi’u cynnwys yn y gofrestr yn rhan o’r CDLl newydd.

Bydd sylwadau a dderbynnir ar y Safleoedd Ymgeisiol yn cael eu cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio fel rhan o’r archwiliad i gadernid y CDLl Newydd.

Sylwer, na ellir trin sylwadau a wneir fel rhai cyfrinachol, a dim ond sylwadau a wneir yn y cam Adneuo hwn o’r ymgynghoriad fydd yn cael eu hanfon ymlaen at yr Arolygydd Cynllunio i’w hystyried fel rhan o’r Archwiliad i gadernid y CDLlN. Nid yw sylwadau a wnaed ar gamau blaenorol yn cael eu hanfon ymlaen at yr Arolygydd Cynllunio penodedig.

Y Safleoedd Ymgeisiol

Gallwch weld y Safleoedd Ymgeisiol isod neu gallwch eu gweld ar fap.