Bydd yr adran hon yn cynnwys dyddiadau gwrandawiadau, lleoliad, gwybodaeth am y lleoliad a gwybodaeth ddefnyddiol arall sy’n gysylltiedig â’r gwrandawiadau.
Siarad yng ngwrandawiadau’r archwiliad?
Mae’r hawl i ymddangos a rhannu eich tystiolaeth gyda’r Arolygwyr fel arfer yn gyfyngedig i’r bobl hynny a wnaeth sylwadau er mwyn ceisio cael newid i’r cynllun yn ystod yr ymgynghori ar y Cynllun Adneuo. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 18 Chwefror a 15 Ebrill 2025.
Os nad ydych yn siŵr a gewch ganiatâd i siarad, cysylltwch â’r Swyddog Rhaglen am gyngor.
Mae gan unrhyw un yr hawl i fynychu’r sesiynau gwrandawiad fel arsylwr. Mae’n ddefnyddiol rhoi gwybod i’r Swyddog Rhaglen ymlaen llaw os ydych yn bwriadu mynychu.
Yn y gwrandawiadau, mae’r Arolygydd yn ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd mewn sylwadau ffurfiol, datganiadau’r gwrandawiad ac a roddir ar lafar yn y gwrandawiadau eu hunain. Unwaith y bydd dyddiadau’r gwrandawiadau wedi’u cadarnhau, byddwn yn darparu’r rhaglen o wrandawiadau, agendâu a datganiadau gwrandawiad.
Cyfarfod Cyn y Gwrandawiadau
Cynhelir Cyfarfod Cyn y Gwrandawiadau am 09:30 ddydd Mawrth 24 Mawrth 2026 yn:
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Yr Arolygwyr wedi llunio agenda ar gyfer y Cyfarfod Cyn Gwrandawiad:
Mae’r cyfarfod cyn y gwrandawiadau ar agor i bob aelod o’r cyhoedd.
Diben y cyfarfod cyn y gwrandawiadau yw trafod materion gweithdrefnol sy’n ymwneud â’r Archwiliad, gan gynnwys y rhaglen gwrandawiadau drafft a sut y bydd y gwrandawiadau’n cael eu cynnal.
Bydd rhaglen gwrandawiadau drafft ar gael cyn y cyfarfod.
Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio’n fyw.
Arsylwi’r cyfarfod cyn y gwrandawiadau yn bersonol
Bydd nifer cyfyngedig o seddi ar gael i aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno arsylwi’r cyfarfod cyn y gwrandawiadau yn bersonol.
Os hoffech fynychu fel arsylwr ac nad ydych eisoes wedi hysbysu’r Swyddog Rhaglen, gwnewch hynny cyn gynted â phosibl. Rhowch eich enw chi ac enwau pawb yn eich plaid.
Ar ôl cyrraedd Neuadd y Sir, arhoswch y tu allan i’r brif fynedfa lle bydd Swyddog y Cyngor ar gael i gynorthwyo. Rhowch wybod iddo eich bod yn mynychu’r cyfarfod cyn y gwrandawiadau a byddwch yn cael eich hebrwng i Ystafell Bwyllgor 1.
Bydd y Swyddog Rhaglen, Kerry Trueman, yn bresennol yn yr ystafell ac ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau gweithdrefnol.
Cynghorir mynychwyr i gyrraedd o leiaf 10 munud cyn yr amser cychwyn a drefnwyd i gael amser i gofrestru a chymryd eu seddi.
Parcio, cyfarwyddiadau a thrafnidiaeth leol
Nid oes lleoedd parcio ar gael ar safle Neuadd y Sir oherwydd bod yr Arena Caerdydd newydd yn cael ei hadeiladu. Mae lleoedd parcio ar gael gerllaw yng Nghanolfan y Ddraig Goch – cofiwch y codir ffioedd. Fodd bynnag, mae parcio am ddim os ydych chi’n gwario £6 neu fwy yng Nghanolfan y Ddraig Goch.
Mae’r safle bws agosaf ar Rhodfa Lloyd George.
Yr orsaf drenau agosaf yw gorsaf Bae Caerdydd sydd hefyd ar Rhodfa Lloyd George. Mae’r ddau o fewn cerdded i Neuadd y Sir.
Mae yna wasanaethau bws a thrên rheolaidd. Edrychwch ar wefan Bws Caerdydd am lwybrau lleol neu ewch i wefan TravelineCymru i gynllunio eich taith ar-lein.
Hygyrchedd
Mae lleoliad y gwrandawiadau yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae cyfleusterau toiledau i’r anabl ar gael yn yr ardal ymgynnull. Mae mynediad lifft ar gael o dderbynfa Neuadd y Sir.
Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad penodol, cysylltwch â’r Swyddog Rhaglen cyn gynted â phosibl fel y gellir gwneud trefniadau priodol.
Wi-Fi
Mae Wi-Fi sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar gael yn y lleoliad. Siaradwch â’r Swyddog Rhaglen os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad i’r rhwydwaith.
