Bydd Cynllun Datblygu Lleol newydd Caerdydd yn cael ei archwilio gan Arolygydd Cynllunio annibynnol.  Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni i wybodaeth allweddol am baratoad ar gyfer a gweithrediad yr archwiliad. Byddwn yn darparu diweddariadau pan fo angen.

Pwrpas yr archwiliad yw i’r Arolygwyr Cynllunio annibynnol, a benodir gan Lywodraeth Cymru, asesu’r cynllun a gyflwynwyd a phenderfynu a ydynt o’r farn bod y cynllun yn ‘gadarn’ o ran polisi cynllunio cenedlaethol, ac yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Beth yw ystyr y term ‘cadarn’?

Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r CDLl fod yn “gadarn”, ac i hyn gael ei brofi gan archwiliad annibynnol. Mae yna 3 prawf cadernid. O dan bob prawf mae cyfres o gwestiynau a gaiff eu hystyried:

Prawf 1: A yw’r cynllun yn gweddu?

Mae Prawf 1 yn asesu a yw’r CDLl yn gyson â chynlluniau eraill.

  • A yw’n ystyried polisi cenedlaethol a CGC?
  • A yw’n ystyried y Nodau Llesiant?
  • A yw’n ystyried Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru?
  • A yw’n gyson â chynlluniau, strategaethau rhanbarthol a rhaglenni cyfleustodau?
  • A yw’n gydnaws â chynlluniau awdurdodau cyfagos?
  • A yw’n adlewyrchu’r Cynllun Integredig Sengl (CIS) neu Gynllun Rheoli’r Parciau Cenedlaethol (CRhPC)?

Prawf 2: A yw’r cynllun yn briodol?

Mae Prawf 2 yn asesu a yw’r cynllun yn briodol i’r ardal o ystyried y dystiolaeth.

  • A yw’n benodol yn lleol?
  • A yw’n mynd i’r afael â’r materion allweddol?
  • A yw’n cael ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn, gymesur a chredadwy?
  • A ellir dangos y rhesymeg y tu ôl i bolisïau’r cynllun?
  • A yw’n ceisio diwallu anghenion a aseswyd a chyfrannu at gyflawni datblygu cynaliadwy?
  • A yw’r weledigaeth a’r strategaeth yn gadarnhaol ac yn ddigon uchelgeisiol?
  • A yw’r dewisiadau amgen ‘go iawn’ wedi cael eu hystyried yn briodol?
  • A yw’n rhesymegol, yn rhesymol ac yn gytbwys?
  • A yw’n gydlynol ac yn gyson?
  • A yw’n glir ac â ffocws?

Prawf 3: A fydd y cynllun yn cyflawni?

Mae Prawf 3 yn asesu a yw’n debygol o fod yn effeithiol.

  • A fydd yn effeithiol?
  • A ellir ei weithredu?
  • A oes cefnogaeth gan y darparwyr seilwaith perthnasol yn ariannol ac o ran cyrraedd amserlenni perthnasol?
  • A fydd y datblygiad yn hyfyw?
  • A ellir darparu’r safleoedd a ddyrennir?
  • A yw’r cynllun yn ddigon hyblyg? A oes darpariaethau wrth gefn priodol?
  • A yw’n cael ei fonitro’n effeithiol?

 

Mae’r broses archwilio yn cynnwys gwrandawiadau cyhoeddus sy’n cael eu cynnal gan yr Arolygwyr.  Gwahoddir ymatebwyr perthnasol i fynychu a rhoi tystiolaeth ar ystod o faterion, fel y manylir gan yr Arolygwyr. Ar ôl y gwrandawiadau, bydd yr archwiliad yn parhau ar agor nes bod yr Arolygydd wedi cwblhau ei adroddiad.

Darganfyddwch fwy am sut mae’r archwiliad yn mynd rhagddo.

Mae’r archwilio yn broses barhaus, sy’n digwydd o’r dyddiad cyflwyno hyd at dderbyn Adroddiad yr Arolygwyr Cynllunio penodedig. Mae hyd archwiliad yn dibynnu ar unrhyw faterion o ran cadernid sy’n codi a’r camau sydd eu hangen i’w datrys.

Yn gyffredinol, mae’r archwiliad yn para tua 11 mis. Dylid bod yn ymwybodol mai brasamcan yn unig yw hwn, fel y darperir yn Archwiliadau Cynlluniau Datblygu Lleol: canllaw gweithdrefnol.

Byddwn yn diweddaru cyfranogwyr yn ôl yr angen a bydd diweddariadau yn cael eu cyhoeddi ar-lein.

Swyddog Rhaglen

Penodwyd Kerry Trueman o Programme Officer Solutions Limited yn Swyddog Rhaglen annibynnol a bydd Ian Bussey yn ei chynorthwyo.

Bydd y Swyddog Rhaglen yn:

  • cydlynu gweinyddu’r archwiliad yn annibynnol, a
  • cysylltu rhwng yr Arolygydd Cynllunio, yr Awdurdod Lleol a phartïon eraill â diddordeb gydol yr archwiliad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr archwiliad, cysylltwch â’r Swyddog Rhaglen.

E-bost: Kerry.trueman@cardiff.gov.uk
Ffôn: 07582 310364
Post: Tŷ Pendragon, 1 Bertram Drive, Cilgwri, CH47 0LG

Rôl yr Arolygydd/Arolygwyr

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi penodi Gareth Hall BSc (Anrh) DipTP MRTPIac Anthony Thickett BA (Anrh) BTP MRTPI i gynnal yr archwiliad annibynnol oGynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd.

Nid rôl yr Arolygydd/Arolygwyr penodedig yw gwella’r CDLl, ond:

  • Gynnal asesiad annibynnol o gadernid cyffredinol y CDLl a’i fod yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer ei baratoi.
  • Gwneud argymhellion i sicrhau ei fod yn gadarn.

Darganfyddwch fwy am Archwiliadau’r CDLl yn y Dogfen ganllaw Gweithdrefn Archwiliadau Cynlluniau Datblygu Lleol.