Cardiff Bay

Bydd y gwrandawiadau ar gyfer Archwiliad Cynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd yn dechrau am 09:30 ddydd Mawrth 9 Mehefin 2026. Cynhelir y sesiynau agoriadol yn:

Neuadd y Sir

Glanfa’r Iwerydd

Caerdydd

CF10 4UW

Am yr holl amseroedd dechrau, dyddiadau, lleoliadau a gwybodaeth am sesiynau eraill, gweler Rhaglen Gwrandawiadau Ddrafft yr Arolygwyr.

Mae’r Arolygwyr wedi cyhoeddi Agendâu Sesiynau Gwrandawiad unigol ar gyfer pob sesiwn gwrandawiad. Gellir cael gafael ar yr agendâu drwy dudalen we’r Sesiynau Gwrandawiad.

Bydd gan bob sesiwn gwrandawiad ei thudalen we unigol ei hun lle bydd dogfennau perthnasol yn cael eu cyhoeddi maes o law. Gellir cyrchu’r tudalennau hyn o dudalen we’r Sesiynau Gwrandawiad.