\\ictapps.cardiff.gov.uk\snshareddata\Placemaking\Conservation\Local List\2022 onwards - Review\Pubs\Photo dump\69 - The Globe 2.jpg
\\ictapps.cardiff.gov.uk\snshareddata\Placemaking\Conservation\Local List\2022 onwards - Review\Pubs\Photo dump\71 The Cardiff Arms (former) 2.jpg

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

71 The Cardiff Arms (gynt)

Dyddiad

c.1886

Cyfeiriad

63-67 Railway Street, Caerdydd CF24 2DF

Download site boundary plan.

Ward

Sblot

Hanes

Adeiladwyd Railway Street rhwng 1881 a 1899 fel rhan o waith datblygu’r Sblot.

Ar 22 Medi 1886, adroddodd y South Wales Daily News fod cais wedi cael ei dderbyn ar gyfer y Cardiff Arms, gwesty newydd yn ardal newydd Spotlands ar ochr ddeheuol rheilffordd y Great Western.

Erbyn 1893 adroddodd y papurau mai ‘poblogaeth y Sblot oedd 10,183 a bod y cynnydd bron yn annormal’ a bod y ddwy dafarn, y Cardiff Arms a’r Lord Wimborne, ‘dan ei sang’.1

Er ei bod yn ymddangos nad oedd y ddau adeilad cyfagos i’r gogledd-ddwyrain (rhifau 65 a 67) yn rhan o’r dafarn gynharaf (a oedd yn meddiannu’r rhan gornel drillawr yn unig yn wreiddiol), y tebygrwydd yw y cawsant eu datblygu ar amser tebyg ac maent yn cynnwys deunyddiau a manylion tebyg.

Erbyn 1916, roedd y dafarn wedi ehangu i’r eiddo cyfagos (65 Railway Street) ac, ym 1937, cyflogwyd Syr Percy Thomas i ddylunio addasiadau i’r adeilad (gan gynnwys ffryntiad blaen cyfredol y llawr gwaelod).

Ar ôl cau’r dafarn, cymeradwywyd cais i addasu rhifau 63-65 Railway Street yn eiddo preswyl yn 2013 (12/01137/DCI).

 

1 Gweler Cymdeithas Hanes Lleol y Rhath, Pubs and Clubs.

Disgrifiad

Mae’r adeilad yn meddiannu lleoliad blaenllaw ar gornel Railway Street ac Adeline Street.

Mae’r rhan drillawr wreiddiol bron yn sgwâr o ran ei chynllun, gyda chornel ffasedog i’r gyffordd. Mae’r llawr gwaelod wedi’i orffen mewn brics coch unedau bach gyda ‘queen-closers’ mewn trefn ddeniadol i’r agoriadau a’r cyrsiau milwrol o dan y ffenestri, Gyda chornis main uwchben o garreg Portland heb lawer o fanylion. Mae’r arwyddion bwrdd ffasgia wedi’u colli, gydag estyll llorweddol uPVC yn eu lle. Mae’r gwaith maen nodweddiadol hwn wedi’i briodoli i Syr Percy Thomas, 1937. Mae’r lloriau uchaf wedi’u ffurfio mewn carreg Pennant lanw ac wyneb morthwyl gyda thriniaethau cerrig nadd Fforest y Ddena a llin-gwrs plaen integredig i bennau ffenestri’r llawr cyntaf. Mae bwâu cynnal brics llwydfelyn i ffenestri’r llawr cyntaf. Mae gan lawr y nenlofft ffenestri dormer bondo llawn cymeriad mewn brics llwydfelyn gyda thoeau talcen slip ac estyll tywydd addurnol, siamffrog. Mae gan y to fondo sy’n bargodi gyda bracedi pren wedi’u mowldio. Mae corn simnai wedi’i gwtogi i’r wedd dde-orllewinol (Adeline Street).

Yn wreiddiol, roedd y rhan ddeulawr i’r gogledd-ddwyrain yn ddau eiddo ar wahân, yr oedd un ohonynt yn rhan o’r dafarn yn ddiweddarach (fel a welir yn y ffryntiad parhaus gan Percy Thomas ar y llawr gwaelod). Mae gan rif 67 wedd wedi’i rendro yma, gyda philaster brics i’r ochr dde.

Mae’r llawr uchaf mewn carreg Pennant lanw sy’n cydweddu. Mae gan y ffenestri fframiau cerrig nadd Portland â phennau ysgwyddog addurnol a siliau wedi’u mowldio, gyda’r ddau wedi’u hintegreiddio i’r llin-gyrsiau. Mae bwâu cynnal uwchben mewn brics brith. Mae agoriadau fentiau œil-de-bœuf llawn cymeriad mewn brics tebyg i’r ffenestri dormer â thoeau talcen slip uwchben. Mae estyll tywydd siamffrog llawn cymeriad wedi cael eu colli o rif 67.

Mae’r drysau a’r ffenestri wedi cael eu colli, gyda uPVC yn eu lle.

Rheswm

Tafarn Fictoraidd gynt mewn lleoliad blaenllaw wedi’i hadeiladu gyda deunyddiau ansawdd da. Er gwaethaf cael ei haddasu, mae wedi cadw llawer o’i chymeriad, gan gynnwys i’r gwaith brics diweddarach wedi’i ysbrydoli gan y mudiad Celfyddyd a Chrefft ar y llawr gwaelod, sydd wedi’i briodoli i Syr Percy Thomas.

Mae rhifau 65 a 67 gerllaw wedi’u cynnwys am eu hadeiladwaith o’r un cyfnod a’u gwerth grŵp llawn cymeriad.

Gwerth Hanesyddol, Esthetig a Chymunedol.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

DX308/1

Gwesty Cardiff Arms

c.1880

Ffotograff o Westy Cardiff Arms, Caerdydd, a dynnwyd yn ystod tenantiaeth Francis Matthews, landlord olaf y Cardiff Arms.

 

BC/S/1/32523

Addasiadau i Westy Cardiff Arms, Gwesty Cardiff Arms, Railway St, Y Sblot

1937

Pensaer:  Percy Thomas

Datblygwr:  S A Brain

Delweddau ychwanego

1919 OS Map showing The Cardiff Arms pub (surveyed 1915 to 1916)

Map 1919 yr AO (arolygwyd 1915-16)

Lleoliad

Dweud eich dweud