Gorffennaf 2024

Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt)

Mae Cynllun Corfforaethol ‘Cryfach Tecach Gwyrddach’ y Cyngor ar gyfer 2024-27 yn cynnwys ymrwymiad i ‘greu lleoedd gwell trwy ddarparu cymunedau newydd, cynaliadwy, o ansawdd uchel a chysylltiedig gan … ddefnyddio ein pwerau i ddiogelu a dathlu adeiladau lleol fel tafarndai, mannau cymunedol a lleoliadau cerddoriaeth, yn enwedig y rhai sy’n gyfoethog yn hanes dosbarth gweithiol y ddinas’.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ffurfio rhan o adolygiad cam cyntaf o Restr Leol Caerdydd o Adeiladau a Safleoedd o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol (Rhestr Treftadaeth Leol), gan ganolbwyntio ar dafarndai, gwestai a chlybiau o bwys lleol (yn y gorffennol a’r presennol). Gallwch ddarllen mwy am hyn yn Adroddiad y Cabinet mis Medi 2023.

Ymgynghoriad wyth wythnos – 24ain Gorffennaf i 18fed Medi 2024

Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried a bydd argymhellion yn cael eu gwneud i Gabinet y Cyngor maes o law.


Mae deddfwriaeth a chanllawiau cynllunio yn annog awdurdodau lleol i nodi asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig a chynnal rhestr ohonynt. Gall y rhestr hon gynnwys asedau hanesyddol lleol nad ydynt eisoes wedi’u dynodi’n henebion cofrestredig, yn adeiladau rhestredig neu’n barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig.

Mae rhestr leol yn darparu’r sylfaen wybodaeth sy’n galluogi awdurdodau cynllunio lleol i gydnabod asedau hanesyddol o bwysigrwydd lleol penodol yn y broses rheoli datblygu, trwy bolisïau yn y cynllun datblygu lleol y gellir eu cefnogi gan ganllawiau cynllunio atodol. Gall hyn helpu awdurdodau cynllunio lleol i reoli newid fel bod asedau hanesyddol lleol yn parhau i ymateb i anghenion heddiw a chyfrannu at fywiogrwydd yr ardal heb effaith andwyol ar eu cymeriad. Mae rhestru lleol hefyd yn tynnu sylw at asedau hanesyddol sydd o ddiddordeb lleol arbennig ac yn rhoi cyfle i gymuned gymryd rhan yn y broses o’u nodi a gofalu amdanynt yn briodol.

Dylai’r asedau a nodwyd i’w cynnwys ar y rhestr wneud cyfraniad pwysig at arbenigrwydd lleol a meddu ar y potensial i gyfrannu at wybodaeth y cyhoedd. Dylai eu dewis fod yn seiliedig ar feini prawf clir, tystiolaeth leol gadarn ac ymgynghori. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gyda chanllawiau Cadw Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru.

Mae gan Gaerdydd Restr Leol o Adeiladau o Deilyngdod eisoes yn cynnwys tua 200 o geisiadau, rhai ohonynt yn cynnwys nifer o adeiladau wedi’u grwpio. Cymeradwywyd y rhestr gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Tachwedd 1997, gyda 323 o adeiladau wedi’u nodi bryd hynny.  Nid yw’r rhestr wedi’i hadolygu’n gynhwysfawr ers hynny, er bod tua thraean o’r adeiladau a nodwyd ar y pryd wedi’u rhestru gan Cadw ers hynny, gan roi diogelwch statudol iddynt.

Oherwydd y diffyg rheolaethau cynllunio cenedlaethol cymharol a roddwyd i restru lleol, mae rhai adeiladau wedi’u newid yn sylweddol yn anffodus, neu mewn achosion eithafol wedi’u dymchwel. Felly, mae’r rhestr yn gofyn am ddiwygio i fodloni’r newidiadau hyn, cynnwys rhai newydd, a chyflwyno rheolaethau newydd ar ddymchwel ac addasu lle bo hynny’n berthnasol.

Mae Polisi EN9 Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig Caerdydd yn nodi y caniateir datblygiad dim ond lle gellir dangos ei fod yn cadw neu’n gwella ansawdd pensaernïol, arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol, cymeriad, uniondeb a/neu leoliad adeilad rhestredig lleol. Er gwaethaf y polisi hwn, mae rhai mathau o ddatblygiadau yn elwa ar yr hyn a elwir yn gyffredin yn ‘hawliau datblygiad a ganiateir’. Mae’r rhain wedi’u nodi yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y’i diwygiwyd). Er enghraifft, mae Rhan 31 o Atodlen 2 o’r Gorchymyn yn caniatáu dymchwel adeilad.

Rydym yn bwriadu adolygu ein Rhestr Treftadaeth Leol gyfan dros y blynyddoedd nesaf, mae hyn yn cynnwys rhyw 200 o geisiadau ar hyn o bryd ac fe’i hadolygwyd ddiwethaf (a’i fabwysiadu gyntaf) ym 1997. Bydd y broses hon yn ceisio sicrhau bod yr adeiladau hyn ac eraill a nodwyd yn cael yr un amddiffyniad rhag eu dymchwel ag y mae’r tafarndai a’r clybiau sydd bellach yn cael eu hadolygu fel rhan o gam un.  Bydd yr adolygiad hwn hefyd yn cynnwys ymgynghoriad a chymeradwyaeth y Cabinet.

Bydd y polisïau treftadaeth perthnasol hefyd yn cael eu hadolygu yn yr adolygiad parhaus o’r CDLl.

Nid yw safleoedd masnachol fel tafarndai a chlybiau yn elwa ar y rhan fwyaf o’r hawliau datblygiad a ganiateir a roddir i ddeiliaid tai – felly mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer addasiadau sy’n newid edrychiad yr adeilad yn sylweddol (estyniadau, newidiadau i doeau, ffenestri neu ddrysau, er enghraifft). Fodd bynnag, yn wahanol i adeiladau a restrwyd gan Cadw (Graddau 1, 2* a 2), nid yw pob un ar y Rhestr Leol yn ddarostyngedig i unrhyw reolaethau cynllunio penodol dros ddymchwel ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae eu statws yn golygu’n syml, pan fydd gwaith i adeilad rhestredig lleol yn galw am ganiatâd cynllunio, gellir ystyried diddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol arbennig yr adeilad cyn gwneud penderfyniad. Gan nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer dymchwel ar hyn o bryd, mae hyn yn gadael llawer o’n hasedau treftadaeth lleol yn arbennig o agored i gael eu dymchwel.

Mae achosion proffil uchel fel The Crooked House yn Ne Swydd Stafford yn dangos cryfder teimladau’r cyhoedd sy’n gysylltiedig â cholli tafarndai nodweddiadol. I fynd i’r afael â’r mater hwn, mae’r adolygiad cam cyntaf hwn o dafarndai a chlybiau i’w cynnwys yn ein Rhestr Leol hefyd yn cynnig cyfyngu ar hawliau datblygiad a ganiateir ar gyfer dymchwel (ac addurno allanol), gan ganiatáu i’r Cyngor ystyried eu diddordeb lleol pe bai unrhyw ddatblygiad o’r fath yn cael ei gynnig. Yn cael ei adnabod fel Cyfarwyddiadau Erthygl 4, mae hyn yn gofyn am broses ymgynghori a chadarnhau benodol a gynhelir ar ôl i Gabinet y Cyngor fabwysiadu’r Rhestr Leol. Bydd perchnogion yr adeiladau hyn yn derbyn llythyrau ychwanegol pan fydd y Cyfarwyddiadau hyn yn cael eu gwneud yn ddiweddarach yn 2024/5.

Yn wahanol i Loegr (ers 2017), nid oes modd deddfwriaethol awtomatig i wrthsefyll yr egwyddor o ddymchwel neu newid defnydd tafarndai yng Nghymru (gweler hefyd Asedau o Werth Cymunedol a protectpubs.org.uk). Mae hyn yn golygu, yn y pen draw, mai’r unig ffordd o gadw’r lleoedd hyn yn fyw yng Nghymru yw bod y gymuned yn parhau i’w defnyddio, eu cefnogi a’u coleddu. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â diogelu adeiladau sy’n bwysig i hanes a hunaniaeth y ddinas, p’un a ydynt yn parhau i gael eu defnyddio fel tafarndai ai peidio.

Mae manylion y tafarndai, clybiau a’r gwestai hynny (rhai presennol a chynt) y bwriedir eu hychwanegu at ein Rhestr Leol ar hyn o bryd i’w gweld isod. Gellir hidlo cofnodion yn ôl ward neu drwy fap.

Mae Adeiladau Rhestredig yn cael eu dynodi gan Cadw am eu pwysigrwydd cenedlaethol.  Maent yn cael eu graddio’n II, yn II* neu’n I gan ddibynnu ar eu pwysigrwydd o ran diddordeb pensaernïol neu hanesyddol. Nid oes hawliau datblygiad a ganiateir ar gyfer addasiadau i adeiladau rhestredig, a rheolir newid drwy’r broses Caniatâd Adeilad Rhestredig.

I’r gwrthwyneb, nid oes angen caniatâd penodol i addasu neu ymestyn asedau rhestredig lleol, ond bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried eu diddordeb arbennig wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Yn wahanol i adeiladau rhestredig, nid yw Rhestr Leol yn effeithio ar newidiadau i’r tu mewn i’r adeiladau.

Mae dynodiadau statudol eraill Cadw yn diogelu arwyddocâd cenedlaethol Henebion Cofrestredig a Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig. Mae hefyd gofrestr anstatudol o Dirweddau Hanesyddol.

Ystyrir bod y 71 o adeiladau a nodwyd o ddiddordeb digonol i’w cynnwys wrth eu hasesu yn erbyn y meini prawf dewis canlynol¹:

1. Teilyngdod Esthetig neu Ddylunio

Asedau hanesyddol sydd o bwys i’r ardal leol neu’r rhanbarth yn rhinwedd eu dyluniad, eu haddurniad neu eu crefftwriaeth, gan gynnwys enghreifftiau sydd wedi’u cadw’n dda o fathau neu ardd-ulliau adeiladu cynrychioliadol lleol, neu dechnegau lleol nodedig o adeiladu neu ddefnyddio deunyddiau.

2. Gwerth Hanesyddol

Asedau hanesyddol o bob math sy’n dangos agweddau pwysig ar fywyd y rhanbarth neu’r ardal leol yn y gorffennol, yn enwedig ei hanes cymdeithasol, economaidd neu ddiwylliannol.

3. Cysylltiadau Hanesyddol

Asedau hanesyddol o bob math sydd â chysylltiad hanesyddol agos â phobl, digwyddiadau neu symudiadau sy’n bwysig i’r rhanbarth neu’r ardal leol. Gwaith allweddol gan benseiri adnabyddus neu nodedig.

4. Statws Tirnod

(a) Adeiladau sy’n cyfrannu’n sylweddol at olwg treflun e.e. tafarndai, eglwysi, ffatrïoedd, sinemâu, banciau.

(b) Adeiladau sy’n ganolbwynt o ddiddordeb cymdeithasol neu weledol, e.e. safleoedd cornel amlwg.

5. Gwerth Grŵp

Asedau hanesyddol o bob math sydd â pherthynas weledol, ddylunio neu hanesyddol amlwg, neu sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at leoliad asedau hanesyddol eraill, neu at gymeriad anheddiad.

(a) Grwpiau sydd, yn eu cyfanrwydd, â gwerth pensaernïol neu hanesyddol unedig i’r ardal leol.

(b) Terasau, adeiladau sy’n amgáu (sgwariau cyfagos ac ati), rhesi unffurf ac ati.

6. Gwerth Cymdeithasol a Chymunedol

Asedau hanesyddol sydd â gwerth cymdeithasol fel ffynhonnell o arbenigrwydd lleol neu ryngweithio cymdeithasol; asedau sy’n cyfrannu at hunaniaeth leol neu gof cyfunol; asedau sydd â gwerth ys-brydol, neu arwyddocâd symbolaidd. Gall adeiladau o’r fath gynnwys eglwysi, ysgolion, neuaddau pentrefi a threfi, capeli, tafarndai, cofebion, gweithleoedd a thlotai, a oedd yn ganolbwynt neu’n chwarae rôl gymdeithasol allweddol yn natblygiad hanesyddol yr ardal.  O ystyried eu cyfraniad arbennig unigryw at gof cyfunol, bydd tafarndai (neu hen dafarndai a adeiladwyd yn bwrpasol) yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer rhestru lleol lle maent o ddiddordeb hanes-yddol (yn gyffredinol cyn yr Ail Ryfel Byd) a phensaernïol.

7. Oedran

Adeiladau sydd wedi goroesi o’r cyfnodau datblygu cynharaf (yn achos Caerdydd cyn c.1875) a datblygiad maestrefol dechrau’r 20fed ganrif ac sydd wedi goroesi mewn unrhyw beth tebyg i’w ffurf wreiddiol. Ni fydd newidiadau arwynebol y gellir eu newid yn ôl yn y dyfodol, e.e. adfer ffenestri pren, yn atal eu cynnwys ar y rhestr.

8. Prinder

Asedau hanesyddol sy’n rhoi tystiolaeth weddilliol brin o agwedd benodol ar hanes a datblygiad yr ardal leol.

Eithriadau:

Ni chynigir adeiladau ar gyfer rhestr leol (neu reoliadau Erthygl 4 dilynol) os ydynt yn:

  • Adeiladau ar restr statudol Cadw (gradd II neu uwch).
  • Adeiladau a ddiogelir am eu bod o fewn ardal gadwraeth bresennol – ni chaiff y rhain eu hychwanegu at y rhestr leol oni bai nad ydynt yn cyfrannu’n gadarnhaol at gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth – er enghraifft maen nhw’n cynnig cyfraniad niwtral ond o deilyngdod yn eu rhinwedd eu hunain.

¹Meini prawf a gymeradwywyd yng Nghyfarfod Cabinet Medi 2023

Sylwch fod llawer o dafarndai eisoes wedi’u rhestru gan Cadw (Graddau II, II* neu I) neu o fewn Ardal Gadwraeth – nid yw’r rhain yn cael eu cynnig ar gyfer eu rhestru’n lleol. Mae’r map hwn yn dangos y rhestrau arfaethedig mewn perthynas â’r rhai sydd eisoes wedi’u diogelu.

Y Vulcan Lounge

Cyfeiriad:  2 Wyeverne Road, Caerdydd CF24 4BH
Ward:  Cathays
Y Rheswm dros Hepgor: Mae diddordeb hanesyddol oherwydd tafarn a oedd ar y safle hwn (Gwerth Cymunedol a Hanesyddol), ond mae’r adeilad presennol yn far a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif. Diddordeb Hanesyddol, Cymunedol ac Esthetig cyfyngedig

Yr Admiral (Napier)

Cyfeiriad:  239 Heol Dd. y Bont-faen, Caerdydd CF11 9AL
Ward:  Glan-yr-afon
Y Rheswm dros Hepgor: Mae diddordeb hanesyddol oherwydd tafarn a oedd ar y safle hwn (Gwerth Cymunedol a Hanesyddol), ond cafodd yr adeilad presennol ei adeiladu ar ôl 1960 ac felly mae ganddo Ddiddordeb Esthetig cyfyngedig.  

Gwesty’r Royal Exchange, Ystum Taf

Cyfeiriad:  79b Heol Tŷ Mawr, Caerdydd CF14 2FQ
Ward:  Ystum Taf
Y Rheswm dros Hepgor:  Er bod ganddo rywfaint o Ddiddordeb Cymunedol, mae wedi’i addasu’n sylweddol (Wal Allanol, Inswleiddio ac ati) O Werth Esthetig isel

Gwesty’r Three Arches, Llanisien

Cyfeiriad:  Heathwood Rd, Caerdydd CF14 4HS
Ward:   Cyncoed
Y Rheswm dros Hepgor: Honnir mai gwaith Syr Percy Thomas oedd hwn (y mae cofnodion archif ar ei gyfer yn goroesi o 1939), yn ôl pob sôn adeiladwyd Gwesty’r Three Arches yn ôl dyluniadau P. Thomas a’i fab, 1946.  O Werth Esthetig isel.

Y Coach House, Trelái

Cyfeiriad:  Rhodfa’r Orsaf, Caerdydd CF5 4AA
Ward:  Y Tyllgoed
Y Rheswm dros Hepgor: Tafarn cyn 1875 (Gwerth Cymunedol a Hanesyddol) ond ar gau a chanddi ddifrod tân difrifol. Ychydig o Ddiddordeb Esthetig sydd ar ôl.  Yn cael ei dymchwel ar hyn o bryd.

Y New Bridge Inn, Trowbridge

Cyfeiriad: Heol Abergele, Caerdydd CF3 1RR
Ward: Trowbridge
Y Rheswm dros Hepgor:  Wedi’i hadeiladu ar ôl y rhyfel (1966). Ar gau erbyn hyn. Diddordeb Hanesyddol, Cymunedol ac Esthetig cyfyngedig.

Y Canadian

Cyfeiriad:  143 Pearl St, Caerdydd CF24 1PN
Ward:   Adamsdown
Y Rheswm dros Hepgor: Ddim yn gweithredu fel tafarn bellach. Rhywfaint o Werth Cymunedol a Hanesyddol. Wedi’i dymchwel yn rhannol fel rhan o ddatblygiad diweddar. Mae’r Diddordeb Esthetig wedi’i golli.

Y Roath Cottage

Cyfeiriad:  25-26 Plasnewydd Road, Caerdydd CF24 3EN
Ward:  Plasnewydd
Y Rheswm dros Hepgor: Er ei fod ar lain gornel, nid yw’n arbennig o flaenllaw oherwydd ei faint domestig. Yn fflatiau erbyn hyn. Er bod ganddo rywfaint o Werth Cymunedol, mae’r holl Dddiddordeb Esthetig wedi cael ei golli trwy waith addasu.

Y New Dock Tavern

Cyfeiriad:  188 Broadway, Caerdydd CF24 1QJ
Ward: Adamsdown
Y Rheswm dros Hepgor: Er ei fod ar lain gornel, nid yw’n arbennig o flaenllaw oherwydd ei faint domestig. Yn fflatiau erbyn hyn. Er bod ganddo rywfaint o Werth Cymunedol, mae’r holl Dddiddordeb Esthetig wedi cael ei golli trwy waith addasu.

Y Tyllgoed Athletic and Social Club

Cyfeiriad:  22 Heol Plasmawr, Caerdydd CF5 3JW
Ward: Y Tyllgoed
Y Rheswm dros Hepgor: Adeilad o’r 20fed ganrif heb unrhyw Ddiddordeb Esthetig neu Bensaernïol Rhywfaint o Werth Cymunedol. Ar gau am byth.

Clwb Cymdeithasol West End Caerdydd

Cyfeiriad:  348 Heol Orllewinol Y Bont-Faen, Caerdydd, CF5 5BY
Ward: Trelái
Y Rheswm dros Hepgor:  Rhywfaint o Werth Cymunedol. Collwyd ei Ddiddordeb Pensaernïol wedi rhyfel yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif. Diddordeb Esthetig a Hanesyddol isel.

Canolfan Ddiwylliannol Islamaidd Glan-yr-afon

Cyfeiriad:  56 Stryd Neville, Caerdydd CF11 6LS
Ward:   Glan-yr-afon
Y Rheswm dros Hepgor: Rhywfaint o Werth Cymunedol a Hanesyddol. Adeiledd o’r 20fed ganrif gyda chais cymeradwy ar waith i gael gwared ar ei Ddiddordeb Esthetig sydd ar ôl o’r 20fed ganrif.

Y Monkstone Inn

Cyfeiriad: 832 Heol Casnewydd, Caerdydd
Ward: Tredelerch
Y Rheswm dros Hepgor:  Er bod 60 mlynedd fel tafarn yn rhoi rhywfaint o Ddiddordeb Cymunedol i’r adeilad, mae gwaith moderneiddio a newidiadau olynol wedi cael effaith negyddol ar y Diddordeb Esthetig yr adeilad hwn o ddechrau’r 20fed ganrif.

Traders Tavern

Cyfeiriad:   6-8 Heol David, Caerdydd CF10 2EH
Ward: Cathays
Y Rheswm dros Hepgor:  Mae 40 mlynedd o fod yn dafarn yn rhoi Diddordeb Cymunedol cyfyngedig i’r adeilad. Mae Diddordeb Pensaernïol a Hanesyddol i’r eiddo ei hun, er bod yr adeilad ehangach (Ivor House) dan ystyriaeth Cadw ar gyfer rhestru mannau. Wrth aros am y canlyniad hwn, bydd Ivor House yn cael ei ychwanegu at y rhestr leol ehangach i’w hadolygu ymhellach.

Melrose Inn

Cyfeiriad:   Pascal Close, Caerdydd CF3 2UZ
Ward: Trowbridge
Y Rheswm dros Hepgor: Hen dyddyn wedi’i addasu’n dafarn yn y 1980au. Er ei bod yn ymddangos bod gwybodaeth berthnasol y cais ar goll, mae ymchwiliad ar y safle yn dangos yn glir iddo gael ei ailadeiladu’n helaeth mewn brics wedi’u hadfer ag uniadau ar eu hyd yn ystod yr 20fed ganrif. O Ddiddordeb Cymunedol, Pensaernïol a Hanesyddol cyfyngedig.

Clwb 4ydd Gwarchodlu Cartref Morgannwg

Cyfeiriad: 10 Heol yr Eglwys, Caerdydd CF5 5LQ
Ward:  Caerau
Y Rheswm dros Hepgor:  Wedi’i adeiladu fel preswylfa breifat ddiymhongar rhwng 1881 a 1899, ni chafodd y lle ei droi’n glwb tan y cyfnod wedi’r rhyfel. O Ddiddordeb Cymunedol, Pensaernïol a Hanesyddol cyfyngedig.

Y Flute and Tankard

Cyfeiriad:  4 Plas Windsor, Caerdydd CF10 3BX
Ward:   Cathays
Y Rheswm dros Hepgor:  Wedi’i adeiladu fel preswylfa breifat yn y 19eg ganrif, mae’r lle wedi cael ei newid yn sylweddol at sawl ddefnydd yn yr 20fed ganrif, gan gynnwys bwyty hyd at 2014 pan ddaeth yn The Flute and Tankard. O Ddiddordeb Cymunedol, Esthetig a Hanesyddol cyfyngedig.

Harvester Coed-y-Gores

Cyfeiriad:   Ffordd Gylchol y Dwyrain, Caerdydd CF23 9PD
Ward:  Pentwyn
Y Rheswm dros Hepgor: Yn safle tyddyn hynafol yn wreiddiol. O Werth Cymunedol cyfyngedig fel tafarn hanesyddol (bwyty a bar o’r 20fed ganrif). Wedi’i hepgor yma a’i ychwanegu at y rhestr leol ehangach i’w hadolygu ymhellach (am ei Diddordeb Hanesyddol ac Esthetig posibl).

Clwb Ceidwadol Cathays

Cyfeiriad:  54-58 Wyeverne Road, Caerdydd CF24 4BH
Ward:  Cathays
Y Rheswm dros Hepgor:  Rhywfaint o Werth Cymunedol. O waith adeiladu’r 20fed ganrif, mae gan yr adeilad Ddiddordeb Hanesyddol a Phensaernïol cyfyngedig.

Gwesty Gwledig Manor Parc

Cyfeiriad:   Heol Draenen Pen-y-graig, Caerdydd CF14 9UA
Ward:  Rhiwbeina
Y Rheswm dros Hepgor:  O werth cymunedol cyfyngedig fel gwesty o’r 20fed ganrif. Wedi ei hepgor yma a’i ychwanegu at y rhestr leol ehangach i’w hadolygu ymhellach (oherwydd ei darddiad fel tŷ sylweddol o ddiwedd y 19eg ganrif).

Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Medi.

Anfonwyd llythyrau at berchnogion a deiliaid yr adeiladau yn gwahodd sylwadau.

Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried a bydd argymhellion yn cael eu gwneud i Gabinet y Cyngor maes o law

Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu llunio a bydd yr ychwanegiadau arfaethedig at y Rhestr Leol yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet i’w mabwysiadu. Bydd ceisiadau’r rhestr ddiwygiedig yn cael eu cofrestru fel Pridiannau Tir Lleol (fel y mae’r rhestr bresennol).

 

Bydd ymarfer ymgynghori pellach yn dilyn cyflwyno Cyfarwyddiadau Erthygl 4 cysylltiedig. Bydd perchnogion yr adeiladau hyn yn derbyn llythyrau ychwanegol pan fydd y Cyfarwyddiadau hyn yn cael eu gwneud yn ddiweddarach yn 2024/5.


Adeiladau y bwriedir eu hychwanegu at y Rhestr Treftadaeth Leol:

Gallwch chwilio’r adeiladau isod neu eu gweld ar fap. Gellir lawrlwytho rhestr syml yma hefyd.

Sylwch fod llawer o dafarndai eisoes wedi’u rhestru gan Cadw (Graddau II, II* neu I) neu o fewn Ardal Gadwraeth – nid yw’r rhain yn cael eu cynnig ar gyfer eu rhestru’n lleol. Mae’r map hwn yn dangos y rhestrau arfaethedig mewn perthynas â’r rhai sydd eisoes wedi’u diogelu.