Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
70 Clwb Catholig y Grange (gynt)Dyddiad
Fe'i sefydlwyd ym 1898 a symudodd i Heol y Gorfforaeth ym 1914.Ward
GrangetownHanes
Adeiladwyd y safle fel rhan o ddatblygiad Heol y Gorfforaeth, ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Ar hyn o bryd does dim arwydd bod yr adeilad wedi ei adeiladu’n wreiddiol fel clwb, er, a barnu yn ôl ei du blaen, roedd yn amlwg yn safle statws uchel o ryw ddisgrifiad – siop yn ôl pob tebyg.
Sefydlwyd Clwb Catholig Grangetown ym 1898 (Evening Express, 2 Ebrill 1898). Erbyn 1904 roedd y sefydliad yn cynnwys 73 o aelodau (Evening Express, 2 Chwefror 1905).
Er y dywedir iddo symud i Heol y Gorfforaeth ym 1914 (Cymdeithas Hanes Lleol Grangetown), nid yw map 1920 yr AO (arolygwyd 1915) yn sôn am glwb yn y cyfeiriad newydd hwn. Dim ond gyda newidiadau a gofnodwyd ym 1938 (yn ôl dyluniadau’r pensaer F.R. Bates) y daw’r dystiolaeth gyntaf i’r clwb ar Heol y Gorfforaeth.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth a wnaed ar y dyddiad hwn, ond mae’n ymddangos bod y croeslathau a’r myliynau proffil sgwâr i ffenestri’r llawr gwaelod wedi’u mewnosod a bod y fynedfa i gerddwyr ar y gornel ffasedog wedi’i gau’n ofalus.
Mae mapiau’r 20fed ganrif yn dangos bod yr adeilad allanol hir yn union i’r de hefyd yn rhan o’r un sefydliad.
Parhaodd Clwb Catholig y Grange tan fis Tachwedd 2022, pan gaeodd ei ddrysau o’r diwedd.
Disgrifiad
Mae’r adeilad yn meddiannu llain gornel amlwg ar gornel Heol y Gorfforaeth a Penhevad Street.
Mae ei ffurf gynllun ddiddorol yn gwneud y defnydd gorau o’i lain, gyda cornel ffasedog i’r stryd. Adeilad trillaw yw hwn, wedi’i adeiladu’n bennaf o garreg Pennant wyneb morthwyl mewn haen gyda chonglfeini carreg rydd a llin-gyrsiau brics llwydfelyn. Mae gan y llawr gwaelod ffenestri carreg nadd (gyda chroeslathau a myliynau carreg diweddarach) wedi’u gwahanu gan bilastrau gyda chapanau triglyff yn cynnal corbelau carreg addurnol. Mae arwyddion bwrdd ffasgia rhyngddynt bellach wedi’u colli.
O bosibl, roedd y gornel ffasedog unwaith yn gartref i’r brif fynedfa i gerddwyr, trwy ddrws sydd bellach wedi’i flocio gyda phen carreg cylchrannol â bracedi (a oedd unwaith yn cynnal y ffenestr oriel uwchben).
Mae’r brif fynedfa bellach trwy’r wedd ogledd-orllewinol i Penhevad Street.
Ar y llawr cyntaf, mae ffenestri oriel wedi cael eu colli gyda ffenestri uPVC diolwg yn eu lle a rendrad plastr garw anghelfydd yn eu lle.
Mae gan lawr yr atig ffenestri dormer yn y bargodion gydag estyll tywydd addurnol i’r talcennau, y mae pob un wedi’i gwahanu gan baneli ffrâm bren ffug a bargodion corbelog.
To llechi gyda theils crib cain a therfyniadau i’r talcennau.
I’r de o iard fach mae adeilad allanol deulawr hir gyda gwedd ogleddol wedi’i rendro. Mae ei dalcen yn wynebu Penhevad Street, wedi’i adeiladu mewn deunyddiau tebyg i’r prif adeilad, gyda’r ffenestri wedi’u blocio’n ddiweddarach. To metel dalennog modern.
Rheswm
Er ei fd wedi’i addasu mewn modd sydd wedi amharu arno, mae gan yr adeilad amlwg hwn ffurf gynllun ddiddorol ac mae’n cadw diddordeb pensaernïol sylweddol o ran dyluniad a deunyddiau, sy’n nodi ei statws uchel blaenorol.
Mae cysylltiad hir â hen Glwb Catholig Grangetown yn rhoi Gwerth Hanesyddol a Chymunedol pellach i’r safle.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/32633
Addasiadau, Clwb Catholig Grange, 86 Heol y Gorfforaeth
1938
Pensaer: F R Bates
Datblygwr: D G Jones
Gweddluniau: oes
Maint
1 cynllun
D1026/3
Cofnodion Clwb Catholig Grangetown
1917-1995
D1026/4/87
Darluniau o adeiladau Grangetown
[20fed ganrif]
O bosib:
BC/S/1/11633
3 siop, Heol y Gorfforaeth
1896
Pensaer:
Datblygwr: C Davies
Gweddluniau: nac oes
3 chynllun
BC/S/1/14015
Blaen Siop, Heol y Gorfforaeth
1899
Pensaer:
Datblygwr: W I Vaughan
Gweddluniau: nac oes
Maint
1 cynllun
Delweddau ychwanego
Map 1920 yr AO (arolygwyd 1915) yn dangos 86 Heol y Gorfforaeth heb ei farcio fel clwb.
Map 1941 yr AO, yn dangos 86 Heol y Gorfforaeth wedi’i farcio fel clwb (Catholig Grangetown).