Photo of The Birchgrove Inn pub, Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

02 Tafarn y Birchgrove

Dyddiad

Tua 1938

Cyfeiriad

1-3 Heol Llwynbedw, CF14 1RR

Download site boundary plan.

Ward

Y Mynydd Bychan

Hanes

Yn ôl The Illustrated History of Cardiff Pubs, mae Tafarn y Birchgrove yn dyddio’n wreiddiol o’r 1770au, er iddi gael ei hailadeiladu ym 1923. Priodolwyd adeiladu’r adeilad presennol i’r 1920au, gan Syr Percy Thomas.1

 

Yn sicr, mae tafarn ar y safle ar fap degwm 1840 (mae’r enw’n aneglur). Roedd y dafarn, y tŷ i’r de a thri chae cyfagos i gyd yn eiddo i William Rowland ar yr adeg hon. Roedd y safle cynharaf yn llenwi’r gornel fain rhwng Heol Llwynbedw (Philog ar y pryd) a Heol Caerffili, gydag adain yn ymestyn i lawr Philog Road i’r de-orllewin.

 

Mae’r cynlluniau cynharaf sydd ar gael ar gyfer ‘Tafarn y Birchgrove, yr Eglwys Newydd’ yn dyddio o 1888, yn ôl dyluniadau gan y pensaer W.I. Grylls (swyddfeydd yn 37 Heol Eglwys Fair, Caerdydd) ar gyfer S.A. Brain. Cynigiwyd estyn y sefydliad bychan i’r cefn, i gynnwys cegin, bar ac ystafell gwrw newydd. Ychwanegwyd Stabl, Cerbyty ac Ale Fowlio i’r dwyrain hefyd.

 

Felly, mae’r adeilad i’w weld yn llawer mwy llinellol ar fap 1901 yr AO (arolwg 1898). Dangosir estyniad pellach i ben de-orllewinol yr adeilad ar fap 1922 yr AO (arolwg 1915-16).

 

Cynhyrchwyd cynlluniau estyniad pellach ym 1923 (Pensaer: Willmott a Smith), ond nid tan 1928 y lluniwyd cynigion ar gyfer yr adeilad presennol, yn ôl dyluniadau’r penseiri uchel eu parch Ivor Jones a Syr Percy Thomas.2 Cedwir lluniadau yn Archifau Morgannwg.

 

Roedd yr un penseiri hefyd yn cynnig estyn yr adeilad ym 1929, gydag ychwanegiad un llawr i’r gorllewin (sydd i’w weld o hyd heddiw).

 

Mae’n ymddangos yn glir nad oedd yr adeilad presennol wedi’i adeiladu tan tua 1938, gan fod map yr AO o tua 1947 (arolwg 1938) yn dangos ei fod wedi’i adeiladu’n rhannol.

 

Cysylltodd Cadw ym mis Mawrth 2023 i ystyried rhestru mannau, o ystyried y cysylltiadau â Percey Thomas.

 

¹ Gweler: https://beerbrewer.blogspot.com/2011/07/culverhouse-pub-reopens.html.

2 Am fwy o wybodaeth am Syr Percy Thomas gweler: https://biography.wales/article/s2-THOM-EDW-1883

Disgrifiad

Mae’r prif adeilad mewn arddull Celfyddyd a Chrefft Tuduraidd ffug gymesur, gyda gorffeniad rendrad gwyn a tho teils plaen coch. Mae’n cynnwys adain ddeulawr wedi’i gosod ar letraws gydag adain â mynedfa ffrâm bren ffug isel, unllawr rhwng adenydd allanol uwch (gyda thalcennau amlwg – sy’n dod i ben ar Heol Caerffili a Heol Llwynbedw yn y drefn honno). Mae adenydd deulawr eraill yn ymestyn ochr yn ochr â’r ffyrdd hyn. Mae adenydd anghymesur unllawr yn cynnwys ale fowlio sy’n troi i’r de-orllewin a hen adeilad y stabl (?) i’r gogledd-orllewin, gyda’r cyfan yn amgáu iard wasanaeth y tu ôl i’r prif adeilad.

 

Mae gan y fynedfa do serth sy’n rhedeg yn barhaus i brif oleddf y to. Cyrn simneiau petryal sylweddol mewn brics coch gydag addurniad patrwm caerog yn ymwthio uwchben, gan fframio tair ffenestr ddormer yng ngoleddf y to. Mae’n cynnwys drws canolog â byrddau fertigol gyda strapiau addurnol, architrafau wedi’u mowldio a sbandreli peflog bwa Tuduraidd, 2 ddrws plygu gyda chwarelau plwm gwydrog, a 2 bâr o ddrysau â byrddau fertigol gyda sbandreli peflog bwa Tuduraidd. Mae’r ffenestri’n fodern, wedi’u ffurfio mewn uPVC brown.

 

Mae’n ymddangos bod cornisiau gwreiddiol i rai o’r ystafelloedd. Colofnau haearn bwrw. Paneli sgwâr (yn yr arddull Duduraidd) i ffryntiau’r bar a nifer o’r waliau.

Rheswm

Bu tafarn o’r un enw yn y lleoliad hwn ers…     Tafarn sylweddol a phwrpasol Brain mewn lleoliad amlwg. O ddiddordeb pensaernïol mawr ac yn gyflawn iawn yn allanol, gydag estheteg Celfyddyd a Chrefft gref a ffurf gynllun arloesol sy’n gwneud defnydd clyfar o’r llain gornel. Fe’i dyluniwyd gan y penseiri clodfawr Ivor Jones a Syr Percy Thomas. Gwerth Esthetig a Hanesyddol Sylweddol. Mae 127 mlynedd o ddefnydd parhaus hefyd yn rhoi Gwerth Cymunedol cryf i’r safle.

Cyfeirnodau

RDC/S/2/1888/17

9 Mai 1888 – Taflen 1. Tafarn y Birchgrove, Yr Eglwys Newydd – Pensaer: W.I. Grylls – Datblygwr: S.A. Brain Ysw – 1 cynllun

 

RDC/S/2/1888/18

9 Mai 1888 – Taflen 2. Tafarn y Birchgrove, Yr Eglwys Newydd – Pensaer: W.I. Grylls – Datblygwr: S.A. Brain Ysw

 

RDC/S/2/1888/38

1888 – Stabl, Cerbyty ac Ale Fowlio, Tafarn y Birchgrove, Heol yr Eglwys Newydd – Pensaer: W.I. Grylls – Datblygwr: S.A. Brain Ysw

 

DSA/3/40

24 Chwef 1894 – Manylion yr Arwerthiant – 1 cynllun lliw

 

RDC/S/2/1895/21

3 Gorff 1895 – Seler, Tafarn y Birchgrove, Heol Caerffili – Pensaer: S. Williams – Datblygwr: S.A.Brain & Co. – 1 Cynllun

 

BC/S/1/22303

1923 – Ychwanegiadau at Dafarn y Birchgrove, Llwynbedw, Heol Caerffili – Pensaer: Willmott & Smith – Datblygwr: S A Brain

3 chynllun gyda gweddluniau

 

BC/S/1/22305

1923 – Estyniad i Dafarn y Birchgrove, Llwynbedw, Heol Caerffili – Pensaer: Willmott & Smith – Datblygwr: S A Brain and Co

3 chynllun gyda gweddluniau

 

DX446/66/21

1928 – Llun o Dafarn y Birchgrove

 

BC/S/1/26014

1928 Cynlluniau Rheoliadau Adeiladu – Pensaer: I Jones a P Thomas – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd

3 chynllun gyda gweddluniau

 

BC/S/1/26701

1929 – Ychwanegiadau at Dafarn y Birchgrove, Cornel Philog Road a Heol Caerffili – Pensaer: I Jones a P Thomas – Datblygwr

Delweddau ychwanego

Drawing of the Birchgrove pub, Cardiff

Lluniad 1928 gan I.Jones a P.Thomas (Archifau Morgannwg BC/S/1/26014)

 

Map drawing showing the Birchgrove location

Wrthi’n cael ei hadeiladu, 1938.

Lleoliad

Dweud eich dweud