Photo of The Master Gunner

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

68 Gwesty’r Master Gunner

Dyddiad

1968

Cyfeiriad

61 Rhodfa Gabalfa, Caerdydd CF14 2RU

Download site boundary plan.

Ward

Ystum Taf

Hanes

Am ganrifoedd roedd Gabalfa yn bentrefan â phoblogaeth denau ym mhlwyf Llandaf. Mae’r enw, sy’n golygu ‘lle’r fferi’, yn ein hatgoffa o sut roedd pobl yn croesi’r afon cyn i bont gael ei hadeiladu yn Rhodfa’r Gorllewin.

Daeth y gwaith o adeiladu Rhodfa’r Gorllewin o Bont Elái i Heol y Gogledd yn dilyn penderfyniad i adeiladu ffordd osgoi fewnol i Gaerdydd. Fe’i gorffennwyd ym 1933 ar gost o £150,000.

Parhaodd y gwaith i ddatblygu’r ystâd o amgylch Rhodfa Gabalfa (Heol Gabalfa ar y pryd) yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, gyda chynlluniau ar gyfer nifer o dai ar ddwy ochr y stryd wedi’u cyflwyno ym 1939. Parhaodd gwaith datblygu o’r fath ar ôl y rhyfel, fel a welir erbyn map 1952 yr AO (a arolygwyd ym 1948), sy’n dangos bod llawer o’r ardal gyfagos yn dal i gael ei hadeiladu.

Cyflwynwyd cynlluniau ar gyfer ‘tafarn yn Rhodfa Gabalfa’ i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerdydd ym 1965, yn ôl dyluniadau penseiri o Gaerdydd o’r enw Robertson, Wigley a Francis. Y datblygwr oedd William Hancock & Co.

Gellir olrhain hanes gweithrediadau bragdy W.H. Hancock Ltd yn ne Cymru yn ôl i 1807 pan adeiladodd William Hancock yr hynaf fragdy yn Wiveliscombe, Gwlad yr Haf. Erbyn y 1870au, Hancocks oedd y bragwyr mwyaf yng ngorllewin Lloegr. Erbyn y cyfnod hwn roedd Hancocks hefyd yn dechrau mynd i mewn i farchnad de Cymru gan ddefnyddio asiant i ddosbarthu cwrw casgen, wedi’i fragu yn Wiveliscombe, allan o warysau yn Noc Gorllewin Bute, Caerdydd. Ym 1883, dechreuodd Hancocks fragu cwrw yng Nghaerdydd pan brynodd y cwmni Bragdy North and Low yn Nociau Bute. Dros y degawd nesaf fe brynodd Hancocks gyfanswm o wyth bragdy ar draws de Cymru. Roedd twf cyflym eu gweithrediadau bragu yn ne Cymru yn sbardun i William Hancock yr ieuaf sefydlu cwmni ar wahân o’r enw William Hancock and Co. Ltd, a gofrestrwyd ym 1887, ac erbyn hynny roedd wedi caffael 46 o dafarndai yng Nghaerdydd a 31 yng Nghasnewydd.1

Roedd y dafarn newydd yng Ngabalfa i fod i gael ei chodi ar lain wag o dir corfforaeth i ymyl ddeheuol y ffordd, a oedd wedi’i ‘neilltuo at y diben hwn… o fewn cynllun yr awdurdod lleol’.  Safai rhwng cartref ymddeol ‘Cathedral View’ a pharêd newydd ei adeiladu o siopau i’r dwyrain. Gwnaed darpariaeth ‘ar gyfer parcio 35 cerbyd’ i’r cefn.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1967, agorwyd y Master Gunner a’r flwyddyn ganlynol, caffaelwyd William Hancock & Co. gan y Bass Charington Group am £7.7 miliwn a daeth yn rhan o Welsh Brewers Ltd. O’r herwydd, y Master Gunner oedd y dafarn olaf i gael ei hadeiladu gan y bragdy.2

Yn y bôn, mae’r adeilad a’i safle wedi aros yn ddigyfnewid ers ei adeiladu, er bod rhan yr adeilad lle roedd alcohol yn cael ei werthu i’w yfed oddi ar y safle wedi’i mewnlenwi ar ryw adeg ac mae ei ffenestri slot nodweddiadol wedi’u hehangu i’r gweddau gogleddol a dwyreiniol.

 

1 Archifdy Cofnodion Morgannwg, Cyf: GB 0214 DHAN.

2 Glover, B. (2005) Images of Wales: Cardiff Pubs and Breweries. The History Press, t.51

Disgrifiad

Mae’r Master Gunner yn meddiannu safle helaeth i’r de o Rhodfa Gabalfa, gyda lawnt a thirlunio caled i’r blaen (gogledd), a maes parcio mawr i’r cefn.

Wedi’i adeiladu fel ffrâm ddur a choncrid wedi’i atgyfnerthu, gyda waliau brics brown. O ddiddordeb arbennig mae’r baeau breichiog â chanopïau i’r wedd flaen. Ar lefel y llawr gwaelod, mae toeau cylchrannol uwch eu pennau. Ar y llawr cyntaf, maent ar oleddf, gan ymestyn yn ôl mewn concrit wedi’i atgyfnerthu, i ffurfio to aml-oleddf sy’n caniatáu am ardaloedd bar mawr agored heb eu rhwystro gan waliau neu golofnau cynnal llwythi. Mae effaith allanol y baeau hyn yn cael ei gwella ymhellach gan y toeau un-goleddf trawiadol sy’n ymestyn yn berpendicwlar i’r ffordd ym mhen dwyreiniol yr adeilad.

Mae bar cyhoeddus mawr i’r llawr gwaelod a bar lolfa uwchben. Yn wreiddiol, roedd yr adeilad yn cynnwys siop gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle ym mhen dwyreiniol y llawr gwaelod, wedi’i osod yn ôl o dan gapan hanner crwn a llawr uchaf breichiog. Bellach wedi’i mewnlenwi.

Yn wreiddiol roedd ale fowlio i gefn y llawr gwaelod, gyda seleri eang o dan y rhan â tho gwastad.

Mae ffenestri slot nodweddiadol a oedd yn goleuo llety’r tafarnwr wedi cael eu hehangu i’r gweddau blaen a dwyreiniol.

Rheswm

Enghraifft fwyfwy prin o ansawdd uchel o dafarn ‘To Gwastad’ Briwtalaidd o’r 20fed ganrif ar ffurf arloesol sy’n mynegi ei hadeiledd yn allanol mewn modd trawiadol.

Wedi’i adeiladu fel rhan annatod o’i ystâd Gabalfa arfaethedig yn y cyfnod wedi’r rhyfel, mae’r adeilad yn enghraifft wych o ‘oes aur’ y math hwn o adeilad, sef y 1950au a’r 1960au.

Gwerth Pensaernïol, Hanesyddol a Chymunedol uchel.

Cyfeirnodau

Cais Cynllunio

26309

 

Archifau Morgannwg

DCONC/6/83a,b

Teitl

Master Gunner [Y Gabalfa gynt]

1965

Delweddau ychwanego

1965 drawing for ‘a public house at Gabalfa Avenue’ by Robertson, Wigley and Francis

Lluniad o 1965 ar gyfer ‘tafarn yn Rhodfa Gabalfa’ gan Robertson, Wigley a Francis

 

The Master Gunner, c.1968. (Glover, B. (2005) Images of Wales - Cardiff Pubs and Breweries. The History Press. p.51.)

Gwesty’r Master Gunner, c.1968. (Glover, B. (2005) Images of Wales – Cardiff Pubs and Breweries. The History Press. t.51.)

Lleoliad

Dweud eich dweud