Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
66 Y Lewis ArmsDyddiad
Fe'i sefydlwyd cyn 1841. Nid yw dyddiad yr adeilad presennol yn glir ond ymddengys ei fod yn dyddio o’r cyfnod Sioraidd.Ward
Yr Eglwys Newydd a ThongwynlaisHanes
Bu tafarn ar safle’r Lewis Arms ers o leiaf map degwm 1841. Ar yr adeg hon, yr adeilad oedd ‘Tafarn a Bwthyn y Wyn[d]ham Arms’, dan ofal Edmund Thomas ac yn eiddo i’r Parchedig William Price Lewis. Fel disgynydd uniongyrchol i Lewisiaid Newhouse, Llanishen ac Y Fan (gw. 47 – Castell y Blaidd), roedd William Price Lewis wedi etifeddu cyfranddaliadau yng Nghwmni Haearn Dowlais ac ystadau sylweddol ym Morgannwg, Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw gan ei dad (y gwleidydd Wyndham Lewis). Mae’n debyg bod y Lewis Arms wedi’i henwi ar ôl y teulu hwn, am y c.180 mlynedd diwethaf.
Erbyn 1852 (14 mlynedd ar ôl marwolaeth Wyndham Lewis), adwaenid y lle fel ‘Lewis’ Arms’.1
Mae map 1885 yr AO (a arolygwyd ym 1875) yn dangos yr hyn sydd i’w weld yn ffurf gynllun wedi’i haddasu, gyda’r brif adain sy’n wynebu‘r de-ddwyrain bellach yn nes at yr heol. Er bod yr uchod yn awgrymu y cafodd o leiaf rhan o’r safle ei ailadeiladu yn ystod y cyfnod interim hwn, mae’r llun cyntaf o’r adeilad y gwyddys amdano (tua 1900) yn dangos blaen Sioraidd amlwg, gyda pharapet a ffenestri dalennog 6-dros-6.
Erbyn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, newidiwyd prif flaen yr adeilad, gyda’i barapet corbelog wedi’i ailadeiladu bron yn gywastad â’r wedd, ei ffenestri wedi’u hehangu’n sylweddol, a’i bortsh haearn addurnol wedi’i dynnu.
Heddiw, mae rhan helaeth o ffurf gynllun gynnar yr adeilad yn parhau’n gyfan, gyda’r brif ran yn wynebu Ffordd y Felin wedi’i chysylltu trwy adain (wedi’i hehangu erbyn hyn) i adain ogleddol ochrol. Yr enw am y lle erbyn hyn yw’r ‘Lewis Arms’.
Disgrifiad
Mae prif adain y Lewis Arms yn wynebu’r de-ddwyrain, ar hyd Ffordd y Felin, lle mae’n meddiannu lleoliad amlwg ar y gyffordd. Mae wedi’i rendro dros ddau lawr, gyda threfniant tri bae. Ar y llawr gwaelod, mae’r drws canolog bellach wedi’i lenwi. Mae ffenestri teiran modern i’r naill ochr a’r llall. Ffenestri dwyran sydd i’r llawr cyntaf. Mae parapet plaen yn cuddio to llechi. Mae cyrn simneiau i’r naill ben a’r llall yno o hyd yn eu ffurf wreiddiol i bob golwg.
I’r ochr dde (pen gogleddol), mae llethr to adain a oedd unwaith wedi’i osod yn ôl bellach wedi’i ehangu i ffurfio’r brif fynedfa, trwy estyn goleddf y to tuag at flaen ag estyllod dŵr. Mae un corn simnai wedi goroesi uwchben yn ei leoliad gwreiddiol/cynnar.
Ymhellach eto i’r gogledd, mae adain ddeulawr sylweddol wedi’i gosod yn berpendicwlar, gan droi i’r gogledd-orllewin, wrth ymyl maes parcio helaeth. Mae ei chorn simnai amlwg i’r pen talcen wedi’i golli.
Wedi’u cuddio yn y cefn mae nifer o gytyfiannau modern â thoeau gwastad.
Ffenestri adeiniog modern yw’r holl ffenestri.
Rheswm
Tafarn mewn lleoliad amlwg gyda golygfa sylweddol ar Gastell Coch.
Er bod yr adeilad wedi’i addasu, mae wedi cadw rhywfaint o Werth Hanesyddol a Thystiolaethol.
Mae 180 mlynedd o fod yn dafarn ar y safle hwn yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
UDCAE/S/4/1930/21
Newidiadau i’r Lewis Arms, Tongwynlais
28 Hydref 1930
Pensaer: Ivor Jones a Percy Thomas
DSA/12/343
Manylion y Gwerthiant
1919-1928
Delweddau ychwanego