Photo of the Mason's Arms pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

65 Toby Carvery (Masons Arms gynt)

Dyddiad

Mae rhan gynharaf yr adeilad yn dydd-io o 1871 neu'n gynharach.

Cyfeiriad

21 Heol Ty'n-y-Parc, De Morgannwg, Caerdydd CF14 6BH

Download site boundary plan.

Ward

Rhiwbeina

Hanes

Yn ôl map degwm 1841, roedd pentrefan bach o dai a bythynnod ar hyd Heol Ty’n-y-Parc. Ger y nant (Nant-Waedlyd) roedd ffermydd Glan-y-nant a Chwmgwynlas. Ymhellach i’r dwyrain roedd ffermdy mwy Ty’n-y-Parc, sy’n darddiad enw’r heol.

Ceir y cyfeiriad cyntaf at y “Masons Arms, yr Eglwys Newydd” ar 17 Ionawr 1871 (y Western Mail)

Mae’n amlwg o fap 1886 yr AO (a arolygwyd rhwng 1874 a 1881) fod y Masons Arms wedi’i hadeiladu ar safle tyddyn a gerddi Cwmgwynlas (a oedd, ym 1840, yn eiddo i Edward Lewis a oedd yn ei feddiannu ar y pryd). Roedd yr adeilad wedi’i osod yn ôl o’r heol, ger y nant. Yn union i’r dwyrain roedd dwy ffatri wlân, gyda Ty’n-y-Parc Row rhyngddynt.

Erbyn map 1915 yr AO, dangosir y Masons Arms mewn mwy o fanylder, rhwng nant a hen felin wlân, gydag iard i’r blaen a gardd yn ymestyn i’r cefn. Mae’r adeilad bron yn sicr yr un adeilad a ddangosir yn y ffotograff o 1937, gyda ffurf gynllun y portsh blaen yn cael ei dangos yn glir.

Erbyn 1960, roedd datblygiad maestrefol helaeth (gan gynnwys yr orsaf dân) i’r dwyrain. Mae’r dafarn a’i fferm gyfagos (Glan-y-Nant) yn yr un lle o hyd, er nad yw’r safle bellach wedi’i rannu gan y nant (mae ei chwrs wedi ei sythu i ffurfio ffin Parc Caedelyn).

Yn ddiweddarach fyth, collwyd fferm Glan-y-Nant, ac estynnai’r dafarn yn aruthrol, i ffurfio’r gwesty a’r Toby Carvery presennol. Roedd llawr uchaf yr adeilad o’r 19eg ganrif wedi’i orchuddio mewn ffrâm bren ffug.

Disgrifiad

Er ei fod wedi’i amgylchynu gan estyniad enfawr i’r gorllewin (ac estyniad modern arall i’r dwyrain), mae’r dafarn o’r 19eg ganrif yn dal i fod yn amlwg ar y safle. Y rhan hon yn unig a gynigir ar gyfer Cyfarwyddeb Erthygl 4 ac a ddisgrifir isod.

Mae’r adeilad yn cynnwys dau lawr gyda phrif flaen â thri bae. Mae portsh penty unllawr i’r llawr gwaelod, gyda mynedfa dalcennog ganolog (sydd bellach wedi’i hestyn i’r dwyrain). Uwchben, mae gan y llawr cyntaf ddau ffenestr ddormer fawr dalcennog i Fae 1 a 3 gyda ffenestr deiran ganolog rhyngddynt, yn swatio dan y bondo. Er bod y ffenestri i’w gweld yn wreiddiol i’r lefel hon (ffenestro dalennog llithro pren), gosodwyd y manylion ffrâm bren ffug yn yr 20fed ganrif.

Mae goleddf serth i’r to sydd dan orchudd teils plaen. Mae’r pibellau dŵr glaw yn cynnwys pibellau dŵr a hopranau cywrain (haearn bwrw?). Mae corun y corn simnai wedi cael ei leihau.

I’r cefn, mae dwy adain ddeulawr berpendicwlar yn ymestyn tua’r gogledd, gyda thrydedd adain unllawr wedi’i hychwanegu yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif.

Rheswm

Er ei fod wedi’i haddasu, mae’r dafarn o’r 19eg ganrif yn parhau i fod yn amlwg ac yn gymharol ddigyfnewid o fewn y safle. Mae’n cadw Gwerth Esthetig a Hanesyddol sylweddol.

Mae rhyw 150 mlynedd o fod yn dafarn ar y safle hwn yn rhoi Gwerth Cymunedol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

DCONC/6/82a-g

Masons Arms, Yr Eglwys Newydd

1944-1964

Cynlluniau

 

RDC/S/2/1944/44

Toiledau, Masons Arms, Yr Eglwys Newydd

1944

Pensaer:  G R H Rogers

Datblygwr:  Wm Hancock & Co Ltd

 

RDC/S/2/1886/4

Ychwanegiadau at y Masons Arms, Yr Eglwys Newydd

1886

Disgrifiad

Pensaer:  W J Hichins

Datblygwr:  D Thomas

Delweddau ychwanego

1886 OS map showing the Mason's Arms pub Cardiff

1875 i 1881, Cyhoeddwyd 1886 Taflen Morgannwg XLIII

1919 OS map showing the Mason's Arms pub Cardiff

1915, Cyhoeddwyd 1919 Morgannwg XLIII.2

1937 photo showing the Mason's Arms pub Cardiff

Toby Carvery (Masons Arms gynt) 1937 (Living Magazines Cardiff)

Lleoliad

Dweud eich dweud