Photo of the The North Star pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

64 North Star (Gwesty Maendy gynt)

Dyddiad

1888

Cyfeiriad

131 Heol y Gogledd, Maendy Caer-dydd CF14 3AE

Download site boundary plan.

Ward

Gabalfa

Hanes

Dyluniwyd Gwesty’r Maendy gan y pensaer Sydenham W. Richards. Cyflwynwyd dyluniadau ar ei gyfer i Gyngor Dosbarth Gwledig Caerdydd ym 1888. Rhoddodd Sesiwn Drwyddedu Morgannwg gymeradwyaeth unfrydol i’r safle ar gyfer ei drwydded dros dro gyntaf ym mis Hydref yr un flwyddyn.1

Wrth i Parkfield House ildio llawer o’i diroedd ar gyfer datblygu o tua 1878, ffurfiwyd Parkfield Place, Flint Street a Cross Street (Cross Place erbyn hyn, gyda Gwesty’r Maendy wedi’i adeiladu ar gornel Fflint a Heol y Gogledd.

Gellir gweld ffurf gynllun wreiddiol yr adeilad ar ei mwyaf fanwl ar fap 1920 yr AO (arolygwyd ym 1915).

Gwnaed nifer o newidiadau i’r adeilad yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif (1922, 1926, 1927, 1931) ac erbyn map 1940 yr AO, roedd ei ffurf gynllun yn debyg, yn ei hanfod, i’r hyn a welir heddiw.

Gwnaed cais yn 2009 i addasu’r lloriau uchaf yn fflatiau ac adeiladu estyniad yn y cefn (09/00137/W).

1 South Wales Echo, 4 Hydref 1888.

Disgrifiad

Mae’r adeilad yn dafarn ddeulawr gyda lefel atig wedi’i haddasu.

Mae’r adeilad yn wynebu Heol y Gogledd yn bennaf. Y rhan gynharaf yw’r pen deheuol, lle mae hefyd yn troi’r gornel amlwg i Flint Street. Mae’r hen yn hawdd ei weld gyda’i bilastrau rhychiog, ei fframiau drysau â phedimentau a’i orffeniad wedi’i rendro. Mae parapet gwahanfur (gyda therfyniad), sy’n ymestyn trwy’r to ar oleddf, yn dangos cyrhaeddiad mwyaf gogleddol yr adeilad o 1888.

Y tu hwnt i hwn, mae rhan estynedig yr adeilad o ddechrau’r 20fed ganrif wedi’i ffurfio o frics wedi’u paentio. Mae mowldinau capan i ffenestri’r llawr gwaelod, sydd hefyd yn cynnwys ffedogau â deintellion drwyddynt draw. Mae gan y drws ffrâm fawr â phediment.

Mae ffenestri’r llawr gwaelod yn rhai adeiniog pren mawr, sefydlog trwy’r adeilad cyfan. Ffenestri uPVC sydd i’r lloriau uchaf. Mae’r drysau’n cynnwys paneli pren. Mae to llechi â ffenestri. Mae cyrn y simneiau wedi’u colli.

Rheswm

Tafarn mewn lleoliad amlwg sy’n gwneud defnydd da o’r safle cornel.

Er bod yr adeilad wedi’i addasu, mae wedi cadw Gwerth Esthetig a Hanesyddol.

Mae 136 blynedd o fod yn dafarn ar y safle hwn yn rhoi Gwerth Cymunedol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

RDC/S/2/1888/32

Teitl

Gwesty’r Maendy

1888

Pensaer:  Sydenham W.

Datblygwr:  J.N. Hammett

 

BC/S/1/2150

Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty Maendy, Heol y Gogledd

1922

Pensaer:  S Williams

Datblygwr:  Rhondda Valley & Ely Breweries Ltd

 

BC/S/1/24290

Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Maendy, Heol Merthyr 1926

Disgrifiad

Pensaer:

Datblygwr:  Rhondda Valley & Ely Breweries Ltd

 

BC/S/1/25022

Newidiadau ac Ychwanegiadau i’r Gwesty, Gwesty Maendy, Heol y Gogledd

1927

Pensaer:  C Bird

Datblygwr:  Rhondda Valley & Ely Breweries Ltd

 

BC/S/1/27718

Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Maendy, Heol Merthyr

1931

Datblygwr:  Ely Brewery Co Ltd

Delweddau ychwanego

1901 OS Map showing the The North Star pub Cardiff

The North Star – Map 1901 yr AO (arolygwyd rhwng 1898 a 1899)

 

1920 OS Map showing the The North Star pub Cardiff

The North Star – Map 1920 yr AO (arolygwyd ym 1915)

 

1940 OS Map showing the The North Star pub Cardiff

The North Star – Map 1940 yr AO

Lleoliad

Dweud eich dweud