Photo of the Deri Inn pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

63 Tafarn y Deri

Dyddiad

Tafarn y 1970au o bosibl gydag olion ffermdy cynharach (cyn 1811) wrth ei wraidd.

Cyfeiriad

Heol-y-Deri, Rhiwbeina CF14 6UH

Download site boundary plan.

Ward

Rhiwbeina

Hanes

Ym 1801, roedd poblogaeth y plwyf cyfan (Yr Eglwys Newydd) yn llai na 700. Ni fyddai poblogaeth Rhiwbeina (neu ‘Rhyd-y-Walla’ fel y’i gelwid bryd hynny) wedi bod yn fwy na 70-100 o bobl. Byddent wedi bod yn byw yn un o’r pump neu chwe fferm leol, neu mewn bythynnod ar wasgar gerllaw.

 

Ceir y dystiolaeth gynharaf am adeilad ar y safle hwn ar Fap Budgen o 1811, sy’n dangos ei fod yn cael ei feddiannu gan dyddyn o’r enw Deri. Mae gan fap degwm 1840 fwy o fanylion, gan ddangos ffermdy mawr yn uniongyrchol ar safle’r dafarn bresennol, yn rhan o dyddyn y Deri (a elwid hefyd yn ‘Tir Pudur’ ar y pryd). Y tirfeddiannwr oedd Syr Charles Morgan, y 3ydd Barwnig – gan ei wneud yn rhan o Ystâd helaeth Tredegar. Roedd Mrs Richard Lewis yn meddiannu Fferm y Deri a oedd yn cynnwys 156 erw, gan gynnwys y felin gerllaw (y mae Heol-y-Felin bellach wedi’i henwi ar ei hôl).

 

Mae’n ymddangos nad yw’r safle wedi newid fawr ddim erbyn map 1886 yr AO (a arolygwyd ym 1875-81). Roedd ardal fach o goetir cymysg i’r gogledd (yn erbyn cyffordd Heol Wenallt), gerddi yn uniongyrchol i’r de o’r tŷ (gan ei wahanu oddi wrth adeiladau’r fferm a’r iard) a pherllan y tu hwnt.

 

Erbyn 1898, roedd cyfadeilad y buarth wedi ehangu, a ddangosir yn fanylach ar fap 1919 yr AO. Gellir gweld ffurf y tŷ yn gliriach hefyd, fel cydgasgliad o bedair prif ran.

 

Arhosai’r trefniant hwn yr un fath tan yr Ail Ryfel Byd, er y gellir gweld ehangiad maestrefi Caerdydd yn prysur agosáu erbyn map 1946 yr AO (a arolygwyd ym 1941-2).

 

Credir iddo gael ei adeiladu yn y 1970au,1 mewn gwirionedd mae Tafarn y Deri i’w gweld ar fap 1967 yr AO. A barnu wrth ei lleoliad (a ffurf yr adeilad presennol), mae’n ymddangos bod Tafarn y Deri wedi ymgorffori o leiaf ran o’r hen ffermdy (gweler DCONC/6/40a-m). Y ffordd orau o gadarnhau’r theori hon fydd cynnal ymchwiliad i’r safle.

 

1 Wales Online 26/11/2011

 

Disgrifiad

Saif Tafarn y Deri ar safle amlwg a hael, ar gyffordd Heol-y-Deri a Heol Wenallt.

 

Mae maes parcio helaeth yng nghefn yr adeilad (gynt yn rhan o ddôl ‘Dwt Erw’). Mae coed sylweddol, aeddfed i ffin y safle yn rhoi arwydd clir o hanes hir a statws blaenorol.

 

Mae’r adeilad yn cynnwys nifer o rannau deulawr sy’n croestorri, gyda’r brif adain yn ymestyn o’r gogledd-ddwyrain/de-orllewin (yn yr un lleoliad â’r hen ffermdy).

 

Mae ail adain yn ymestyn yn berpendicwlar i’r gogledd-ddwyrain, gydag ychwanegiadau unllawr gerllaw (gyda’r ddau yn dyddio i’r 20fed ganrif). Mae adain fer ddeulawr yn ymestyn o’r wedd dde-orllewinol, gyda tho ‘sleid gathod’ hir.

 

Mae gan lawer o’r adeilad ffenestri pren a rendrad gwead modern. Dros y cyfan mae to teils modern.

Rheswm

Mae’n bosibl bod gweddillion ffermdy cynnar yn dal i’w gweld wrth wraidd yr adeilad, gan roi Gwerth Tystiolaethol a Hanesyddol cyfyngedig.

 

Mae ffurf a lleoliad mewn safle amlwg gyda thiroedd hael a choed aeddfed ar hyd y ffin yn rhoi Diddordeb Esthetig.

 

Olion sylweddol o dyddyn gyda chysylltiadau aml-genhedlaeth â’r rhan hon o Gaerdydd. Mae tua 70 mlynedd o wasanaeth fel tafarn yn rhoi rhywfaint o Werth Cymunedol ychwanegol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

DGSR/25/31-37 Cynlluniau yn dangos Heol-y-Deri 1919-c1930au.

 

DCONC/6/40a-m

Deri House [Tafarn y Deri], Rhiwbeina gyda chynlluniau stryd yn dangos safleoedd trwyddedig eraill yn yr ardal, 1963

Delweddau ychwanego

1840 Tithe map showing the site of The Deri Pub Cardiff

Fferm y Deri fel y’i dangosir ar Fap Degwm 1840

OS Map of 1941-2 showing the site of The Deri Pub Cardiff

Map yr AO o Fferm y Deri a arolygwyd ym 1941-2 (cyhoeddwyd 1946)

OS Map of 1977 showing the Deri Pub Cardiff

Map 1977 yr AO o Dafarn y Deri

Lleoliad

Dweud eich dweud