
Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
60 Tafarn y Bridge/RiverbankDyddiad
Wedi'i sefydlu cyn 1846, ailadeiladwyd yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif.Ward
TreláiHanes
Roedd tafarn ar y safle hwn mor gynnar â map degwm 1846. Mae’n ymddangos fel adeilad cymharol fach o gynllun petryal, gan wynebu Heol y Bont-faen gyda gardd i’r cefn. Roedd y safle yn eiddo i Gabidwl Llandaf ac roedd Mary Lewis yn byw yno.
Ceir y cyfeiriad papur newydd cyntaf at ‘Dafarn y Bridge, Trelái’ ar 26 Tachwedd 1858 (papur newydd The Welshman), gyda chyhoeddiad o farwolaeth Mary Lewis yn 92 oed. Adnewyddwyd trwydded dan yr enw Jane Lewis ar gyfer y safle dair blynedd yn ddiweddarach (ym mis Medi 1861).
Mae tystiolaeth mapiau’n awgrymu yr ad-drefnwyd yr adeilad rhwng 1875 a 1899. Mae’n amlwg bod y rhan sydd ar ôl sy’n wynebu Heol y Bont-faen yn ei lle erbyn 1909 (gweler y lluniau), er bod datblygiad i’r cefn yn cynnwys adeilad allanol ar wahân yn wynebu’r afon.
Cymeradwywyd addasu’r safle’n fflatiau (gan gynnwys yr estyniad cefn mawr presennol a gosod ffenestri yn y wedd ogledd-ddwyreiniol) yn 2014 ar ôl cau’r dafarn.
Disgrifiad
Mae prif adain yr adeilad yn ymestyn o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin gan wynebu Heol Orllewinol y Bont-faen ac yn gyfagos i Afon Elái.
Tu blaen deulawr braidd yn anghymesur â phum bae, wedi’i ffurfio o garreg Pennant lanw. Pennau ffenestri bwa cylchrannol uchel mewn gwaith brics llwydfelyn (wedi’u paentio erbyn hyn) gyda manylion llin-fowldin terracotta. Cwrs bargodion â deintellion mewn brics coch a llwydfelyn. Pediment sgrôl i’r drws canolog. Mae hen agoriad drws wedi’i flocio rhwng Bae 1 a Bae 2. To llechi hanner talcen slip clun artiffisial. Conglfeini brics llwydfelyn.
Diwygiwyd y pen gogledd-ddwyreiniol yn 2014, gyda drysau dwbl balconi ffug a ffenestri ymylol i bob llawr. Estyniad cefn hir, modern gyda manylion tebyg.
Rheswm
Mae wedi cadw peth cymeriad ar ôl cael ei addasu sy’n rhoi Diddordeb Pensaernïol a Hanesyddol i’r safle.
Er ei bod bellach ar gau, mae hanes hir tafarn ar y safle hwn yn rhoi rhywfaint o Werth Cymunedol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
BC/S/1/37749
1948. Arwydd, Tafarn y Bridge, Trelái.
BC/S/1/38325
1949. Gwelliannau yn y dafarn, Tafarn y Bridge, Heol y Bont-faen.
BC/S/1/45617
1955. Newidiadau i’r Dafarn, Tafarn y Bridge, Trelái.
DCONC/6/11a-e
1923-1954
Cynlluniau.
Delweddau ychwanego

Tafarn y Bridge, 1911

Tafarn y Bridge, 1915