Photo of the former The Tredegar pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

59 The Tredegar

Dyddiad

1872

Cyfeiriad

Cornel Stryd Clifton a Pearl St, Adamsdown, CF24 1PW

Download site boundary plan.

Ward

Adamsdown

Hanes

Ym mis Awst 1872, rhoddwyd trwydded i Mr Robert Thomas Meyrick ar gyfer Gwesty’r Tredegar, Stryd Clifton. Cyflwynwyd cynllun o’r tŷ, a nodwyd bod “… yr adeilad wedi’i godi’n ddiweddar ar gost o tua £2000… roedd yn cynnwys 24 o ystafelloedd, gydag 13 ohonynt yn ystafelloedd gwely.”

Cefnogwyd y cais gan asiant yr Arglwydd Tredegar (Mr H.J. Davies) ac, yn anarferol braidd, gan ficer y plwyf.

Mae ffurf gynllun wreiddiol yr adeilad i’w gweld ar fap 1879 yr AO. Wedi’i ddangos yn betryal, mae’n rhaid ei fod wedi cynnwys yr elfen gornel drillawr bresennol a rhyw fath o ychwanegiad i’r gogledd-ddwyrain. Gerllaw hefyd roedd iard wasanaeth fawr, gyda mynediad porth canolog i Pearl Street.

Ychwanegwyd ale fowlio newydd ym 1887 ac o ganlyniad i geisiadau olynol, ehangwyd yn raddol i’r iard wasanaeth a’r teras cyfagos ar Stryd Clifton.

Caeodd y dafarn o’r diwedd yn 2006 ac, er gwaethaf caniatâd i addasu (gweler 21/02713/MNR), mae ei gyflwr wedi dirywio’n ddifrifol.

Disgrifiad

Mae prif ran yr adeilad yn cynnwys cynllun sgwâr (gyda chornel ffasedog) ac yn llenwi safle amlwg ar gornel Clifton Street a Pearl Street. Adeiladwyd dros dri llawr gyda phrif weddau tri bae. Mae ffenestri’r ail lawr wedi’u blocio. To talcen slip.

Mae’r cyfan wedi’i adeiladu mewn carreg Pennant lanw. Mae’r conglfeini a’r triniaethau brics i’r agoriadau wedi’u rendro’n bennaf. Toeau llechi.

Estyniad talcennog rhes ddwbl diweddarach i’r wedd ogledd-ddwyreiniol, sy’n llenwi rhan helaeth o’r hen iard wasanaeth. Porth gerllaw. Adeiladwyd y wedd i Pearl Street o ddeunyddiau cydweddog gydag ychwanegiad deulawr pellach. Mae’r wedd hon yn dangos rhai nodweddion anarferol ar lefel y llawr gwaelod; prin mae’r ddealltwriaeth o ddatblygiadau yma ar hyn o bryd.

Cyn 1943, estynnwyd yr adeilad hefyd i’r tŷ teras cyfagos ar Stryd Clifton ac ehangodd ffenestr y llawr gwaelod i gydweddu.

Mae’r ffenestri’n bennaf wedi’u byrddio gyda rhai ffenestri dalennog (gwreiddiol o bosibl) i’w gweld o hyd. Cyflwr cynyddol wael.

Rheswm

Tafarn Fictoraidd â dyluniad traddodiadol mewn lleoliad amlwg wedi’i ffurfio o ddeunyddiau o ansawdd da sy’n adlewyrchu’r arddull leol. Er ei fod yn adfeiliedig iawn, mae’n dal i fod â diddordeb pensaernïol a hanesyddol.

Er bod y lle bellach ar gau, mae hefyd yn ymgorffori Gwerth Cymunedol sylweddol oherwydd ei hanes hir.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/S/1/6557.1

1887. Ale Fowlio Newydd.

 

BC/S/1/6972

1888 Newid.

 

BC/S/1/7161

1888 Newid

 

BC/S/1/17630

1910. Newid

 

BC/S/1/17693

1910. Newid

 

BC/S/1/21002

1921. Newid

 

BC/S/1/34517

1943 Toiled y merched

 

BC/S/1/37768

1948. Arwydd newydd.

 

DCONC/6/143a-f

1943-61.

Cynlluniau’r Heddlu.

Delweddau ychwanego

Undated photo of the Tredegar public house Cardiff

Lleoliad