Photo of former The Neville pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

58 The Neville

Dyddiad

1889; credir iddo gael ei ailadeiladu'n sylweddol ym 1892.

Cyfeiriad

52 Heol Clare, Grangetown, Caerdydd CF11 6RS

Download site boundary plan.

Ward

Grangetown

Hanes

Roedd datblygiad Heol Clare a’r strydoedd cyfagos wedi bod ar y gweill ers o leiaf 1886 ac adroddwyd am ‘weithrediadau adeiladu helaeth yng nghyffiniau’ Heol Clare yn ystod sesiynau trwyddedu Caerdydd ym mis Medi 1890.

Mae’r fangre’n ymddangos ar fap 1898-9 yr AO, gyda’r prif adeilad i gyffordd Heol Clare a Cornwall Street, ac adain eilaidd yn troi i’r gogledd-orllewin, ar hyd Allerton Street. Ceir y cyfeiriad papur newydd cyntaf at ‘The Neville Hotel, Saltmead Estate’ yn ymddangos yn y Western Mail dyddiedig 1 Hydref 1889, lle cytunwyd trosglwyddo trwydded o Westy’r Queen’s Head, Severn Road.

Gellir ei chymryd yn ganiataol bod y safle yn gweithredu fel tafarn erbyn y dyddiad hwn, ond mae’n debyg bod y cais am westy wedi cael ei wrthod oherwydd, ym mis Medi 1890, roedd y sesiynau trwyddedu blynyddol unwaith eto’n gwrthwynebu ‘…cais ar ran Mr George Priest… oherwydd y ffaith nad oedd adeilad y gwesty arfaethedig o gymeriad sy’n arferol i westai; dau fwthyn ydoedd yn y bôn, gyda modd symud rhwng y naill a’r llall. Yn ogystal, dim ond saith ystafell wely oedd yno, a dim lle o gwbl ar gyfer lluniaeth heblaw am ddiodydd i deithwyr a gwesteion.’

Agorwyd ystafell filiards newydd yng Ngwesty’r Neville ar 22 Gorffennaf 1891. Yn ôl disgrifiadau, roedd yr ystafell “wedi’i ffitio gyda phob cyfleustra gyda lle i eistedd ar gyfer tua 50 o bobl”. (Ar yr adeg honno cynigiwyd gosod draen newydd i’r seler, sy’n awgrymu gwaith addasu pellach ar y pryd.)

Dyluniwyd ‘ychwanegiadau’ ar gyfer George Priest gan y pensaer blaenllaw o Gaerdydd, J.P. Jones, ym 1892, gan arwain yn ôl pob tebyg at yr adeilad a welir heddiw.

Gwnaed newidiadau pellach ym 1903 (ychwanegu troethfa) a 1926 (nid yw maint y gwaith yn hysbys ar hyn o bryd).

Mae tystiolaeth y mapiau’n awgrymu y cafodd yr adain ddeulawr bresennol i’r gogledd ei ychwanegu rhwng 1954 a 1972. Rhaid i hyn fod yn gamgymeriad – mae wedi’i ffurfio o ddeunyddiau cydweddog ac mae’n glir iddi fodoli tua 1910.

Caeodd Gwesty’r Neville ei ddrysau ddiwedd 2013 ar ôl cael ei ailenwi’n ‘The Poet’s Corner’ am gyfnod byr. Cafodd ei addasu’n siop (gyda fflatiau uwchben) yn 2014.

Disgrifiad

Mae’r cyfan wedi’i ffurfio o garreg Pennant lanw gyda thriniaethau brics llwydfelyn. Linteli carreg bwaog ffug â thri chanol i agoriadau ffenestri’n ymwthio o lin-gyrsiau brics coch cyferbyniol gyda chornisiau carreg sy’n rhedeg o amgylch holl weddau’r adeilad.

Mae gan brif ran drillawr yr adeilad ffurf gynllun anghymesur anarferol lle mae’n meddiannu safle amlwg ar gyffordd fain Heol Clare ac Allerton Street.

Gwedd dau fae i’r gornel ddeheuol ffasedog gyda golwg dros y gyffordd â Cornwall Street, gyda gwedd tri bae i’r dwyrain a gwedd pedwar bae i’r de-orllewin. To llechi talcen slip.

Mae adain ddeulawr wreiddiol, eilaidd â 5 bae yn troi i’r gogledd-orllewin ar hyd Allerton Street gyda tho llechi â thalcen. Drws canolog i gerddwyr gyda chapan â bracedi a phediment (bellach wedi’i flocio’n arw). Drws pren gyda chwarelau ymylol ar yr ochr dde. Penty unllawr yn erbyn y talcen, gyda’r wal derfyn wreiddiol a’r fynedfa â gatiau i’r iard gefn.

Mae adain ddeulawr wreiddiol, eilaidd â 2 fae yn troi i’r gogledd ar hyd Heol Clare gyda tho llechi â thalcen. Er ei bod wedi’i ffurfio o ddeunyddiau sy’n cydweddu’n union, mae tystiolaeth mapiau hanesyddol yn dangos ei bod yn ychwanegiad diweddarach. Mae ffenestri’r llawr gwaelod wedi’u blocio â brics (agoriad drws oedd ar yr ochr dde’n wreiddiol).

Blaen siop fodern ar y llawr gwaelod i brif ran yr adeilad. Yn rhyfedd ddigon, mae’r ffenestri dalennog llithro pren a’r cyrn simneiau gwreiddiol yn dal i oroesi.

Rheswm

Hen dafarn amlwg o ffurf gynllun anarferol, a ddyluniwyd yn ôl pob tebyg gan y pensaer blaenllaw o Gaerdydd, J.P. Jones.

Wedi’i adeiladu o ddeunyddiau o ansawdd uchel, mae’n dal i gadw ansawdd pensaernïol cain, yn benodol i’r lloriau uchaf.

Gwerth Esthetig a Hanesyddol.

Er ei bod bellach ar gau, mae hanes hir tafarn ar y safle hwn yn rhoi rhywfaint o Werth Cymunedol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

BC/S/1/8180

1891 Drain Newydd i’r Seler, Gwesty’r Neville, Heol Clare. Pensaer:  J P Jones. Datblygwr:  G Priest

BC/S/1/8702

1892 Ychwanegiadau at y Gwesty, Gwesty’r Neville, Allerton Street. Pensaer:  J P Jones. Datblygwr:  G Priest

BC/S/1/15094

1903 Troethfa, Gwesty’r Neville, Heol Clare. Pensaer:  F Victory. Datblygwr:  J N Gillard

BC/S/1/24722

1926. Newidiadau i’r gwesty, Gwesty’r Neville, Allerton Street

Pensaer:  G R H Rogers

Datblygwr:  W Hancock & Co Ltd

D1026/4/248

1910-1955. Llun gyda Cheffylau Cert, 1955; Walter Frisk o flaen tafarn, 1910.

DCONC/6/90a-f

1897-1956. Gwesty’r Neville, Heol Clarence – Cynlluniau o fangre drwyddedig.

Delweddau ychwanego

Photo of The Neville pub Cardiff, c.1910

The Neville, c.1910

 

Photo of The Neville pub Cardiff, June 2008

The Neville, Mehefin 2008

Lleoliad