Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
56 The Insole Arms (gynt)Dyddiad
Anhysbys. Tua 1900?Ward
TregannaHanes
Cafodd Harvey Street ei hailddatblygu’n sylweddol ddiwedd y 19eg ganrif, gyda chynlluniau ar gyfer draenio 17 o dai yn cael eu cynhyrchu ym 1877. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod tafarn o’r enw’r ‘Glamorgan Inn’ (gyda thŷ cyfagos) yn llenwi llain gornel ar y stryd o 1860 o leiaf, ac yn ôl disgrifiadau mae’n cynnwys ‘Seleri da, pum Ystafell Eistedd a Gwely’.
Mae’n rhesymegol tybio y newidiodd yr adeilad ei enw i ‘The Insole Arms, Harvey Street, Heol, Trelái’ (cyfeiriwyd ato’n gyntaf ym 1871). Mae’n debyg ei fod yn meddiannu’r un lleoliad â heddiw – er nad yw wedi’i labelu ar fap 1879 yr AO. Mae’n ddiddorol nodi’r bwriad gwreiddiol i enwi’r ffordd sy’n torri ar ei draws o’r gogledd i’r de yn Glamorgan Street.
Ym 1873, gwrthodwyd cais i’r landlord Henry Andrews am adleoli i ‘well safle yn 37 Heol y Bont-faen’.
Saith mlynedd yn ddiweddarach, Joseph Andrews oedd y landlord, pan ddechreuodd tân mewn stabl yng nghefn y safle (Rhagfyr 1897), a losgodd y llofft yn ulw. Ef oedd y perchennog o hyd pan wnaed cais arall am adleoli, y tro hwn i adeilad newydd o’r enw’r ‘Carlton Hotel’ a gynigiwyd yn ‘Ynys-Cedwyn’ 254 Heol y Bont-faen (safle Cwrt Treganna i’r gorllewin heddiw).
Mae’n ymddangos nad yw’r adeilad erioed wedi’i adleoli oherwydd, erbyn 1915, mae’n debyg y gwnaed gwaith ailddatblygu ar ei lain gornel, gan lyncu’r hen ‘dŷ cyfagos’ a ddisgrifiwyd ym 1860 ac efallai arwain at yr adeilad a welir heddiw (er i’r ychwanegiad unllawr i’r dwyrain gael ei ychwanegu ar ôl dymchwel y teras cyfagos, mwy na thebyg yn ystod y gwaith i greu’r maes parcio ym 1981).
Recordiwyd yr Insole fel ‘tŷ ar osod i denantiaid’ gan S.A. Brains yn 1922-23.
Caeodd y safle at ddiben busnes ddiwedd 2014 a chafodd ei droi’n swyddfeydd (gweler 14/02909/MNR).
Disgrifiad
Ar gornel stryd gynt gyda phrif fynedfa i gornel ffasedog (wedi’i flocio erbyn hyn).
Wedi’i adeiladu o frics coch gwasgedig yn arddull Fflandrys gyda thriniaethau carreg rywiog i’r plinth a fframiau’r ffenestri/drysau.
Mae gan y llawr gwaelod ddrysau i gerddwyr gyda phennau bwa Tuduraidd pedwar canol a ffenestri linter teiran uwchben, gyda ffenestri myliynau teiran yn gyfagos, y cyfan wedi’i ffurfio o garreg. Ffenestri myliynau carreg i’r llawr cyntaf. Mae’r ffenestri adeiniog metel plwm oll wedi’u colli erbyn hyn (2014), wedi’u disodli gan uPVC.
Mae gan y tu blaen deheuol â thri bae ymwthiad canolog gyda drysau pâr i’r llawr gwaelod, ffenestr pedair rhan i’r llawr cyntaf a thalcen amlwg uwchben.
Mae gan y tu blaen gorllewinol â phedwar bae ymwthiad canolog dros ddau fae gyda thalcennau uwchben. Dau agoriad drws anghymesur wedi’u blocio.
Mae’r wedd ogleddol wedi’i rendro.
Ychwanegwyd penty unllawr i’r dwyrain a adeiladwyd o uniadau brics ar eu hyd ar ôl dymchwel teras cyfagos, mwy na thebyg ym 1981.
To llechi artiffisial.
Rheswm
Hen dafarn sy’n dal i gadw llawer o’i diddordeb pensaernïol cain yn allanol. Gwerth Esthetig.
Ar un adeg roedd ei lleoliad, sydd bellach wedi’i hynysu gan faes parcio cyfagos, yn diffinio cyffordd Harvey Street a Glamorgan Street. Gwerth Tystiolaethol.
Er ei bod ar gau, mae hanes hir tafarn ar y safle hwn yn rhoi rhywfaint o Werth Cymunedol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
D1619/1/1/3
Llun:
Harvey Street, Treganna ~ Cychwyn Gwaith ar y Maes Parcio (13 Ebrill 1981)
Gweler y ffeil ar gyfer cofnodion papur newydd.
Delweddau ychwanego