Photo of the former Cow and Snuffers pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

55 Cow and Snuffers (Disraeli House erbyn hyn)

Dyddiad

Tafarn wreiddiol ar y safle 1812. Adeilad presennol tua 1900.

Cyfeiriad

Heol yr Orsaf, Ystum Taf CF14 2FF

Download site boundary plan.

Ward

Ystum Taf

Hanes

Dywedir i’r dafarn wreiddiol ar y safle hwn agor ym 1812 fel y Red Cow.1

Mae map degwm 1846 braidd yn amwys, ond mae’n ymddangos bod y safle ar un adeg yn cynnwys adeilad mawr ger hen Gamlas Sir Forgannwg, gydag adeiladau gwasanaeth ar draws yr iard i’r de. Ar yr adeg honno, roedd yr eiddo yn cael ei ddal gan deulu Romilly Llandaf, a oedd hefyd yn berchen ar Tŷ Mawr. Gwerthwyd Maenor Llandaf ym 1852.

Ymddengys fod ffurf cynllun yr adeilad wedi newid ychydig erbyn map 1886 yr AO (a arolygwyd ym 1875-81), ac ar yr adeg honno gwerthwyd yr adeilad gyda’r Eagle Foundry gerllaw (1882). Tafarn sylweddol oedd hon yn amlwg, ac yn ôl disgrifiadau roedd yn cynnwys Bracty, Ale Fowlio, Gefail, Stablau, Adeiladau Allanol a Gardd.

Roedd y sefydliad ar werth eto ym 1887. Yn ôl disgrifiadau roedd yn cynnwys ale fowlio, cerbyty, siop saer olwynion a thai annedd cyfagos. Nid yw’n glir a oedd yr eiddo yn cael ei werthu ar yr adeg hon oherwydd, y flwyddyn ganlynol, roedd y Dafarn ar werth gan gynnwys tyddyn lesddaliad – mae’n debyg bod yr eiddo hwnnw dros y ffordd i’r gorllewin (gweler The Cardiff Times, 19/01/1878).

Dymchwelwyd hen adeiladau’r Dafarn tua 1900, ac erbyn 1915 safai’r adeilad presennol yn ei lle, gydag adeilad allanol hir ychwanegol i’r dwyrain, wedi’i adeiladu wrth ochr y gamlas. Erbyn y dyddiad hwn, roedd y tai teras ar Ffordd Gabalfa wedi’u hadeiladu i’r de-ddwyrain ac roedd bwthyn bach yn aros gerllaw i’r gogledd (efallai olion olaf yr hen fangre). Collwyd yr adeilad hwnnw rhwng 1938 a 1942, ac erbyn hynny adeiladwyd estyniad cefn i’r tafarndy. Erbyn 1963, roedd yr estyniad hwn wedi’i ehangu, nes iddo bron â chwrdd â’r adeilad allanol cefn i’r dwyrain. Yn ddiweddarach eto, fe’u hunwyd i greu cyfanwaith llinol (fel y gwelir heddiw).

Dywedir bod Benjamin Disraeli wedi yfed yno ddiwedd y 1830au, wrth ganlyn ei ddarpar wraig, Mary Ann Lewis o Dongwynlais. Mae’n ymddangos bod hyn yn wir. Soniodd y diweddar Arglwydd Renfrew, mewn cyfweliad cyn ei farwolaeth, y dywedodd Disraeli wrtho fod y cyfathrebiad cyntaf a gafodd (Disraeli) â’r fenyw a ddaeth yn wraig iddo yn ddiweddarach ‘yn dyddio o dafarn o’r enw anghyffredin ‘The Cow and Snuffers’ (Y Cambrian, 05/02/1904).

 

1 Dunn, M. Real Heritage Pubs of Wales.

Disgrifiad

Mae’r hen Cow and Snuffers mewn safle amlwg ar gyffordd Heol y Bont, Heol Gabalfa a Heol yr Orsaf.

Mae’r brif wedd (dde-orllewinol) o frics coch gwasgedig i’r llawr gwaelod. Yma, mae gan y ffenestri a’r drysau fframiau carreg rywiog wedi’u trin. Mae gan y gornel ffasedog i’r de y brif fynedfa i gerddwyr gyda ffrâm cerrig nadd wedi’i gerwino a phen bwa Tuduraidd dwfn (gyda mowldin capan). Drws pren â chwe phanel gyda chwarelau ochr (Mawrth 2023).

Mae’r ffenestr ganolog yn ffenestr adeiniog pedair rhan (uPVC erbyn hyn) o dan fwa ffug tri chanol gyda intrados rhychiog a mowldin capan. Plac maen clo uwchben wedi’i wneud o garreg gerfiedig gyda phortread o Benjamin Disraeli, o bosibl. I’r chwith, mae ffenestr adeiniog sengl o dan ben hanner crwn, hefyd gydag intrados rhychiog a mowldin capan. Plac esgytsiwn uwchben wedi’i wneud o garreg gerfiedig. Mae’r ffenestri wedi’u huno gan silffoedd wedi’u hintegreiddio i lin-fowldin plinth carreg.

Mae llin-fowldin carreg hefyd ar frig y llawr gwaelod, gan wahanu brics o lefelau uchaf y ffrâm bren ffug.

Mae gwaith pren pyst pared agos i’r llawr cyntaf a’r talcen gyda chreffynnau pigfain a phaneli mewnlenwi wedi’u rendro. Mae tynlath ar ogwydd yn gwahanu’r ddau, gyda mowldin deintellion uwchben. Ffenestri uPVC i’r lloriau uchaf. Cornel sgwâr i’r jetis deheuol dros fynedfa ffasedog y llawr gwaelod.

To talcen ar oleddf â gorffeniad llechi. Mae cyrn simneiau amlwg i’r wedd ogleddol bellach wedi’u colli.

Estyniadau cefn deulawr a adeiladwyd tua 1940 i ddilyn y safle tro cam (sy’n dal i ddiffinio llinell hen Gamlas Morgannwg) a chysylltu â’r hen adeilad allanol unllawr o tua 1900.

Rheswm

Hen dafarn amlwg o ansawdd pensaernïol cain, y mae ei rannau cefn yn dal i ddiffinio union linell hen Gamlas Sir Forgannwg. Gwerth Esthetig a Hanesyddol.

Er ei bod bellach ar gau, mae hanes hir tafarn ar y safle hwn yn rhoi rhywfaint o Werth Cymunedol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

D1342/18/7

‘The Cow and Snuffers’, Iard Llandaf

c.1900 – 1 ffotograff.

D1437/1/1

Yr hen ‘Cow and Snuffers’ a’r newydd, Iard Llandaf

10 Mai 1906 – 1 cerdyn

DCNS/CORB/19/9

Manylion gwerthu 21 Hyd 1852

Gan gynnwys ‘The Cow and Snuffers’

DCONC/6/29a-c

The Cow and Snuffers, Llandaf

1923 – Cynlluniau o’r safle trwyddedig

DSA/2/81

Manylion yr Arwerthiant –

23 Rhag 1882 –

The Foundry gydag anhedd-dy, swyddfeydd a siopau, tafarndy gyda bracty, ale fowlio, gefail, stablau, adeiladau allanol a gardd ger College Lock (Iard Llandaf).

2 eitem.

1 cynllun (lliw).

DSA/2/129

Manylion yr Arwerthiant – The Cow & Snuffers ac iard

28 Gorff 1887

Yn ôl disgrifiadau roedd yn cynnwys ale fowlio, cerbyty, siop saer olwynion a thai annedd cyfagos.

2 eitem.

1 cynllun (lliw).

DXKB/10/10

Loc Camlas a The Cow and Snuffers, Iard Llandaf, Morgannwg

c.1890au

1 ffotograff.

DXMA/15

Ystum Taf, ‘The Cow and Snuffers’ cyn ei ddymchwel

c.1900

1 ffotograff.

Delweddau ychwanego

1846 Tithe Map showing Llandaff North Cardiff

Map Degwm 1846

 

Postcard of the Cow and Snuffers pub Cardiff, date unknown.

Cerdyn post, dyddiad anhysbys.

Lleoliad

Dweud eich dweud