Photo of the former White Lion pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

54 Gwesty’r White Lion (gynt)

Dyddiad

1894 (ar y garreg ddyddiad). Wrthi’n cael ei adeiladu, 1938.

Cyfeiriad

10-12 Heol Orllewinol y Bont-Faen CF5 5BS

Download site boundary plan.

Ward

Trelái

Hanes

Mae adeilad ar y safle cornel hwn ar Fap Degwm 1846 (er bod y llain wedi’i henwi’n eithaf rhyfedd yn ‘Pentref Trelái’ ar ôl y borfa gyfagos).

Yn ôl map 1886 yr AO (a arolygwyd ym 1875-1881), gelwir yr adeilad yn ‘White Lion Hotel’. Mae llun o 1892 yn dangos yr adeilad cyn ei ddymchwel: adeilad deulawr yn wynebu’r dwyrain. Mae’n amlwg o ryw hynafiaeth.

Er bod Archifau Morgannwg yn dawel o ran ailadeiladu’r adeilad hwn, roedd y gwaith hwnnw’n amlwg ar y gweill ym mis Mehefin 1895, pan adroddodd y South Wales Daily News (14/06/1895) fod y gwaith adeiladu parhaus wedi rhoi cert llawn dodrefn ar dân yn ddamweiniol wrth iddi fynd heibio:

“Tra bod y llwyth yn mynd heibio’r White Lion, Trelái, sydd wrthi’n cael ei godi, roedd y dynion a oedd yn gyfrifol am y badell forter yn tanio ffwrnais injan a dyma gawodydd o wreichion byw yn tasgu o’r twmffat. Rhaid bod rhai o’r gwreichion wedi gollwng ar y cynfasau a oedd yn gorchuddio’r dodrefn, oherwydd ymhen ychydig eiliadau wedyn aeth cynnwys y cerbyd ar dân.’

Gwyddys y gwnaed newidiadau ym 1943, er bod natur neu faint y gwaith yn aneglur ar hyn o bryd.

Addaswyd yr adeilad yn fflatiau ym 1995 (95/1714R).

Disgrifiad

Hen dafarn sylweddol drillawr mewn lleoliad amlwg wedi’i ffurfio o garreg Pennant lanw gyda charreg rywiog i’r conglfeini, y ffenestri a’r drysau.

Cynllun petryal gydag estyniad cefn. Mae cornel ddwyreiniol ffasedog (i gyffordd Ffordd y Felin a Heol Orllewinol y Bont-faen) yn cyflwyno’r hen fynedfa i gerddwyr (sydd bellach wedi’i blocio) gyda ffenestr linter a phediment corbelog. Carreg gerfiedig gyda’r geiriau ‘White Lion Hotel’ uwchben, i gyd islaw pediment bylchog (gyda charreg ddyddiad yn nodi 1894) ac addurniad llew carreg cerfiedig.

Mae’r rhan fwyaf o’r ffenestri o’r math croeslathau a myliynau carreg pâr ofoli ac ysnodenni gyda ffenestri dalennog pren (ym mis Mawrth 2023). Mae gan y rhai i’r llawr cyntaf (i’r wedd ogledd-ddwyrain) siliau corbelog ymwthiol â gwaith haearn gyr. Mae’r rhai i’r llawr gwaelod yn cynnwys colofnigau hanner crwn yn lle myliynau canolog is, gyda chapanau â manylion acanthws.

Mae’r wedd dde-ddwyreiniol (Heol y Bont-faen) yn cynnwys ffenestri oriel ffasedog â manylion cain, gyda motiffau deiliog cerfiedig, parapetau bylchog a thoeau maen grisiog.

To llechid ar oleddf, gyda thalcen i’r pen gogledd-orllewinol a tho talcen slip anghymesur i’r de-ddwyrain. Mae corn simnai mawr, corbelog i’r wedd ogledd-ddwyreiniol wedi cael ei chwtogi’n sylweddol.

Mae’r cyfan wedi’i integreiddio’n dda â Tŷ Trelai gerllaw i’r de-orllewin, a ffurfiwyd o ddeunyddiau cydweddog ac a adeiladwyd, mae’n debyg, yn y cyfnod hwnnw.

Rheswm

Hen dafarn sylweddol ac amlwg o ansawdd pensaernïol cain. Gwerth Esthetig a Hanesyddol.

Er ei bod bellach ar gau, mae hanes hir tafarn ar y safle hwn yn rhoi rhywfaint o Werth Cymunedol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/S/1/34487

Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r White Lion, Heol y Bont-faen

1943 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: Ely Brewery Co Ltd.

1 cynllun, dim gweddluniau

DB/32/1-14

1882-1936 – Gweithred gyfnewid – Ystâd Bute Morgannwg a Crosswells (Cardiff) Brewery Co. Ltd;

Gan gynnwys:

Trawsgludiadau, Prydlesi, Aseiniadau ac ati, o’r White Lion Inn, 1882-1898

Crynodeb o Deitl Crosswells (Cardiff) Brewery Co. Ltd. i’r White Lion Inn, 1936

14 o femrynnau a ffeiliau

DCONC/6/152

1929 – Gwesty’r White Lion, Trelái

Cynlluniau

Delweddau ychwanego

Photo of the Whilte Lion pub Cardiff in 1892 - demolished shortly after to make way for the current building

Y White Lion ym 1892

Lleoliad

Dweud eich dweud