Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
53 Clwb Ceidwadol y RhathDyddiad
1887 gydag ychwanegiadau ac addasiadau diweddarach sylweddol (yn arbennig ym 1892 a 1926).Ward
AdamsdownHanes
Yn ôl Cymdeithas Hanes Lleol y Rhath, mae Cyril Crescent yn dyddio yn ôl i 1873, ac mae’r enw yn deillio o’r tirfeddiannwr, y Parchedig John Thomas Cyril Stacey.
Mae map cynharaf yr AO o 1879 yn dangos y clwb ceidwadol (sydd eto i’w sefydlu) fel teras bach o dri thŷ i waelod Cyril Crescent, trefniant a adlewyrchir hefyd o fewn ffotograff cynnar heb ddyddiad. Er mai adeilad â dau fae oedd yr eiddo mwyaf gogleddol gyda ffenestri dormer i’r to a’r fynedfa ochr, roedd yr adeiladau yn gyffredinol yn unffurf eu golwg – toeau ar oleddf dwbl parhaus gyda bondo yn y blaen a’r cefn, a ffenestri bae ffasedog i’r llawr gwaelod gyda thoeau parapet.
Yn ystod cyfarfod yn y Four Elms ym mis Mehefin 1880, roedd Cymdeithas Geidwadol y Rhath ‘… wedi cynnig ffurfio Clwb Gweithwyr Ceidwadol yn y Rhath, i’w gysylltu, i ryw raddau o leiaf, â’r Gymdeithas Geidwadol.’ Dywedodd yr Ysgrifennydd Mr E. Grogan fod ‘… y syniad ar hyn o bryd oedd ffurfio clwb i ddynion sy’n gweithio, er na fyddent yn eithrio dosbarthiadau eraill wrth gwrs; a chodi tâl mynediad o 1s, a thanysgrifiad o 2d yr wythnos. Yn y clwb byddai ganddynt y lleoedd cyffredin sydd i’w gael mewn sefydliadau o’r fath, ystafelloedd darllen, &c. Nid oeddent yn bwriadu gwahardd gwerthu gwirodydd meddwol, gan eu bod am wneud y clwb mor ddymunol â phosibl i’w aelodau. Roedden nhw wedi bod yn trafod ynghylch adeilad, ac roedd yn gobeithio, pe bai’r cyfarfod hwn yn cymeradwyo’r cynllun, y byddai’n gallu dweud yr wythnos nesaf eu bod wedi sicrhau tŷ helaeth mewn lleoliad canolog.’ (Weekly Mail 19 Mehefin 1880.)
Erbyn 18 Rhagfyr 1886, cafwyd adroddiad yn y Weekly Mail am y clwb newydd ei sefydlu: ‘Clwb Ceidwadol y Rhath. – Mae aelodau’r clwb hwn wedi cymryd eiddo yn 5 Cyril Crescent, Y Rhath, a bydd y pwyllgor yn bresennol yno bob nos er mwyn cofrestru aelodau newydd. Disgwylir y bydd y clwb yn cael ei agor ar ddechrau’r flwyddyn newydd.’
Sefydlwyd Clwb Ceidwadol y Rhath yn llawn yn yr adeilad newydd y flwyddyn ganlynol, ac erbyn mis Gorffennaf 1887, roedd cyfarfodydd cyffredinol yn cael eu hysbysebu yn 5 Cyril Crescent (The Western Mail, 15 Gorffennaf 1887). Cynhaliwyd eu cyfarfod blynyddol cyntaf ar 31 Ionawr 1888, lle adroddwyd mai ‘… nifer yr aelodau ar y llyfr oedd 320. Roedd cyflwr ariannol y clwb hefyd yn foddhaol; gyda chydbwysedd er lles o ran gwaith y flwyddyn o £45 15s. 10½d … Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol ar 3 Tachwedd, pan benodwyd y llywydd, y swyddogion a’r pwyllgor am y ddwy flynedd ddilynol, gan eu bod wedi llofnodi prydles ar gyfer safle’r clwb am dair blynedd. (The Western Mail, 2 Chwefror 1888)
Cynlluniau (heb eu gweld hyd yn hyn) ar gyfer ‘ychwanegiadau ac addasiadau’ i’r clwb, wedi’u dylunio gan y Penseiri Veall a Saint,1 Cymeradwywyd gan Gyngor Caerdydd ar 13 Ebrill 1891. Aeth y gwaith allan i dendro ym mis Mehefin yr un flwyddyn ac, yn ystod cyfarfod arbennig ym mis Gorffennaf, penderfynwyd ffurfio cwmni atebolrwydd cyhoeddus (Cwmni Clwb Ceidwadol y Rhath Cyf2) cyn y ‘newidiadau ac ychwanegiadau helaeth i’r safle sydd i’w gwneud yn fuan. Ar ôl eu cwblhau, bydd y rhain yn gwneud y clwb yn un o’r rhai mwyaf cyflawn a chyfforddus yn Ne Cymru.’ (Western Mail 20 Gorffennaf 1891)
Gwariwyd ‘tua £1500’ ar y gwaith, ac ailagorwyd y safle ‘wedi’i estyn a’i ail-lunio’ ar 4 Ebrill 1892, gan Mr. J.M. Maclean A.S, yr aelod dros Oldham (Evening Express).
Gellir tybio mai Rhif 5 Cyril Crescent oedd yr adeilad â dau fae i’r gogledd o’r teras oherwydd, erbyn map 191 yr AO5, y dangosir yn llawer ehangach i’r cefn, yn erbyn Heol Stacey.
Ym 1922, cynigiwyd rhagor o newidiadau, yn ôl dyluniadau’r penseiri uchel eu parch Syr Percy Thomas ac Ivor Jones (heb eu gweld hyd yn hyn). Ehangodd ‘Neuadd Tredegar’ i’r ddau adeilad hynny a oedd yn weddill o fewn Teras Cyril (gweler map 1941 yr AO) ac fe’i hagorwyd gan Arglwydd Tredegar ym 1926.3 Nid yw union faint y gwaith a wnaed yn glir ar hyn o bryd, ond mae tystiolaeth mapiau yn dangos bod yr estyniad cefn wedi’i wneud yn sylweddol fwy ac mae cynwysyddion dŵr glaw â dyddiad yn dangos y gallai’r wedd ogledd-ddwyreiniol hefyd fod yn waith Thomas a Jones. Mae’n debyg y cafodd y portsh a’r balconi carreg i ganol y teras hefyd eu gosod ar yr adeg honno.
Ehangwyd yr adeilad ymhellach i’r de-ddwyrain, yn ddiweddarach yn y ganrif.
1 Roedd gan Veall a Saint swyddfeydd yn 6 Arcade Chambers, Stryd Fawr, Caerdydd.
2 Gyda chyfalaf o £2500 mewn cyfranddaliadau 4s.
3 Gweler: https://roathlocalhistorysociety.org/local-history/roads/adamsdown-roath-streets/
Disgrifiad
Mae’r adain dde-orllewinol i Cyril Crescent yn cynnwys tri hen dŷ mewn teras bach. Mae’r cyfan wedi’i adeiladu mewn carreg Pennant lanw gyda thriniaethau carreg rywiog i’r ffenestri. Mae’r ffenestri hynny i’r llawr gwaelod yn faeau ffasedog gyda ffenestri adeiniog uPVC modern a thoeau llechi ar oleddf. Mae gan ffenestri uchaf (uPVC erbyn hyn) fwâu cylchrannol brics coch uwchben, gyda meini clo enfawr.
O’r chwith i’r dde: Hen dŷ pen teras sylweddol â dau fae gyda mynedfa ochr. Dwy ffenestr fae i’r llawr gwaelod a ffenestri pâr uwchben. Mae to wedi’i estyn yn ddiweddarach i ffurf fansard, gyda ffenestri dormer pâr â tho gwastad i’r goleddf blaen.
Mae rhan ganolog yr adain hon yn hen dŷ canol teras â dau fae. Mae’n cynnwys ffenestr fae i’r dde o ddrysau’r llawr gwaelod a drysau dwbl i gerddwyr i’r chwith, gyda phortsh carreg. Drysau uPVC modern. Ffrâm ddrws wedi’i mowldio gydag arwydd ‘Tredegar House’ wedi’i gerfio a tho parapet gwastad uwchben. Tair ffenestr i’r llawr cyntaf gyda pharapet uwchben, gan guddio balconi â tho gwastad i flaen adeiledd y to wedi’i addasu.
Mae rhan yr adain hon i’r dde yn drydydd hen dŷ, gyda ffenestr fae i’r llawr gwaelod ar y chwith, drws cerddwyr ar y dde a thalcen slip i’r to lle mae’n dod â’r hen deras bach i ben.
Lle mae’r adain dde-orllewinol o ddiddordeb llai, mae gan y wedd ogledd-orllewinol gymeriad Fictoraidd nodedig, arddullaidd. Mae’n ffurfio ochr weladwy adain enfawr sy’n ymestyn yn berpendicwlar i gefn teras Cyril Crescent ac wrth ymyl Stacey Road.
Mae gan ochr dalcennog yr hen deras ffenestr a drws pâr i’r llawr gwaelod, wedi’u gosod yn rhyfedd oddi ar y canol. Er bod y drws yn fodern, mae gan y ffenestr gerllaw fyliynau carreg gyda ffenestri pren wedi’u gosod y tu ôl sy’n cynnwys gwydr lliw cymhleth. Mae ganddo banel mewnlenwi carreg Fforest y Ddena islaw gydag addurniad panel wedi’i godi. Mae’r cyfan wedi’i amgylchynu gan garreg nadd sy’n ffurfio pilastrau gyda chorbelau carreg enfawr gwrymiog sy’n cynnal y canopi capan gwastad cyffredin uwchben. Mae’n ymddangos bod trosglwyddiad fertigol o dywodfaen Fforest y Ddena i garreg Portland (?) Carreg, sy’n dynodi gwahanol gyfnodau datblygu efallai. Yn union uwchben y llawr cyntaf mae drysau dwbl wedi’u gosod rhwng ffenestri dalennog; i gyd o fewn ffrâm carreg nadd gyda chorbeli a phediment o arddull Glasurol braidd yn amhur. Mae’r drysau pren carn gwn a’r ffenestri dalennog cyfagos yn cynnwys gwydr lliw cymhleth. Mae’n debyg bod y drws ar un adeg yn galluogi mynediad i falconi ar ben y canopi gwastad islaw. Ar lefel y trydydd llawr, mae ffenestr ddalennog wedi’i gosod yn rhyfedd oddi ar y canol (gyda threfniant 3-dros-3).
Mae gweddill sylweddol y wedd ogledd-orllewinol (Heol Stacey) hefyd wedi’i ffurfio o garreg Pennant lanw, gyda’r cyfan wedi’i hisrannu’n dri bae anghymesur gan bilastrau brics coch uchder llawn. Mae gan bob un o’r tri bae ffenestri dalennog i’r llawr gwaelod gyda fframiau brics coch, gan ffurfio ciliau wedi’u mowldio a phennau hanner crwn mesuredig (ac yn ymgorffori manylion mowld capan carreg rywiog a meini clo anferth). Er bod rhai ar goll, mae gan gwarelau sefydlog uwchben y ffenestri dalennog drefniant bariau gwydriad cymhleth. Ffenestri dalennog pren 12-dsros-1 sydd i’r llawr cyntaf gyda chiliau brics coch wedi’u mowldio a phennau charreg nadd gwastad.
Yn fwyaf nodedig, mae gan Fae 2 a Bae 3 ymwthiad canolog amlwg. Ar y llawr gwaelod, mae ganddyn nhw blinthau brics coch yn cynnal pilastrau ffenestri carreg nadd mawr, gyda chapanau gwrymiog a gorucwhadail plaen uwchben. Mae gan y ffenestri dalennog 1-dros-1 gwarelau sefydlog uwchben, sy’n cynnwys trefniant bariau gwydriad cymhleth (y rhan fwyaf ar goll erbyn hyn). Ar y llawr cyntaf, mae gan bilastrau’r ffenestri gapanau gwrymiog a chorbelog enfawr sy’n cynnal goruwchadail ymwthiol sydd wedi’i integreiddio i lin-gwrs mowldiedig y parapet uwchben. Mae gan y ffenestri dalennog pren 12-dros-1 adenydd sefydlog uwchben gyda chwarelau ymylol.
Mae cwter y to parapet yn cael ei ddraenio gan bibellau glaw haearn bwrw wedi’u gosod i’r pilastrau brics coch sy’n diffinio pob bae. Mae ganddynt hopranau cywrain wedi’u harysgrifio â ‘GR 1925’, gyda phibellau gorlif i’r tu blaen.
Mae ychwanegiadau cefn o’r 20fed ganrif i’r de-ddwyrain yn ffurfio’r ffin i Heol Lydan. Maent â thoeau gwastad a braidd yn ddiolwg.
Rheswm
Yn glwb Ceidwadol ers 1887, mae tua 136 mlynedd o wasanaeth i’w aelodau yn rhoi cryn Werth Cymunedol iddo.
Mae Gwerth Esthetig, Hanesyddol a Thystiolaethol wedi’i ymgorffori yn yr adeilad hefyd, fel clwb gwleidyddol ac fel rhes o dai Fictoraidd eithaf safonol a gafodd eu diwygio a’u hymgorffori’n ddiweddarach yn y sefydliad a oedd yn tyfu.
Mae’r wedd ogledd-orllewin gyda’i gymeriad arddullaidd ac eithaf eclectig rhyfedd o Werth Esthetig arbennig a gellir ei phriodoli i Syr Percy Thomas ac Ivor Jones; fe’i cwblhawyd ym 1926.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/8029
Clwb Ceidwadol y Rhath
1891 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: Cadeirydd
2 gynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/21134
Newidiadau i Glwb Ceidwadol y Rhath,
1922 – Pensaer: I Jones a P Thomas – Datblygwr: Cyfarwyddwyr Clwb Ceidwadol y Rhath
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/21134/2
Cynllun a thrychiadau o newidiadau arfaethedig i Glwb Ceidwadol y Rhath, Cyril Crescent, Ivor Jones a Percy Thomas, penseiri (‘3715’ a ‘CP 37’)
1922
Gweler cronfa ddata Archifdy Morgannwg ‘Caerdydd: Adeiladu Prifddinas’ Mae cynlluniau ar y gronfa ddata yn cynnwys cyfeirnod y casgliad BC/S1/ a’r rhif gwreiddiol a ddefnyddir gan Adran Syrfewyr y Fwrdeistref Sirol. Ers llunio’r gronfa ddata, mae cynlluniau ychwanegol wedi’u nodi ond nid yw’r rhain wedi cael eu gosod ar y gronfa ddata eto (Medi 2009).
Mae hyn yn ymwneud â chynlluniau plygedig a gofnodwyd ar gronfa ddata Archifdy Morgannwg fel BC/S/1/21134
1 cynllun wedi’i rolio
Delweddau ychwanego