Photo of The Park Conservative Club  Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

50 Clwb Ceidwadol y Parc

Dyddiad

1896

Cyfeiriad

217 Heol y Plwca, Caer-dydd CF24 3JD

Download site boundary plan.

Ward

Plasnewydd

Hanes

Wrth i’r datblygiad symud ymlaen tua’r gogledd i’r Rhath, erbyn 1879 roedd nifer o filâu yn llenwi ochr orllewinol Heol y Plwca (Stryd y Castell ar y pryd), ychydig cyn y gyffordd â Heol Albany/Heol y Crwys. Roedd yn safle un o’r filâu hyn a oedd yn ffurfio adeilad newydd Clwb Ceidwadol y Parc.

Dyluniwyd Clwb Ceidwadol y Parc yn 217 Heol y Plwca gan y pensaer C. Armstrong Austin o’r cwmni Barker and Austin Architects, Caerdydd. Yr adeiladwr oedd Mr Harry Gibbon (a oedd hefyd yn gadeirydd y clwb).

Fe’i hagorwyd ar 30 Ebrill 1896 gan James Mackenzie Maclean a oedd yn AS dros Gaerdydd ar y pryd. Nododd y papurau newydd y byddai gwledd cael ei chynnal ar ôl i Mackenzie dorri’r rhuban a throsglwyddo’r allwedd i’r cadeirydd H Gibbon. Mae’n ymddangos bod yr adeilad newydd yn cynnwys o leiaf rai o’r hen fila ar y safle, fel y nodwyd gan ddisgrifiad ysgrifenedig cyfoes:

‘… wedi’i adeiladu o waith brics coch, gyda thriniaethau carreg nadd, ac mae’n cynnwys ar y llawr gwaelod, ar wahân i gyntedd a choridor sy’n arwain at yr ystafell gefn ac ystafell y stiward, ystafell filiards ac ystafell ysmygu, gydag ystafell glwb fawr uwchben at ddiben cyfarfodydd a chyngherddau, ystafell ddarllen a swyddfa’r ysgrifennydd. Darperir toiledau mewn adeilad a godwyd yn yr ardd, a hen ran y tŷ a ddefnyddid fel preswylfa i’r stiward. Cynigir ar ddyddiad cynnar estyn y tŷ i’r cefn, gan orchuddio rhan fwyaf yr ardd gydag ale fowlio a chegin, gydag ystafell fwyta ac ystafelloedd eraill uwchben.’

Ym 1899, mae’n debyg i’r ychwanegiadau a amlinellwyd gael eu gosod, gan arwain at gynllun hir yr adeilad a welir ar fap 1920 yr AO (a arolygwyd ym 1915), sy’n llenwi rhan fwyaf y llain.

Ym 1926 roedd gan y Clwb 394 o aelodau a throsiant o fwy na £7000.

Gwnaed rhagor o newidiadau (anhysbys ar hyn o bryd) ym 1929.

Erbyn y 1980au, roedd y clwb hefyd wedi cymryd dros y llain gyfagos i’r de.

Disgrifiad

Adeilad deulawr yw rhan gynharaf (ogleddol) y sefydliad, wedi’i adeiladu o frics coch ‘gwasgedig’ gyda thriniaethau carreg nadd. Mae ‘trapddor casgenni’ i’r islawr wedi’i osod o fewn y plinth gan fwa brics â chwrs cerrig croes. Mae’r ffenestri wedi’u ffurfio o groeslathau a myliynau carreg wedi’u mowldio. Mae gan y rhai i’r llawr gwaelod adenydd ffrâm metel petryal plwm hirsgwar. Mae’r drysau yn rhai pâr gyda phedwar panel uchel gyda ffenestr linter betryal uwchben. Mae pennau’r ffenestri a’r drysau wedi’u hintegreiddio i lin-gwrs wedi’i fowldio. Mae terfyniadau clustog o fewn y llin-gwrs yn cefnogi colofnigau petryal sy’n codi trwy’r llawr cyntaf, i’r cornis.

Unwaith eto, mae ffenestri’r llawr cyntaf wedi’u ffurfio o groeslathau a myliynau carreg wedi’u mowldio sydd wedi’u hintegreiddio i’r cornis uwchben ac wedi’u huno gan silff band plethedig parhaus, wedi’i fowldio. Mae ganddynt ffedogau addurnedig islaw. Ffenestri dalennog llithro pren sydd yma, gyda chwarelau plwm yn y rhannau isaf a sawl cwarel (gyda bariau gwydriad pren) yn y rhannau uchaf. Mae un ddalen uchaf wedi’i ddisodli gan uned uPVC wedi’i hongian o’r pen. Uwchben y cornis addurnol, mae parapet gydag arwyddion carreg gerfiedig yn cuddio to talcen slip isel.

Plac glas i wedd y llawr gwaelod.

I’r de, mae’r rhan ddiweddarach yn cynnwys tri llawr, a ffurfiwyd o frics coch gyda thriniaethau carreg. Bandiau plethwaith carreg plaen integredig a bargodion brics wedi’u mowldio i’r talcen.

Mae gan y rhai i’r llawr uchaf ffenestri dalennog llithro pren gyda gwydr plwm i’r cwarelau isaf a sawl cwarel (bar gwydriad pren) i’r rhannau uchaf. Mae un ddalen uchaf wedi’i ddisodli gan uned uPVC wedi’i hongian o’r pen.

Heddiw mae eu cyfleusterau’n cynnwys pedair ystafell ddigwyddiadau fawr sy’n gallu cynnwys rhwng 40 a 200 o bobl, bar aelodau, neuadd snwcer gyda 3 bwrdd snwcer, 2 ystafell bŵl, ale fowlio ac ystafell ddartiau.1

 

1 https://roathlocalhistorysociety.org/local-history/pubs/

Rheswm

Mae potensial ar gyfer rhywfaint o Werth Tystiolaethol gan fod yr adeilad presennol wedi ymgorffori o leiaf rhywfaint o’r hen fila ar y safle.

Mae’r tu blaen wedi’i adeiladu a’i addurno’n dda yn meddu ar Werth Esthetig a Hanesyddol.

Diddordeb cymunedol fel clwb gwleidyddol a chymdeithasol hirsefydlog a sefydlwyd ym 1896.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/S/1/13741

Ychwanegiadau at Glwb Ceidwadol, Clwb Ceidwadol y Parc, Castle Road

1899 – Pensaer: Anhysbys. Datblygwr:  Clwb Ceidwadol y Parc

2 chynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/26951

Newidiadau i Glwb y Ceidwadwyr, Clwb Ceidwadol y Parc, Heol y Plwca

1929 – Pensaer: M Willmott – Datblygwr: Clwb Ceidwadol y Parc

2 gynllun, dim gweddluniau

Delweddau ychwanego

Modern mapping over 1879 OS Map showing the site of the Park Conservative Club Cardiff

Mapio modern dros fap 1879 yr AO

Lleoliad

Dweud eich dweud