Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
49 Gwesty WellsDyddiad
1880auWard
Glan-yr-AfonHanes
Sefydlwyd Elusen Craddock Wells ym 1710 pan roddodd yr Henadur Craddock Wells rai tai a darn o dir yn Nhreganna, gyda’r elw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion addysgol. Adeiladwyd ar y tir yn y 1880au/1890au. Gosodwyd y tai ar brydlesi 99 mlynedd i weithwyr Rheilffordd y Great Western a oedd yn gorfod talu ardrethi atodol o £3 y flwyddyn a oedd yn mynd i’r elusen ac yn cael ei ddefnyddio wedyn i ddarparu cyllid ar gyfer yr ysgoloriaethau.
Ceir y cyfeiriad papur newydd cyntaf at Westy Wells ym mis Mawrth 1890, pan fo’r landlord Mr Shapton yn cynnig adeiladu ale fowlio. Gwrthodwyd y cynllun gan Lywodraethwyr Elusen Wells ‘oherwydd y cythrwfl a achoswyd i gymdogion a chael gwybod y byddai’r cynllun yn tresmasu ar y lle y tu ôl i’r safle‘.
Nid yw’r ardal gyfan i’r de o Wyndham Street ac i’r gogledd o Eldon Street (Heol Parc Ninian erbyn hyn) wedi’i datblygu ar fap yr AO dyddiedig 1886 a dim ond yng nghynllun 1922 (a arolygwyd ym 1915-16) y daw’r cynllun yn glir ac y dangosir Craddock Street.
Cynigir ale fowlio newydd ar gyfer Gwesty Wells ym 1895, yn ôl dyluniadau’r pensaer C.C. Jones. Ar yr adeg honno, mae’r safle yn eiddo i W Hancock & Co Ltd.
Roedd yr ale fowlio i’r de o’r adeilad a ddymchwelwyd yn 2004.
Addaswyd yr adeilad yn chwe fflat tua 2005; gweler: 04/00630/W
Disgrifiad
Adeilad hynod addurnedig o ddiwedd oes Victoria mewn arddull ddarddullaidd rydd gyda dylwanwadau arddull y Frenhines Anne. Adeilad trillawr, gyda chynllun anghymesur, mewn lleoliad amlwg ar gyffordd Craddock Street, Trevithick Street a Smeaton Street. Adeiladwyd mewn brics coch ‘gwasgedig’ gyda thriniaethau carreg rywiog.
Mae gan y llawr gwaelod bilastrau wedi’u gerwino gyda stopiau clustog i’r colofnigau diemwnt uchder llawn uwchben ac wedi’u cysylltu gan fwâu dall â meini clo anferth. Mae gan ffenestri’r llawr gwaelod bennau bwa pantiog wedi’u mowldio gyda meini bwa anarferol o fawr. Ffenestri adeiniog pren. Un i’r wedd orllewinol gyda chroeslath a myliwn carreg. Mae portsh â chapan carreg i’r brif fynedfa (gwedd ogleddol) yn addurnol iawn, gyda bracedi rhychiog anarferol o fawr gyda swagiau a chapanau colofnau ïonaidd, y mae pob un ohonynt yn cynnal balwstrad gwaith agored wedi’i sgrolio sydd hefyd wedi’i integreiddio i’r llin-gwrs carreg wedi’i fowldio sydd ar ben y llawr gwaelod.
Mae calchfaen Portland (?) a thywodfaen llwyd Fforest y Ddena (?) yn darparu bandiau bob yn ail i’r llawr cyntaf (yn arddull Norman Shaw) wedi’i integreiddio i’r colofnigau diemwnt, sy’n dod i ben mewn cornis wedi’i fowldio uwchben. Ffenestri â myliynau a chroeslathau carreg gyda dalennau llithro pren. Pennau bwa pantiog wedi’u mowldio (gyda meini clo anarferol o fawr bob yn ail) i ffenestri gyda mewnlenwad swagiau carreg i ffenestri linter dall.
Talcennau Iseldiraidd addurnol iawn i barapet y trydydd llawr gyda sgroliau a phedimentau. Mae’r colofnigau’n dod i ben gyda phinaclau gerllaw.
Toeau llechi ar oleddf.
Rheswm
Adeilad cornel amlwg wedi’i addurno’n gyfoethog. Er bod nifer o ffenestri gwreiddiol wedi’u colli, mae’r adeilad yn cadw Gwerth Hanesyddol ac Esthetig.
Adeiladwyd fel gwesty a thafarn tua 1890. Er ei fod ar gau, mae’n parhau i feddu ar werth Cymunedol.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/10870
Ale fowlio, Gwesty Wells, Smeaton Street
1895 – Pensaer: C.C. Jones – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd
1 cynllun, gan gynnwys gweddluniau
BC/S/1/34520
Toiled i fenywod, Gwesty Wells, Craddock Street
1943 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/37770
Arwydd, Gwesty Wells, Craddock Street
1948 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
DCONC/6/146a-c
Gwesty Wells, Craddock Street
1937-1943
Cynlluniau