Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
48 The WoodvilleDyddiad
1857Ward
CathaysHanes
Ceir y cyfeiriad papur newydd cyntaf at Westy’r Woodville mor gynnar â mis Gorffennaf 1857, pan fo’r Landlord Mr Edward Rowland yn hysbysebu tir adeiladu ‘Ger Gwaith Wagenni Dyffryn Taf, ac ar y ffordd i’r Fynwent newydd, i’w gosod mewn ffryntiadau o 16, 18 ac 20 troedfedd, ar Brydlesi am 99 mlynedd’.
Mae Rowland yn parhau i fod yn landlord tan 1870, pan wrthodir ei drwydded ‘o ganlyniad i’r cymeriad drwg y mae’r tŷ wedi’i fagu.’ Mae’r Gwesty’n amlwg yn fusnes llewyrchus ar hyn o bryd, gyda Rowland yn dweud wrth y fainc bod ‘y buddiannau ynglŷn â’r tŷ hwn yn ddifrifol iawn, rhywbeth fel £800 neu £1000 y flwyddyn’.1
Dangosir y sefydliad gyntaf ym map 1880 yr AO (a arolygwyd ym 1879) fel dod â’r teras i ben ar Heol Woodville, mewn lleoliad amlwg ar y gyffordd. Ceir iard helaeth i’r gogledd, gerllaw Teras Cathays. Mae’r rhan lai sy’n ffinio â Gwesty’r Woodville yn debygol o berthyn i’r sefydliad hwnnw (gydag adeilad stablau efallai) ond mae mynediad â gatiau drwodd i’r rhan fwy o faint. Dyma efallai lle’r oedd Edward Rowland yn ceisio adeiladu. Ceir troethfa yn erbyn gwedd orllewinol yr adeilad. Mae swyddfa bost i’r cefn, o fewn y teras ar Heol Woodville. Gellir gweld y Gwaith Wagenni i’r dwyrain.
Mae llun o tua 1890 yn dangos y safle. O bwys arbennig mae’r drws gwreiddiol i’r gornel ffasedog yn erbyn y gyffordd, gyda ffenestri gerllaw a oedd yn llai ar un adeg. Uwchben y cyfan mae cornis wedi’i fowldio’n diffinio’r fynedfa. Ffenestri dalennog chwech dros chwech sydd i’r adeilad (sy’n nodi oedran sylweddol yr adeilad), gyda fframiau wedi’u mowldio i’r llawr cyntaf. Mae gan y to barapet ac o leiaf dri chorn simnai. Mae’r swyddfa bost i’w gweld i’r cefn, fel rhan o’r teras ar Heol Woodville.
Ychwanegwyd Ystafell Ymolchi fach at y Gwesty ym 1894 (pan oedd y Gwesty, erbyn hynny, yn meddiannu’r hen Swyddfa Bost ac yn eiddo i SA Brain & Co) a gwnaed rhagor o newidiadau ym 1911. Mae’n debyg bod un o’r cyfnodau gwaith hyn wedi arwain at ehangu i’r hen swyddfa bost i’r cefn a’r estyniad gorllewinol bach a oedd i’w weld ar fap yr AO dyddiedig 1920 (arolygwyd ym 1915).
Mae map 1947 yr AO (a arolygwyd ym 1941) yn dangos bod nifer o’r tai ar Woodville Terrace wedi diflannu – efallai oherwydd gweithred y gelyn yn ystod y rhyfel. Cafodd y rhain eu hailadeiladu erbyn 1952.
Gwnaed rhagor o newidiadau ym 1948 (nid yw (maint y gwaith yn glir).
Erbyn canol y 1980au, roedd yr adeilad wedi ehangu ymhellach i Heol Woodville, gan gymryd tŷ arall o’r teras.
1 Roedd £1000 ym 1870 yn cyfateb i tua £152,000 erbyn heddiw.
Disgrifiad
Adeilad trillawr mewn lleoliad amlwg gyda chornel ffasedog i gyffordd Teras Cathays, Heol Woodville a Heol Senghennydd, gan feddiannu dau o’r adeiladau yn nheras Heol Woodville hefyd.
Mae gan ran wreiddiol yr adeilad rendrad cerrig nadd mewn haen i’r llawr gwaelod gyda manylion conglfeini ar y corneli. Cafodd y ffenestr pren dwy-dros-ddwy eu mewnosod yn ddiweddarach, gyda’r rhai mwyaf nodedig i gornel ffasedog y llawr gwaelod, a oedd unwaith yn brif ddrws mynediad. Mae’r ffenestri dalennog teiran cyfagos o fewn agoriadau mwy o faint (siliau wedi’u gostwng).
Mae to llechi ar oleddf a tho talcen slip i’r gornel. Mae bondo bargodol yn ychwanegiad diweddarach (yn barapet i’r prif weddau’n wreiddiol). Mae lleoliadau’r ffenestri dormer fel y’u hadeiladwyd, er bod cyrn simneiau corbelog addurnedig i gyd wedi’u colli.
Mae’r rhan ddeulawr i’r gogledd yn dal i ddangos maint bras tu blaen y swyddfa bost gydag agoriad drws a ffenestr ar Heol Woodville, er bod y drws wedi’i adleoli ac mae lefel y sil wedi codi’n sylweddol. Mae’n bosibl bod y ffenestri dalennog chwech-dros-chwech i lawr uchaf yr adeilad teras mwyaf gogleddol yn wreiddiol.
Rheswm
Mae’r adeilad yn tarddu o westy o ddechrau oes Victoria, ac mae’n dal i ddangos rhai nodweddion allanol diddorol sy’n dangos ei grandrwydd cynnar. Gwerth Esthetig a Hanesyddol.
Mae o leiaf 165 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/9974
Ychwanegiad at Westy’r Woodville, Gwesty’r Woodville, Heol Woodville
1894 – Pensaer: S Williams – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/17934
Ychwanegiadau at Westy, Gwesty’r Woodville, Heol Woodville
1911 – Pensaer: S Williams – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/37437
Ychwanegiadau at westy, Gwesty’r Woodville, Heol Woodville
1948 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd
1 cynllun gan gynnwys gweddluniau
D1483
Llun yn dangos Gwesty’r Woodville, Caerdydd gyda grŵp o bobl y tu allan.
c.1890
DSA/12/3128
Gwesty’r Woodville, Caerdydd
1918
Dadfeiliad
(S A Brain & Co Ltd.) G/4.
Rhan o glawr ffeil.
Gohebiaeth 3 Gorff – 2 Awst 1918. – Copi o’r cymal atgyweirio. – Llyfr nodiadau S ac A
Delweddau ychwanego