Photo of The Wolf's Castle pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

47 Wolf’s Castle (gynt)

Dyddiad

Tafarn wedi'r rhyfel gydag olion ffermdy o’r 19eg ganrif wrth ei wraidd.

Cyfeiriad

Wolf’s Castle Road, CF14 5JS

Download site boundary plan.

Ward

Llanisien

Hanes

Ymhlith disgynyddion Edward ap Lewis roedd cangen o’r teulu Lewis a ymgartrefodd yn Llanisien ger Caerdydd. Cartref gwreiddiol y Lewisiaid oedd ‘ger Eglwys Sant Isan yn Nhŷ Llanisien’. 1 Ym 1834, nododd y bu ‘am fwy na’r ddwy ganrif ddiwethaf yn blasty’r teulu Lewis.’ 2 Ar ôl marwolaeth Wyndham Lewis ym 1835, gwerthodd aelodau prif linach y teulu eu tiroedd yn Llanisien i Ardalydd Bute. Yn y cyfamser, roedd cangen arall o’r teulu yn Llanisien wedi ymgartrefu yn ‘Tŷ Newydd’ ar y Ddraenen, wedi’i adeiladu gan Thomas Lewis (1699-1764) – sef mab i brif linach Llanisien. Sefydlodd Thomas Lewis Waith Haearn Dowlais ac roedd ei ddisgynyddion yn ymwneud â’r cwmni hwnnw am flynyddoedd lawer wedyn.3 Erbyn 1834, yn ôl pob sôn, roedd Tŷ Llanisien ‘wedi mynd rhwng y cŵn â’r brain’.4

Er bod Tafarn Wolf’s Castle wedi’i hadeiladu ar safle ‘Tŷ Llanisien’ (gweler map Budgen o 1811), mae’n debyg mai hon oedd fferm gysylltiedig y plas. Yn wir, ‘Llanishen House Farm’ yw’r enw ar yr eiddo yn arolwg degwm 1846, sydd ym mherchnogaeth Ardalydd Bute ac yn cael ei feddiannu gan denant o’r enw Samuel Wide. Mae’n cynnwys 127 erw. Dangosir dau brif adeilad a gyrhaeddir o Heol Hir i’r dwyrain. Saif adeiladau allanol i’r gogledd gyda ffermdy cynllun sgwâr bras i’r de, wedi’i amgylchynu’n rhannol gan berllannau. I’r gorllewin o’r ffermdy, mae nant yn llifo o’r gogledd i’r de.

Erbyn arolwg 1875 yr AO, gelwir yr eiddo yn ‘Llanisien-Fawr’. Mae’r tŷ wedi’i osod o fewn cwrt bach o adeiladau, wedi’i amgylchynu’n rhannol gan erddi. I’r gogledd, mae’r buarth gweithredol wedi ehangu’n fawr. Erbyn hyn mae’r nant orllewinol yn bwydo pwll pysgod mawr i’r de. Gellir gweld perllannau a dolydd wedi’u hehangu i’r gorllewin.

Ym 1910, cynigiodd Cyngor Caerdydd brynu Mill Farm (i’r dwyrain) a Llanishen Fawr o Ystâd Bute. Mae’n amlwg y llwyddwyd caffael y rhain erbyn 1913, pan gynigiwyd adeiladu saith Bwthyn (ynghyd ag addasu’r ddau eiddo).

Ar fap 1922 yr AO (a arolygwyd ym 1915), mae’r cynllun yn ddigyfnewid yn ei hanfod – heblaw am ychydig o adeiladau allanol newydd i’r buarth. Mae’n debyg mai’r pâr o adeiladau yn erbyn ochr ddwyreiniol cyfadeilad y buarth yw dau o’r bythynnod hynny a gynigiwyd gan Gyngor Caerdydd ym 1913 (gweler Archif Morgannwg: Cofnod GD/C/SM/3). Roedd y pum bwthyn gweddilliol a adeiladwyd gan y Cyngor yn sefyll ar hyd Heol Hir (gweler AG: RDC/S/2/1913/32).

Mae map 1946 yr AO (a arolygwyd ym 1940) yn darparu gwell manylder. Mae’r tŷ wedi’i osod i’r de o gwrt gwasanaeth ond mae’n ymddangos ei fod wedi’i rhannu gan estyniad i’w orllewin. Mae’r buarth gogleddol yn dangos rhagor o adeiladau allanol. Mae’r pwll pysgod yno o hyd, er ei bod yn ymddangos bod llawer o’r berllan wedi’i golli.

Erbyn map 1961 yr AO (a arolygwyd ym 1956), ymddengys fod holl adeiladau Fferm Tŷ Llanisien wedi mynd, ac yn eu lle saif Tafarn Wolf’s Castle gyda thai newydd o’i hamgylch. Fodd bynnag, mae tros-haen map yn dangos bod y ffermdy wrth wraidd y cyfadeilad presennol, damcaniaeth a atgyfnerthwyd trwy archwilio’r ffabrig adeiledig.

 

1 https://www.angelfire.com/ga/BobSanders/ESTATES.html

2 Lewis, S. (1834) A Topographical Dictionary of Wales.

3 https://www.angelfire.com/ga/BobSanders/ESTATES.html

4 Op cit. Lewis.

Disgrifiad

Wedi’i leoli o fewn safle gwyrdd hael ac wedi’i hamgylchynu gan strydoedd preswyl, mae gan Wolf’s Castle olwg tafarn sylweddol o’r cyfnod wedi’r rhyfel, gyda’r cyfan wedi’i rendro a’i baentio, â thoeau wedi’u gorffen mewn teils cydgloadol.

Fodd bynnag, wrth edrych yn agos gwelir ffermdy o’r 19eg ganrif wrth ei wraidd sydd wedi’i addasu’n helaeth, y gellir ei weld o hyd fel rhan ddeulawr yr adeilad. Mae ei adain flaen â thri bae wedi goroesi ar y llawr gwaelod ac mae adenydd deulawr pâr yn ymestyn yn berpendicwlar o’i gefn.

Amharwyd ar y ffermdy rhywfaint eisoes erbyn 1940 yn sgil ei addasu’n dafarn tua 1950 pan ychwanegwyd yr estyniadau unllawr presennol – a helaeth – at y tu blaen a’r ochrau. Roedd hyn yn arwain at ddymchwel rhan o weddau’r llawr gwaelod.

Mae’r adeilad allanol annibynnol i’r gogledd-orllewin wedi’i ffurfio’n rhannol o garreg ac mae hefyd o ryw hynafiaeth – efallai wedi’i adeiladu rhwng 1846 a 1875 (er iddo gael ei estyn i’r gorllewin ar ôl 1956).

Mae gan y wal derfyn ogleddol bresennol rywfaint o ddiddordeb treftadaeth hefyd. Fe’i hadeiladwyd o gerrig rwbel ar hap a’i gorchuddio gan gerrig copa ‘Staffordshire Blue’ hanner crwn sylweddol. Ar un adeg roedd y porth sy’n bodoli o hyd yn galluogi mynediad i ardd ffurfiol (yr ardd gwrw yn ddiweddarach). Mae llinell o bisgwydd aeddfed i ochr orllewinol Plas Llangefni yn dal i ddiffinio maint mwyaf dwyreiniol tiroedd ffurfiol Ffermdy Llanisien.

Mae’r lôn fynediad hanesyddol o Heol Hir wedi goroesi fel Wolf’s Castle Avenue. Mae tai ar Templeton Close yn meddiannu safle’r hen bwll pysgod.

Yn fewnol, wrth addasu’r adeilad yn dafarn, dymchwelwyd gweddau llawr gwaelod y ffermdy. Ychydig o ddiddordeb sydd wedi goroesi yn fewnol, ac eithrio grisiau deniadol o ddiwedd Oes Victoria/Edward a tho brenhinbyst i’r brif adain, sy’n cynnal tulathau polion bras a tho byrddau nenfwd.

Rheswm

Mae olion sylweddol ond wedi’u newid yn helaeth o ffermdy o’r 19eg ganrif yn dal i’w gweld wrth wraidd yr adeilad, gan roi Gwerth Tystiolaethol a Hanesyddol cyfyngedig.

Mae gweddill yr adeilad gwasgarog yn cynnwys ffabrig o’r cyfnod wedi’r rhyfel â Gwerth Esthetig isel.

Mae tua 70 mlynedd o wasanaeth fel tafarn hefyd yn rhoi Gwerth Cymunedol cyfyngedig i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/GCA/4/5

Trawsgludo (Prydlesu a Rhyddhau), am £390 3s. 9d.

3-4 Hyd 1794

Wyndham Lewis o Tŷ Llanisien, ysw., i’r GCN. 4 darn o dir (4e.2r.23p.); yn Llandaf a rhan (3e.1r.14p) o fferm Monachdy; yn Llandaf [Enrolled] [original number 4]

2 Femrwn

GD/C/SM/3

Cynlluniau a thrychiadau o dyddynnod a phapurau cysylltiedig

1910-1933

Gan gynnwys:  Bythynnod newydd yn Llanisien Fawr. Cynlluniau a thrychiadau o’r bythynnod newydd, addasiadau ac ychwanegiadau [3 chynllun] Chwefror 1913

GD/LA/3/17

Mill Farm a Llanisien Fawr, Llanisien. (Cyngor Caerdydd) Gohebiaeth â swyddfa ystâd Bute ynghylch caffael.

Tach 1910-Ebrill 1913

1 ffeil

GD/LA/3/18

Mill Farm a Llanisien Fawr, Llanisien. (Cyngor Caerdydd) Gohebiaeth Gyffredinol.

Tach 1910-Ebrill 1913

1 ffeil

GD/LA/3/19

Mill Farm a Llanisien Fawr, Llanisien. (Cyngor Caerdydd) Gohebiaeth Gyffredinol.

Meh 1918-Ion 1925

1 ffeil

RDC/S/2/1913/32

5 Bwthyn ac Addasiadau i adeiladau Mill Farm, Mill Farm a Llanisien Fawr, Llanishen

1913

Pensaer:  Anhysbys – Datblygwr: Glam City Council Smallholdings – Math o adeilad: Tai, Arall

4 cynllun gan gynnwys gweddluniau

RCAHMW

Cofnod Safle

Llanisien-Fawr

NPRN 19181

Delweddau ychwanego

Aerial photo showing phasing of the Wolfs Castle pub, Cardiff

Lleoliad

Dweud eich dweud