Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
46 Gwesty Victoria ParkDyddiad
1897Ward
TregannaHanes
1897 ar y Garreg Ddyddiad.
Adeiladwyd Gwesty Victoria Park ar gornel Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Kingsland Road, ar gost o £3,500. Fe’i dyluniwyd gan y pensaer W. David Morgan ar gyfer Brain and Co. Fodd bynnag, cafwyd trafferth wrth sicrhau trwydded Tŷ Cwrw ar gyfer yr eiddo a gwrthodwyd sawl cais ar sail y canfyddiad nad oedd ei hangen yn yr ardal. Ar ôl sefyll yn wag am dair blynedd (ac yn dilyn gwaith i ddatblygu’r strydoedd cyfagos ymhellach), agorodd y gwesty ym 1899.
Mae map 1901 yr AO (a arolygwyd ym 1898-99) yn dangos yr adeilad yn meddiannu ei safle amlwg, gyda chornel ffasedog i’r gyffordd a’r iard yn y cefn.
Mae’n debyg bod gwaith draenio wedi’i wneud ym 1904 a 1905 ac, erbyn 1915, mae’n ymddangos y codwyd nifer o ychwanegiadau bach i’r gogledd (o fewn yr iard).
Erbyn 1940, roedd y rhain wedi cael eu clirio i wneud lle i’r estyniad unllawr sydd ar gael o hyd i’r gogledd.
Mae estyniad hir hefyd i ben dwyreiniol yr iard a ddangosir erbyn y dyddiad hwn, wedi’i ddylunio ym 1936 gan y penseiri Ivor Jones a Percy Thomas.
Gwnaed rhagor o ychwanegiadau bach i’r cefn ym 1952 (Penseiri I Jones a J Bishop), a mewnlenwyd yr iard ymhellach yn ddiweddarach yn y ganrif.
Disgrifiad
Mae Gwesty Victoria Park yn safle amlwg ar gornel Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Kingsland Road, gyda chornel ffasedog i’r gyffordd. Mae’r wedd ddeheuol (Heol Ddwyreiniol y Bont-faen) yn cynnwys tri llawr i’r gornel, gan ostwng i ddau cyn iddi gwrdd â’r teras cyfagos. Mae’r trefniant hwn yn debyg i’r gorllewin (Kingsland Road), er bod estyniad ychwanegol â tho gwastad i’r pen gogleddol (ychwanegwyd ym 1915-1940), gyda’r cyfan wedi’i wahanu o’r teras cyfagos gan fynedfa â gatiau i’r iard gefn.
Wedi’i ffurfio o garreg Pennant mewn haen gyda thriniaethau carreg rydd i’r drysau a’r agoriadau ffenestri (sydd bellach wedi’u paentio’n wyn).
Bwâu Tuduraidd i agoriadau ffenestri a drysau’r llawr gwaelod, wedi’u haddurno gan folteisi cain gyda siamffrau stop-fowldio. Ceir saernïaeth ffenestri plwm petryal â chwarelau sefydlog o ddyddiad diweddarach i’r ffenestri, gyda ffenestri adeiniog lliw sefydlog gwreiddiol (gyda fframiau wedi’u mowldio a myliynau trwm). Ar y llawr gwaelod mae ffasgia arwyddion pren modern wedi’i baentio sy’n lapio o amgylch y prif weddau. Pennau cylchrannol wedi’u mowldio i agoriadau ffenestri’r llawr cyntaf, gyda ffenestri uPVC pennau sgwâr. Mae 2 ffenestr ddormer wal, gyda thalcennau â chopaon addurnol ar gerrig pen-glin wedi’u mowldio, gyda therfyniadau carreg uwchben. Manylion ysgwyddog i ffenestri’r trydydd llawr, wedi’u mewnlenwi â ffenestri dalennog uPVC. Cerrig dyddiad pedeirdalen i’r talcennau dormer. To llechi ar oleddf gyda thalcennau a tho talcen slip i’r gornel gydag estyll tywydd a ffasgiâu wedi’u mowldio. Mae estyniad â tho ar oleddf i ffin yr iard ddwyreiniol (ychwanegwyd ym 1915-1940) wedi’i orchuddio gan fewnlenwi diweddarach i’r iard.
Rheswm
Tafarn wedi’i haddurno’n gyfoethog mewn safle amwlg a adeiladwyd ar gyfer SA Brain & Co. Gwerth Esthetig a Hanesyddol.
Mae tua 122 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/15630
Draenio Seler Gwesty, Gwesty Victoria Park, Heol y Bont-faen
1904 – Pensaer: P E Hill – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
2 gynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/15974
Draenio, Gwesty Victoria Park, Heol y Bont-faen
1905 – Pensaer: R & S Williams – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun gan gynnwys gweddluniau
BC/S/1/15981
Draenio, Gwesty Victoria Park, Heol y Bont-faen
1905 – Pensaer: R a S Williams – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun gan gynnwys gweddluniau
BC/S/1/31107
Gwesty Victoria Park, Heol y Bont-faen
1936 – Pensaer: Ivor Jones a Percy Thomas – Datblygwr: S A Brain & Co
2 gynllun gan gynnwys gweddluniau
BC/S/1/42077
Ychwanegiadau at y Gwesty, Gwesty Victoria Park, Heol y Bont-faen
1952 – Pensaer: I Jones & J Bishop – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
DCONC/6/145a-c
Gwesty Victoria Park, Heol y Bont-faen
1936 – 1940
Cynlluniau
Delweddau ychwanego