Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
45 Tŷ Mawr ArmsDyddiad
1700au neu ddechrau'r 1800auWard
Llys-faen a DdraenenHanes
Mae Tŷ Mawr yn dŷ hanesyddol ar lethr y Graig gyda golwg dros Llys-faen. Fe’i hadeiladwyd fel ffermdy yn y 18fed ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif.1
Mae map Budgen o 1811 yn dangos yr eiddo fel ‘Red House.‘
Mae ‘Tŷ Mawr Farm’ yn cael ei gofnodi yn arolwg degwm 1845, gyda John Homfray (o un o Linachau Haearn mawr Cymru) yn dal y fferm 57 erw ‘mewn llaw’.2 Ceir mynediad i’r fferm o Graig Road, gyda threfniant ‘cynllun cwrt’: ffermdy i’r dwyrain a dwy adain allanol yn amgáu’r iard yn rhannol i’r gorllewin.
Mae map 1885 yr AO (a arolygwyd ym 1875) yn dangos mwy o fanylion. Mae’n ymddangos bod ffurf y cynllun wedi newid, gyda’r tŷ wedi’i ailadeiladu/estyn a’r hen ysgubor yn uniongyrchol i’r gorllewin bellach wedi’i hongli i’r gogledd. Mae adain wedi’i hestyn i ffin ddeheuol yr iard, gydag adeiledd ychwanegol i’r dwyrain. Dangosir gardd a pherllan wedi’u hamgáu i’r de a’r dwyrain.
Mae’r cynllun hwn yn parhau i fod heb ei newid yn sylfaenol tan fap 1946 yr AO (a arolygwyd ym 1940), ac erbyn hynny mae yna fwy o adeiladau allanol.
O ychydig wedi’r Ail Ryfel Byd, cafodd cŵn cadno grŵp Helfa Llys-faen yr ardal eu cadw mewn cynelau yn Tŷ Mawr nes iddo ddod yn dafarn yn y 1960au.
Cynhaliodd RCHAHMW sesiwn gofnodi frys yn 2000, cyn newid arfaethedig.3
1 Gweler https://coflein.gov.uk/cy/safle/20189/
2 Roedd John Homfray yn ddisgynnydd uniongyrchol i Syr Jeremiah Homfray, aelod o un o “linachau haearn” mawr Cymru. Prynodd Ystâd Castell Penllyn ym 1846 am £18,000.
3 Gweler Archif RCAHMW Rhifau 6339483, 6006330, 6179309.
Disgrifiad
Saif yr hen ffermdy ym mhen dwyreiniol y cyfadeilad fferm ‘cynllun cwrt’, gyda’r cyfan yn dal o fewn ei gwrtil gardd mwy. Mae’n adeilad deulawr tri bae gyda rendrad wedi’i baentio’n wyn. Ffenestri uPVC modern. Mae portsh canolog â tho ar oleddf i’r tu blaen. Mae gan yr adeilad do llechi ar oleddf. Ffenestr ddormer fawr a tho sleid gathod i’r cefn. Cyrn simneiau brics coch i’r ddau dalcen.
Mae gan yr ysgubor sydd wedi’i hongli ym mhen gorllewinol y ffermdy (sy’n dyddio o 1845-1885) do llechi ar oleddf ond mae bellach wedi’i orchuddio gan adeiledd to ar oleddf o ddiwedd yr 20fed ganrif a adeiladwyd o fewn buarth y fferm ac sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r tu blaen (gydag estyniadau mawr ar oleddf i’r de). I’r cefn, estyniadau modern helaeth â thoeau gwastad, sydd hefyd yn ymestyn y tu ôl i’r tŷ.
Mae’r buarth wedi’i hamgáu o hyd i’r gorllewin gan ysgubor sylweddol – mae agoriadau mawr yn ei gweddau dwyreiniol a deheuol yn dangos bod hyn unwaith yn gweithredu fel sied gerti neu gysgodfan. To llechi ar oleddf.
Rheswm
Hen dyddyn mawr gyda nifer o adeiladau o’r 19eg ganrif sy’n dal i ddynodi ei swyddogaeth hanesyddol. Gwerth Hanesyddol ac Esthetig.
Mae rhyw 60 mlynedd o fod yn dafarn yn rhoi Gwerth Cymunedol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
I gael y Manylion Gwerthu ac ati, gweler cofnod llawn Archifau Morgannwg:
DSA/6/463/1
DSA/12/3196
DSA/12/4960
GD/LA/15/287
Delweddau ychwanego