Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
44 Three ElmsDyddiad
Ailadeiladwyd ym 1913 ond roedd tafarn llawer cynharach ar y safle hwnWard
Yr Eglwys Newydd a ThongwynlaisHanes
Yn hanesyddol, adwaenid Comin yr Eglwys Newydd fel Gwaun Treoda. Roedd y rhan fwyaf ohono o fewn y faenor hynafol (Arglwyddiaeth Caerdydd) a oedd, erbyn diwedd y 18fed ganrif, wedi trosglwyddo i’r teulu Bute. Roedd rhan lai, lle saif Capel Ararat erbyn hyn, yn rhan o faenor y Rhath Keynsham, yr oedd Is-iarll Tredegar yn ei harglwydd maenoraidd. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd Cyngor Plwyf yr Eglwys Newydd yn awyddus i gaffael y Comin a gwnaeth sawl cais aflwyddiannus i Ardalyddion Bute rhwng 1895 a 1922. Gwnaeth y Cyngor gysylltu ag Ystâd Tredegar ym 1923 gyda’r bwriad o gaffael yr hawliau maenoraidd i’r rhan honno o’r Comin, ond nid tan fis Hydref 1925 y cytunodd yr Arglwydd Tredegar a’i ymddiriedolwyr i’r cais a nodi y byddai’r weithred o drawsgludo yn cael ei chyflawni yn gynnar ym 1926. Adroddwyd hefyd fod yr Arglwydd Bute wedi gwrthod yr un cais ar y pryd hwnnw.1
Saif tafarn modern y Three Elms ar safle tafarn lawer hŷn, a oedd yn dyddio’n ôl i o leiaf 1811.2
Ceir y dystiolaeth papur newydd gyntaf ar gyfer yr adeilad ym 1812 pan gynigiodd James Stephens o’r Three Elms wobr am wybodaeth am gaseg ddu “o’r math y gellir ei gyfrwyo” a oedd ar goll.
Ym 1817, cofnodir ei fod yn cynnwys stabl, gweithdy saer coed a gefail.3 Am ran helaeth o’r 19eg ganrif gynnar, roedd y Three Elms ym meddiant y teulu Lewis. Y tenant oedd Lewis Lewis ym 1828 pan oedd y dafarn ar werth. Yn ôl y disgrifiad, roedd gan y safle “ddau fwthyn, a stablau gyda phymtheg bocs rasio a hela”. Cafodd y tafarnwr Edward Lewis ei garcharu ym 1829 am fod yn ddyledwr.
Yn arolwg degwm 1840, nodir mai Lewis Lewis yw’r meddiannydd a dangosir adeilad cynllun sgwâr ymhlith y comins, gydag estyniad cefn ac adeilad allanol bach i’w gwrtil. Ni ellir ond tybio mai dyma adeilad y stablau (gan ei bod yn ymddangos bod llociau gwag ger y nant i’r gogledd-orllewin), er ei fod i’w weld braidd yn fach i ddarparu pymtheg bocs rhydd. Roedd y teulu Lewis yn dal i feddiannu’r Three Elms ym 1851. Erbyn map cyntaf yr AO ym 1886 (a arolygwyd 1875-81), ymddengys fod y safle wedi’i estyn yn sylweddol, gydag adeiladau ategol pellach i’r de o’r ardd a rhes o adeiladau i’r gogledd-ddwyrain (o fewn yr hen lociau hynny ger y nant). Gwelir yr adeiladau diweddarach hynny ar y cerdyn post dyddiedig c.1906, gyda’r hyn sy’n ymddangos fel y Three Elms i’w gweld y tu ôl iddynt.
Ailadeiladwyd y dafarn ym 1913, yn ôl dyluniadau’r pensaer Sidney Williams,4 ar gyfer Ely Brewery Co Ltd. A hwythau’n wynebu’r ffordd, mae nifer o’r adeiladau allanol wedi’u cadw (neu eu hailadeiladu), gyda Williams hefyd yn diwygio system ddraenio’r stablau ym 1915. Gwelir y trefniant hwn ar fap 1922 yr AO (arolygwyd 1915).
Gwnaed rhagor o newidiadau ym 1923, er bod yr un cynllun cyffredinol i’w weld o hyd ar fap c.1947 yr AO (arolygwyd 1938). Dim ond ar fap 1952 yr AO (a arolygwyd 1948) y gwelir rhagor o newidiadau: mae estyniad mawr i gefn y Dafarn yn cysylltu â’r adeilad allanol i’r de-orllewin a gwelir adeiledd arall i’r de o’r cwrtil. Mae rhan o’r rhes ger y nant wedi’i cholli erbyn y dyddiad hwn.
Gwelir y trefniant hwn yn fanylach ar fap 1959 yr AO (diwygiwyd 1957). Erbyn 1970, roedd estyniadau mawr eraill wedi’u hadeiladu i’r gogledd a’r de. Ceir rhagor o ychwanegiadau yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif.
1 Parciau Caerdydd – http://www.cardiffparks.org.uk/otheropenspaces/whitchurchcommon/index.shtml
2 ibid
3 HistoryPoints.org – https://historypoints.org/index.php?page=the-three-elms-and-gwaun-treoda
4 Pensaer cynhyrchiol yng Nghaerdydd a gynlluniodd hefyd waith ailadeiladu Tafarn y (Black) Griffin yn Llys-faen (1924), estyniadau i Ysbyty Glan Elái yn Sain Ffagan, yr Ysgol Fabanod yn Philog Road yn yr Eglwys Newydd, newidiadau i Fragdy Trelái a sawl eiddo domestig.
Disgrifiad
Mae’r Three Elms yn adeilad mawr wedi’i ysbrydoli gan y mudiad Celfyddyd a Chrefft gyda manylion ‘gwerinol’ o ddechrau’r 20fed ganrif. Bron yn sgwâr o ran cynllun, mae rhan wreiddiol yr adeilad o fewn llain fawr sy’n wynebu Heol Merthyr. Mae’n cynnwys dau lawr, gyda tho teils clai serth ar oleddf yn y tu blaen a’r tu cefn ac adain dalcennog berpendicwlar groestoriadol yn y gorllewin.
Mae goleddf hir y to blaen yn cynnwys dwy ffenestr ddormer flwch â thoeau gwastad (gyda ffenestri uPVC). Mae’n ymestyn i orchuddio gwedd flaen unllawr isel gyda rhediad o 8 ffenestr adeiniog pren aml-gwarel a phortsh mynedfa canolog (gyda manylion ‘amrant’ i’w do). Mae ffenestr fae ffasedog ar y llawr gwaelod i’r wedd flaen dalcennog ar yr ochr dde, gyda ffenestri adeiniog pren aml-gwarel gwreiddiol o hyd sy’n cynnwys gwydr lliw. Mae ffenestri adeiniog gwreiddiol cydweddog gerllaw. Uchod, mae ffenestr fawr (uPVC erbyn hyn) a tho gyda bargodion â chorbelau addurnol. Mae dau gorn simnai amlwg i’r to (gyda thrydydd un i’r goleddf cefn) wedi’u hadeiladu â brics gyda manylion corbelog cain. Mae’r cyfan wedi’i rendro mewn plastr garw a’i baentio.
Mae nifer o gytyfiannau unllawr yr 20fed ganrif i’r dwyrain a’r de o’r adeilad, o faint sylweddol a dyddiadau amrywiol.
Mae’n ymddangos bod yr adeilad allanol i’r gorllewin yn dyddio o’r cyfnod cyn c.1880 ac efallai mai hwn yw’r hen adeilad y stablau.
Rheswm
Er bod ychwanegiadau ac addasiadau diweddarach wedi amharu rhywfaint arni, mae’r Three Elms yn dafarn amlwg wedi’i hadeiladu’n gain yn yr arddull Celfyddyd a Chrefft sy’n cadw llawer o’i chymeriad allanol o hyd. Gwerth Hanesyddol ac Esthetig.
Bu tafarn ar y safle hwn ers dros 200 mlynedd. Mae’r sefydliad presennol wedi bod ar y safle ers dros 100 mlynedd, ac mae pob un yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
DCONC/6/140a-h
Gwesty’r Three Elms, Yr Eglwys Newydd
1947-1953
Cynlluniau.
DRB/H/17/1-183
Cofnodion y Rhondda Valley Brewery Co. Ltd/Rhondda Valley Breweries Co. Ltd./Ely Brewery Co. Ltd.
1836 – 1957
Gweithredoedd a phapurau eraill sy’n ymwneud â thafarndai ac eiddo arall
153/1-2. Tafarn y Three Elms, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Lib/6/6
Pamffled – Three Elms Hotel, Whitchurch – an inn with a history
Awdur: Mills, T.W.
Cyhoeddwr. Mild and Bitter
1954
RDC/S/2/1913/45
Ailadeiladu tafarn y Three Elms, Yr Eglwys Newydd
1913 – Pensaer: Sidney Williams – Datblygwr: Ely Brewery Co Ltd
Cynlluniau, gan gynnwys gweddluniau
RDC/S/2/1915/39
Draenio Sefydlog, Gwesty’r Three Elms, Yr Eglwys Newydd
1915 – Pensaer: Sidney Williams – Datblygwr: Ely Brewery Co Ltd
Cynlluniau, gan gynnwys gweddluniau
RDC/S/2/1915/72
Draenio’r Stablau, Gwesty’r Three Elms, Yr Eglwys Newydd
1915 – Pensaer: Sidney Williams – Datblygwr: Ely Brewery Co Ltd
Cynlluniau, gan gynnwys gweddluniau
RDC/S/2/1923/21
Addasiadau, Gwesty’r Three Elms, Waun Treoda, Yr Eglwys Newydd
1923 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: Rhondda Valley & Ely Breweries Ltd
Cynlluniau, gan gynnwys gweddluniau
RDC/S/9
Cynllun ac adrannau o bont ddur ger y Three Elms, Yr Eglwys Newydd
c1900
Delweddau ychwanego