Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
43 The TavistockDyddiad
Cyn 1878Ward
PlasnewyddHanes
Mae Gwesty’r Tavistock ar gornel Bedford Street a Tavistock Street. Mae’n debyg bod enwau’r strydoedd hyn (a Russell Street gerllaw) yn tarddu o William Russell; Dug cyntaf Bedford ac Ardalydd Tavistock (1616-1700). Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae arwydd y dafarn wedi dangos llong, ond mae’n debyg mai cyfeiriad at HMS Tavistock ydyw.
Ceir y cyfeiriad papur newydd cyntaf at Westy’r Tavistock ym 1878 (pan drosglwyddwyd y drwydded i landlord newydd), er bod yr adeilad i’w weld ar fap 1880 yr AO (a arolygwyd 1877) – sy’n llenwi’r gornel fel heddiw, gyda’r iard i’r gogledd-orllewin. Ar Tavistock Street, mae rhes gyflawn o dai yn cau’r bloc i’r dwyrain.
Gwnaed newidiadau ym 1925 yn ôl dyluniadau I Jones & P Thomas, ac erbyn hynny Brains & Co. oedd y perchnogion. Mae’n debyg bod y gwaith hwn wedi arwain at yr estyniad cefn cul a welir ar fap 1920 (a arolygwyd 1915) a map 1947 (arolygwyd 1941) yr AO. Mae’r tu cefn yn dangos gwaith estyniad tameidiog arall erbyn 1972.
Rhywbryd ar ôl y dyddiad hwn, collwyd y ddau dŷ teras i’r dwyrain, ac estynnwyd y dafarn yn helaeth i greu’r ychwanegiad â tho gwastad a welir heddiw. Collwyd ffenestri dalennog y llawr isaf cyn 1982; collwyd rhai’r llawr uchaf rhwng 1982 a 2008.
Disgrifiad
Prif ran (a rhan wreiddiol) yr adeilad yw adeiledd deulawr gyda chornel ffasedog ar gyffordd Tavistock Street a Bedford Street. Mae’r adain pum bae hon yn ymestyn yn bennaf i lawr Bedford Street, gydag un bae yn wynebu Tavistock Street. Wedi’i rendro a’i baentio drwyddi draw. Mae’r ffenestri’n rhai uPVC modern. Drysau pren modern i’r de-orllewin, wedi’u gosod o fewn agoriadau mwy o faint wedi’u cau â brics. To llechi ar oleddf â thalcen sydd i’r adeilad, gyda tho talcen slip yn y gornel ffasedog.
Estyniad mawr, modern â tho gwastad i’r cefn gyda gwedd barapet i Tavistock Street sy’n cynnwys ffenestri adeiniog o fewn ymwthiadau brics.
Garej fodern â tho gwastad yn yr hen iard wasanaeth, gan ymgorffori gweddillion wal derfyn garreg ar Bedford Street.
Rheswm
Tafarn mewn lleoliad amlwg. Mae rhyw 145 mlynedd o wasanaeth parhaus yn rhoi Gwerth Hanesyddol a Chymunedol sylweddol i’r safle.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/24170
Newidiadau i westy, Gwesty’r Tavistock, Bedford Street
1925 – Pensaer: I Jones a P Thomas – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
2 gynllun, dim gweddluniau
DCONC/6/136a-c
Gwesty’r Tavistock
1926-1934
Cynlluniau Posib
DSA/6/711
Gwesty’r Tavistock, Caerdydd a Gwesty’r Bush, Cas-gwent, Sir Fynwy.
3 Mehefin 1924
Arwerthwr: Coggins & Co., 46 Heol Charles, Caerdydd
Perchennog: Ystâd James Price, ymadawedig. [Gweler DSA/10/10 Eitem 137]
Gwesty’r Tavistock, oddi ar Heol y Plwca, Y Rhath, Caerdydd; a’r
Gwesty’r Bush, Cas-gwent, Sir Fynwy.
2 eitem.
Dim cynllun.
DSA/12/4044
1922-1923
Asesiad Atodlen A
(S A Brain and Co Ltd) F/15.
Gan gynnwys y Tavistock