Photo of The Thackeray pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

42 Thackeray (Syr Henry Morgan gynt)

Dyddiad

Diwedd y 1880au

Cyfeiriad

635 Heol Casnewydd, CF3 4FB

Download site boundary plan.

Ward

Tredelerch

Hanes

Mae’r ‘Quill and Quote’ yn meddiannu adeilad a godwyd fel tŷ preifat mawr rhwng map 1886 (a arolygwyd 1875-81) a map 1901 (1898-99) yr AO o’r enw ‘Oakland‘.

Ceir y cyfeiriad papur newydd cynharaf at y tŷ ym mis Mehefin 1888, ac yntau’n cael ei feddiannu gan ‘Mr Joseph Heald, Adeiladwr Wagenni Rheilffordd’.  Ym mis Ionawr 1895, hysbysebir yr eiddo i’w osod:

‘Preswylfa ardderchog (o’r enw Oakland) i’w Osod, wedi’i leoli ar Fryn Tredelerch, un erw o dir; stablau, golchdy ac ati; mynediad o Heol Casnewydd; mae’r tir yn ffinio ag Afon Rhymni.’ Erbyn mis Medi 1898, mae’r eiddo a’i gynnwys ar werth gan Mr Morgan Morgan, a hysbysebir ei fod yn cynnwys Ystafell Fwyta, Ystafell Frecwast, Ystafell Groeso, Cyntedd, Saith Ystafell Wely, Cegin, Ceginau Cefn, Stablau a thiroedd mawr.

Roedd yr eiddo’n cael ei feddiannu gan y teulu Christie erbyn 1905; bu farw Mr Charles William Christie (o Messrs Christie & Co. Shipowners yno ar 18 Mawrth 1905.

Mae map 1919 yr AO (a arolygwyd ym 1916) yn dangos y cynllun manwl cyntaf o’r adeilad, wedi’i osod o fewn llain ddofn rhwng Heol Casnewydd ac Afon Rhymni, ac yn cwmpasu hanner yr hen Wersyll Rhufeinig o’r enw ‘Cae Castell’. Mae nifer o estyniadau i’r cefn a feranda gwydrog lapio yn y tu blaen. Mae’n debyg mai’r stabl yw’r adeilad ar y ffin ddeheuol y tu ôl i’r tŷ – i bob golwg roedd adeilad cyfredol y stablau oedd ynghlwm wrth yr ochr ogleddol yn perthyn i ‘Tredelerch‘.

Erbyn 1941, mae’n ymddangos bod yr estyniadau i’r tu blaen a’r tu cefn wedi’u newid ac mae adeilad y stablau wedi’i golli. Yn ddiweddarach eto, mae’r eiddo’n gweithredu fel Meddygfa ac, erbyn diwedd yr 20fed ganrif, mae’r ffordd i’r tu cefn (Castle Rise) yn mynd drwodd ac adeiledir ar safle’r hen wersyll Rhufeinig.

Ar hyn o bryd nid yw’n glir pryd y daeth yr eiddo yn far a bwyty (a phryd ychwanegwyd yr estyniad cefn mawr), ond y ‘Buccaneer’ ydoedd ym mis Mehefin 2008, a ddaeth yn ‘The Sir Henry Morgan’ rhwng 2008 a 2011. Daeth yr eiddo’n ‘Thackeray Restaurant Bar and Grill’ yn 2017.

Disgrifiad

Adeilad sylweddol mewn lleoliad amlwg ar dir uchel uwchben Heol Casnewydd. Wedi’i osod yn ôl o’r ffordd o fewn llain hael, gyda gardd i’r tu blaen (sy’n cynnwys coed aeddfed) a’r maes parcio i’r cefn.

Mae prif ran yr adeilad bron yn gynllun sgwâr gyda thri llawr. Mae’r toeau llechi ar oleddf yn cynnwys thalcennau a thalcennau slip, cyrn brics aml-liwiog, ffenestri bae ffasedog deulawr, ffenestri dalennog a feranda lapio oll yn diffinio ei gymeriad o ddiwedd oes Victoria. Wedi’i rendro a’i baentio drwyddo draw.

Mae estyniad unllawr sylweddol o ddiwedd yr 20fed ganrif i’r cefn heb fawr o gymeriad, sy’n ffinio ag adeilad deulawr yr hen stablau i’r gogledd (mewn perchnogaeth ar wahân o hyd i bob golwg).

Rheswm

Enghraifft wych o fila sylweddol o ddiwedd oes Victoria mewn lleoliad amlwg gyda llawer o nodweddion gwreiddiol allanol mewn cyflwr cyfan o hyd. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae’r defnydd mwy diweddar fel tafarn (wedyn bwyty) yn rhoi rhywfaint o Werth Cymunedol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

Dim.

Delweddau ychwanego

1901 OS map showing site of Henry Morgan pub Cardiff

1898 i 1899, Cyhoeddwyd ym 1901. Dalen Morgannwg XLIII.NE

Lleoliad

Dweud eich dweud