
Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
41 The Royal OakDyddiad
tua 1868Ward
Yr Eglwys Newydd a ThongwynlaisHanes
Ychydig iawn sy’n hysbys am hanes a datblygiad y safle hwn. Ceir y cyfeiriad papur newydd cyntaf ato ym mis Chwefror 1868, pan gafodd perchennog (Mr George Roberts) Tŷ Cwrw o’r enw’r ‘Royal Oak, Yr Eglwys Newydd’ ddirwy o 20 swllt am werthu cwrw yn ystod oriau gwaharddedig (am yr eildro).
Erbyn 1871, roedd y safle’n cael ei adnabod fel Tafarn y Royal Oak, fwy na thebyg oherwydd Deddf Tai Gwin a Chwrw 1869 a ddaeth â safleoedd o’r fath o dan reolaeth yr ynadon lleol.
Gwnaed newidiadau ym 1922, yn ôl dyluniadau’r penseiri Mott a Smith. Nid yw maint y gwaith hwn yn hysbys ar hyn o bryd.
Disgrifiad
Wedi’i leoli ar lain gul, mae gwedd flaen yr adeilad hwn mewn arddull ‘Duduraidd Ffug’. Mae’r llawr gwaelod mewn brics coch ‘gwasgedig’ gyda ffenestr adeiniog pedair rhan gyda myliynau carreg a ffenestri fframiau metel â chwarelau plwm petryal.
Mae ffrâm garreg wedi’i mowldio i’r drws cerddwyr ar y dde. Mae’r llawr uchaf wedi’i orffen gyda fframiau pren ffug â ffenestr ddormer fawr fargodol â tho talcen a bracedi, 3 ffenestr bren traws-fyliynau gyda ffenestri adeiniog plwm. Mae pyst pared fertigol i’r talcen. To llechi ar oleddf gyda chorn simnai brics coch.
Estyniad deulawr perpendicwlar is yn y cefn. Estyniad to gwastad unllawr arall yn llenwi’r rhan fwyaf o’r llain gul.
Rheswm
Adeilad ‘Tuduraidd Ffug’ bach ond â manylion helaeth. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 150 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
RDC/S/2/1922/4
Addasiadau, Tafarn y Royal Oak, Yr Eglwys Newydd
1922 – Pensaer: Mott & Smith – Datblygwr: Messrs W Hancock
1 cynllun gan gynnwys gweddluniau
DSA/6/549
Manylion yr Arwerthiant: Rhannau o Ystâd Castell Penllyn ym mhlwyf yr Eglwys Newydd.
Gan gynnwys: The Royal Oak (17 Heol Merthyr)
1 llyfryn – mae’r cynlluniau ar goll
Delweddau ychwanego

1875 i 1881, Cyhoeddwyd 1886. Dalen Morgannwg XLIII