Photo of The Rompney (former) pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

40 Rompney Castle

Dyddiad

1838 (fel The Pear Tree) - fe’i hail-luniwyd yn y 1930au

Cyfeiriad

1 Heol Gwynllŵg, CF3 3EB

Download site boundary plan.

Ward

Tredelerch

Hanes

Yr enw gwreiddiol am y dafarn oedd Tafarn y Pear Tree, y ceir yr adroddiad papur newydd cyntaf amdano ym mis Chwefror 1838. Hysbysebwyd y safle i’w werthu ym mis Medi 1878. Erbyn mis Mehefin 1879, roedd yr adeilad wedi newid ei enw i’r Rompney Castle, ac erbyn y flwyddyn honno roedd wedi’i gaffael gan Harry Harris Davies, a oedd ar un adeg yn gyrnol ym Myddin yr Unol Daleithiau.

Fe wnaeth Davies “ailadeiladu” y safle, gan wneud nifer o newidiadau. Ar ôl ei farwolaeth ym 1890, gwerthwyd y dafarn, gan drosglwyddo i sawl perchennog cyn i ragor o newidiadau helaeth gael eu gwneud ym 1932 (gan Brains mae’n debyg – mae rhywfaint o wydr lliw brand “Brains” cynnar wedi goroesi mewn penty ar yr ochr chwith) pan ychwanegwyd y fframiau pren cyfredol. Dywedir hefyd ei fod ar safle twneli anghyfreithlon sy’n arwain at afon Rhymni.

Mae bellach ar gau. Gwrthodwyd cais am ailddatblygu (22/00094/MJR ).

Gwrthodwyd cais rhestru mannau (gan eraill) Chwefror 2022

Cyflwynwyd Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer dymchwel/paentio ym mis Medi 2023 – sy’n golygu bod angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith hwn erbyn hyn.

Disgrifiad

Mae’r adeilad yn goroesi fel enghraifft o ail-lunio tafarn o ddiwedd oes Victoria rhwng y ddau ryfel byd, gyda gwreiddiau cynharach. Mae’n cynnwys cymeriad pensaernïol allanol sy’n nodedig iawn, gyda tho llechi hir iawn a chrib ddi-dor o ryw 45m, gyda phedwar corn simnai amlonglog tal ac addurnol bob hyn a hyn, fframiau pren ar y llawr cyntaf, a llawr gwaelod cerrig llanw aml-liwiog gyda godre tolciog.

Mae gan ffenestri a drysau’r llawr gwaelod fframiau brics coch, y mae llawer ohonynt yn cynnwys mowldinau capan bwa isel. Mae addurniadau danheddog cain i silffoedd ffenestri’r tŵr canolog. Mae ffenestri’r tu blaen yn rhai adeiniog pren gyda  chwarelau plwm bach. Mae tŵr crwn deulawr amlwg gyda tho conigol a phen uchaf wedi’i leoli’n ganolog o fewn y wedd flaen, gyda phortshys llechi unllawr i’r chwith (â tho talcen) a’r dde (â tho conigol). Penty â tho llechi wedi’i osod yn is i’r ochr chwith.

Nid yw’r wedd gefn o ddiddordeb penodol, wedi’i rendro drwyddo draw a heb nodweddion pensaernïol nodedig na’r defnydd o ddeunyddiau o ansawdd uchel.

Rheswm

Tua 150 mlynedd o wasanaeth ac mewn cyflwr cymharol dda. Mae ei olwg yn parhau’n debyg i raddau helaeth i’w ffurf rhwng y rhyfeloedd. Gwerth Hanesyddol.

Mae’r simneiau nodedig a’r to â chrib hir wedi goroesi ac maent o Werth Esthetig penodol.

Mae 185 mlynedd o wasanaeth yn darparu Gwerth Cymunedol sylweddol.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

DCONC/6/121a-f

Cynlluniau 1931-1932

DSA/12/2903

1917 – Angen manylion atgyweiriadau.

DSA/12/5137

1929-1930

Cynllun yn dangos yr heol a’r tir i’w caffael, a baratowyd gan Thomas Morgan & Partners, Peirianwyr Sifil, Pontypridd gyda’r nodyn ‘Received 30 May from Brain & Co.’ ar y cefn gyda nodiadau pensil wedi’u hychwanegu.

Delweddau ychwanego

1919 OS map showing the Rompney Castle Hotel, Cardiff

Map 1919 yr AO (arolygwyd 1916)

 

Early-1930s photo of the Rompney Castle pub, Cardiff

1930au cynnar

Lleoliad

Dweud eich dweud