Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
38 Tafarn y RailwayDyddiad
c1900Ward
TyllgoedHanes
Ychydig a wyddys am ddatblygiad Gwesty’r Railway, gydag ychydig o dystiolaeth ddogfennol ar gael.
Nid yw’r lle yn ymddangos ar fapiau degwm 1846 ac mae’r cyfeiriad papur newydd cyntaf ato’n ymddangos ym mis Mehefin 1856. Ym mis Medi 1860, rhoddwyd y lle ar werth:
‘Tafarn y Railway, Trelái, ger Caerdydd.
I waredu, gyda meddiant ar unwaith, DŶ TRWYDDEDIG SENGL, o’r enw Tafarn y Railway, iard lo, ac Un Erw ar Ddeg o Dir, wedi’i leoli yn Nhrelái. Mae’r adeilad yn gyfleus iawn, ac mae yna stabl a thŷ bwystfilod da ynghlwm. Am bris cymedrol.
Hefyd, i’w gwaredu, Tair BUWCH Odro dda, CEFFYL a CHART da, DOFEDNOD ac ati, i’w cymryd am brisiad teg.
Gofynnwch am y manylion ar y safle.’
Dangosir yr adeilad ar fap cynharaf yr AO dyddiedig 1886 (a arolygwyd 1875-81), gyda phrif adain wedi’i gosod fel heddiw yn llenwi cornel Heol Sain Ffagan ac Ely Road. Mae’n dangos adain gul, wedi’i lleoli’n ganolog sy’n ymestyn o’r cefn (gogledd) ac yn troi i’r dwyrain i amgáu pen gogleddol yr iard yn rhannol (mae’n debyg ei fod yn ymgorffori’r tŷ bwystfilod a’r stabl ac ati).
Datblygodd ffurf y gynllun yn ystod yr 20fed ganrif, gyda’r adain gefn yn ymddangos yn sylweddol ehangach erbyn 1915 – bron i led llawn yr adeilad. Adeiladwyd rhagor o adeiladau allanol bach yn yr iard gefn cyn 1963 a’u colli’n ddiweddarach, ac ychwanegwyd estyniad unllawr at ben gogledd-ddwyreiniol y prif adeilad rywbryd ar ôl 1963 (sy’n dal i fodoli). Ar ôl y dyddiad hwn, ychwanegwyd nifer o estyniadau to gwastad at y cefn, gan lenwi llawer o’r hen iard wasanaeth a lleihau ffurf gynllun gynharaf yr adeilad ymhellach.
Cynigiwyd ei ddymchwel/ailddatblygu – 23/01682/FUL
Disgrifiad
Mae prif ran Gwesty’r Railway (Y Tyllgoed) yn adeilad deulawr â thri bae sy’n wynebu’r de-ddwyrain i Ely Road, gydag estyniad deulawr canolog, perpendicwlar i’r cefn (un bae o ran hyd ond o led sylweddol).
Mae gan y wedd flaen dde-ddwyreiniol agoriad drws canolog, gyda drws modern a ffenestri uPVC drwyddi draw. Mae’r cyfan wedi’i rendro a’i baentio. To llechi ar oleddf gyda tho talcen slip i’r ochr chwith a tho talcen i’r ochr dde. Mae estyniad unllawr (o’r 20fed ganrif) i’r pen gogledd-ddwyreiniol, hefyd gyda tho talcen ar oleddf.
Mae estyniad cefn â tho gwastad sy’n rhedeg i’r gogledd-orllewin yn troi i’r gogledd-ddwyrain, gan lenwi safle hen adeiladau gwasanaeth.
Mae estyniadau to gwastad modern eraill yn y cefn bellach yn llenwi llawer o’r hen iard wasanaeth.
Rheswm
Mae’r adeilad yn ymgorffori rhywfaint o Werth Hanesyddol, gan gadw peth adeiladwaith tafarn o ddechrau oes Victoria yn y brif adain, er bod hwn wedi’i danseilio gan waith amrywiol i foderneiddio ac addasu dros amser – gan gynnwys estyniad cefn mawr bron i led llawn yr adeilad. Mae gwelliannau sylweddol dros amser (gan gynnwys colli ffenestri gwreiddiol, ail-doi a dymchwel unrhyw gyrn simneiau gwreiddiol) hefyd wedi amharu ar werth esthetig yr adeilad. Mae rhyw 140 mlynedd o fod yn dafarn yn gallu rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol, er y dylid nodi na fu unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion presennol i’w ddymchwel.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
DSA/12/5130
1927-1936
Ymgais i brynu buddiant rhydd-ddaliad a gwerthu rhan ar gyfer ‘Ffordd Orbitol Caerdydd’.
(S A Brain & Co.) N/16.
Gohebiaeth 10 Mai 1927-7 Ebr 1928 a 24 Rhagfyr 1930-4 Mawrth 1936. 1. Hysbysiad Prynu o Bapur Newydd.
2. Amlen o bapurau gan gynnwys:
(a) rhan o’r amlen
(b) hysbysiad i drin 22 Mehefin 1931
(c) hysbysiad o fwriad i fynd i mewn 24 Mehefin 1931
(ch) copi o’r hawliad a’r cynllun 13 Gorffennaf 1931.
3. Manylion gwerthu’r eiddo hwn ac eiddo arall ar 10 Rhagfyr 1918.
D48/5/11
1940-1944 – Cyfrifwyr cyfrifon
DJ Williams, Railway Inn, Trelái, Caerdydd [‘wedi’i farcio’n W4’]
1 gyfrol
DDAV/221/1,2
1936
Gohebiaeth rhwng Evan J. C. David a Morgan, Bruce a Nicholas, cyfreithwyr, Pontypridd, ynghylch Trawsgludiad a Phrydles (copi) o Dafarn y Railway, Trelái
2 Bapur
DSA/12/3080
Tafarn y Railway; 48 a 50 Ely Road, Trelái; 132 Heol y Bont-faen; 8-13 Heol Mary Ann; 13-16 Patrick Street; 26 Heol Clarence a 29 Stryd Alice, Caerdydd
1918-1919
Gwerthiant.
(Jonathan Lewis ymadawedig.) B/6
Rhan o glawr ffeil.
Gohebiaeth 13 Tach 1918-9 Ionawr 1919.
Hysbysiadau gwerthu ar gyfer arwerthiant 10 Rhagfyr 1918.
Copi o brydles 25 Maw 1847, gan y Teulu Romilly i Thomas Davies.
[Gweler hefyd Llyfr Gwerthu 25 (cyf. DSA/8/25) f.58]
1 ffeil
Delweddau ychwanego