Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
37 The Railway InnDyddiad
1870auWard
Ystum TafHanes
Cynhaliwyd agoriad seremonïol o reilffordd Dyffryn Taf rhwng Caerdydd a Navigation House, Abercynon, ar 8 Hydref 1840 ac agorwyd y rheilffordd i deithwyr ym mis Ebrill 1841.1
Mae Tafarn y Railway, y credir iddi gael ei hadeiladu yn y 1870au2, yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar fap 1886 yr AO (a arolygwyd rhwng 1875 a 1881). Er bod y manylion braidd yn brin, ymddengys ei fod wedi’i ffurfio o adain sy’n wynebu’r ffordd, gydag adain berpendicwlar gefn i’w phen gogleddol – trefniant tebyg i’r hyn a ddangosir ar fap 1901 yr AO (diwygiwyd 1898).
Mae llun o tua 1910 yn dangos mwy o fanylion – adeilad deulawr wedi’i rendro â thri bae gyda ffenestri dalennog a tho talcen slip. Mae adain ddeulawr â dau fae i’r de.
Mae’n ymddangos bod y newidiadau a gofnodwyd ym 1912 wedi arwain at yr ôl troed estynedig a ddangosir ar fap 1920 yr AO – estyniadau to gwastad i’r cefn a’r de.
Ychwanegwyd ale fowlio ym 1930. Dangosir hyn yn glir ar fap 1946 yr AO ac mae’n debyg ei fod yn cynnwys yr un adeiledd a welir yn y cefn heddiw.
Gwnaed rhagor o newidiadau ym 1937 (nid yw (maint y gwaith yn glir ar hyn o bryd).
Ar ryw adeg ar ôl 1948 (gweler y dystiolaeth ffotograffig), addurnwyd y prif adeilad mewn arddull Duduraidd, trwy osod fframiau pren ffug ar weddau’r llawr cyntaf, ailosod drysau ac ehangu’r agoriadau ffenestri o’u meintiau ffenestri dalennog pren nodweddiadol. Yn ganlyniad mwy na thebyg i’r newidiadau a wnaed ym 1955 gan y pensaer G.H. Rogers.
1 Barrie, D. S. M. (1982). The Taff Vale Railway (2il arg). Tisbury: Gwasg Oakwood.
Disgrifiad
Mae’r brif adain ddeulawr yn wynebu Heol yr Orsaf i’r gorllewin. Mae’n cynnwys pum bae anghymesur, gyda Baeau 4 a 5 yn gostwng fesul cam. Ffenestri adeiniog teiran sydd i’r llawr gwaelod gyda chwarelau plwm petryal. Mae’r drysau yn cynnwys chwe phanel pren gyda bwâu ‘Tuduraidd’, ffenestri linter plwm a mowldinau capan. Mae gan y llawr cyntaf fframiau pren ffug a ffenestri adeiniog pren cymysg (rhai pâr a theiran). Toeau llechi ar oleddf (talcen slip i’r gogledd) gydag un corn simnai brics coch. Gorffeniad carreg wedi’i baentio a’i rendro. Mae estyniad unllawr i’r pen deheuol yn debygol o ddyddio o 1912.
Mae adain berpendicwlar ddeulawr yn ymestyn i’r cefn, ym mhen gogleddol yr adeilad, hefyd gyda fframiau pren ffug i’r llawr cyntaf. Mae estyniad unllawr o’r 20fed ganrif gyda tho ar oleddf yn ymestyn ymhellach eto i’r dwyrain.
Mae estyniad unllawr â tho gwastad i’r cefn (1912 mae’n debyg) yn cysylltu ag adain ale fowlio hir sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de, a adeiladwyd ym 1930 yn ôl pob tebyg. Brics coch gyda tho dalen fetel.
Rheswm
Mae tua 150 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
RDC/S/2/1912/111
Newidiadau ac Ychwanegiadau, Tafarn y Railway, Iard Llandaf
1912 – Pensaer: S Williams – Datblygwr: Wm Hancock
1 cynllun gan gynnwys gweddluniau
BC/S/1/27330
Ale fowlio ar gyfer gwesty, Gwesty’r Railway, Heol yr Orsaf
1930 – Pensaer: H T Davies – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd
2 gynllun gan gynnwys gweddluniau
BC/S/1/31906
Newid i Westy’r Railway, Heol yr Orsaf
1937 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W M Hancock & Co
2 gynllun gan gynnwys gweddluniau
BC/S/1/45806
Newidiadau i Westy’r Railway a 130 Heol yr Orsaf, Gwesty’r Railway/130 Heol yr Orsaf, Heol yr Orsaf, Ystum Taf
1955 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: William Hancock & Co Ltd
2 gynllun gan gynnwys gweddluniau
DCONC/6/114a-g
Gwesty’r Railway, Ystum Taf
1923-1953
Cynlluniau posib
Delweddau ychwanego