Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
36 The PloughDyddiad
1850auWard
Yr Eglwys Newydd a ThongwynlaisHanes
Ar adeg arolwg map degwm 1840, ychydig iawn o ddatblygu a fu yn yr Eglwys Newydd ac roedd dôl 3 erw fawr ar gornel Heol yr Hen Eglwys a Heol Merthyr (a elwid yn Cae Groes).
Ceir y cyfeiriad cyntaf at Dafarn y Plough yn The Cardiff and Merthyr Guardian ar 14 Medi 1861 (sesiynau trwyddedu ar gyfer Llandaf).
Erbyn map 1886 yr AO (arolygwyd 1875-1881), roedd yr anheddiad llinellol ar hyd Heol Merthyr wedi cyrraedd cyn belled â Chapel y Bedyddwyr Bethel i’r gogledd, gyda Thafarn y Plough wedi’i ddangos fel adeilad mawr ar gynllun L yn troi’r gornel i Heol yr Hen Eglwys ac yn gyfagos i’r teras ar Heol Merthyr.
Yn ôl yr Evening Express, yn gynnar ym 1909 prynwyd y Plough gan syndicet, a gyflogodd y pensaer Veall & Sant i ddylunio newidiadau. Nid yw’n glir ar hyn o bryd a gwnaed y rhain, ond gwerthwyd y dafarn eto ym mis Mehefin yr un flwyddyn (i Mr Hughes o Gabalfa), am bris prynu o £3,500: “… yr un swm a dalwyd pan y’i cymerwyd drosodd gan y syndicet.”
Nid yw maint yr adain sy’n wynebu Heol Merthyr yn glir yn y dystiolaeth gartograffig; fodd bynnag, mae ffotograff o 1909 yn dangos bod maint yr adeilad yn debyg i’r maint heddiw – er bod Rhif 3 yn y de yn adeilad uwch sy’n awgrymu (cam?) datblygu ar wahân.
Cofnodwyd newidiadau pellach ym 1927, y tro hwn i S. A. Brain & Co Ltd.
Erbyn 1965, mae’n ymddangos bod map yr AO yn dangos y safle fel dau eiddo gwahanol – Rhif 1 a 3 Heol Merthyr. Mae’n amlwg bod yr adain ogledd-ddwyreiniol i Heol yr Hen Eglwys hefyd wedi’i hailadeiladu’n rhannol; wedi’i hestyn yn unol â’r cynllun dwbl a welir heddiw.1
1 Estynnwyd ym 1962 – An illustrated History of Cardiff Pubs
Disgrifiad
Heddiw, mae’r Plough yn cynnwys prif adain ddeulawr â phump sy’n wynebu Heol Merthyr, gyda gardd gaeëdig o’i blaen. Mae gan ran tri bae’r adain hon ar yr ochr chwith ddrws canolog gyda phortsh hanner pren â tho talcen wedi’i orchuddio â theils coch plaen. Ar y ddwy ochr, mae bae sgwâr â tho gwastad a ffenestri plwm (rhai cwarelau ‘gwydr pur’ pontil). Mae gan y rhan ddeulawr ar y dde ddrysau dwbl gyda chwarelau ochr (o bosibl yn llwybr drwodd i’r iard y tu ôl ar un adeg). Mae’r llawr cyntaf wedi’i uno gan ffenestri adeiniog pren gydag architrafau plaen a chwarelau plwm. Mae’r cyfan wedi’i rendro a’i baentio’n wyn. Mae’r to o uchder parhaus drwyddi draw; to talcen llechi ar oleddf.
Mae’r adain berpendicwlar gefn – sy’n troi i Heol yr Hen Eglwys – yn gostwng o ddau lawr i un, i amgáu pen gogleddol cyfan y bloc. Mae wedi’i rendro’n wyn gyda ffenestri adeiniog aml-gwarel a dau ddrws cerddwyr. O bwys mae ffenestr liw i’r llawr cyntaf – er mwyn goleuo grisiau, mae’n debyg. Mae toeau llechi ar oleddf iddi, gyda chyrn simneiau brics coch corbelog.
Mae estyniadau to gwastad o’r 20fed ganrif i’r iard gefn, gan gynnwys estyniad mawr sy’n ymestyn yn gyfochrog â’r adain gefn.
Rheswm
Tafarn mewn lleoliad amlwg. Er bod ganddi gymeriad eithaf plaen, mae tua 160 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Hanesyddol a Chymunedol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
DSA/6/549
Rhannau o Ystâd Castell Penllyn ym mhlwyf yr Eglwys Newydd.
19 Gorff 1920
Arwerthwr: Gottwaltz & Perry, 11 Stryd Fawr, Caerdydd.
Perchennog: John Glynne Richards Homfray. [Gweler DSA/10/7 Eitem 436]
Rhannau o Ystâd Castell Penllyn ym mhlwyf yr Eglwys Newydd.
113 o eitemau.
Cynlluniau ar goll.
DSA/12/1330
Tafarn y Piccadilly a 3 Stryd y Castell, Caerffili, a’r City Stores a Thafarn y Plough, Yr Eglwys Newydd, 1905-1909
Gan gynnwys:
2. Prisio, 22 Awst 1905 (‘Ail Adroddiad’) o Dafarn y Plough.
14. Cynllun tir Tafarn y Plough, yr Eglwys Newydd yn dangos estyniadau arfaethedig, un gydag estyniad arfaethedig lliw pinc.
[Gweler hefyd Llyfr Gwerthu 19 (cyf. DSA/8/19) f. 153
GD/LA/15/140
1920
Manylion gwerthu gan gynnwys:
‘The Plough’ a Banc Barclays – oll yn yr Eglwys Newydd
RDC/S/2/1909/34
Newidiadau i Westy’r Plough, Heol yr Eglwys Newydd
1909 – Pensaer: Veall & Saint – Datblygwr: Syndicet Gwesty’r Plough
2 gynllun gan gynnwys gweddluniau
RDC/S/2/1927/77
Cynllun yr Adeilad
1927 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
Cynlluniau, gan gynnwys gweddau
DCONC/6/108a-d
Gwesty’r Plough, Yr Eglwys Newydd
1960 – cynlluniau posib