Photo of The Pantmawr pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

34 Tafarn Y Pantmawr

Dyddiad

Efallai’n tarddu o’r 18fed ganrif – wedi cael ei ddefnyddio fel tafarn ers c1960

Cyfeiriad

Tyla Teg, CF14 7TL

Download site boundary plan.

Ward

Rhiwbeina

Hanes

Er bod cyfeiriad at ‘Pantmawr Bach, yn yr Eglwys Newydd’ mewn arolwg o Ystâd Tŷ Llandaf Thomas Edwards ym 1776,1 mae map Budgen 1811 yn dangos ffermdy o’r enw ‘Pantwyn Mawr’ yn yr un lle ag y mae’r adeilad heddiw.

Mae’r eiddo yn llawer cliriach o fewn dogfennau degwm 1840, lle mae’n cael ei nodi’n ‘Pantmawr’ a’i gofnodi fel fferm 72 erw, ym mherchenogaeth Syr Charles Morgan 2ail Farwnig2 (ac yn cael ei feddiannu gan Alexander Jones) Dangosir y tŷ i’r gogledd-ddwyrain o glostir y ffermdy yn yr un lleoliad/aliniad â heddiw, gydag adeilad allanol i’r de-ddwyrain yn wynebu’r ddreif.

Erbyn 1875 mae ffurf cynllun y tŷ wedi newid ychydig, ac mae’r adeilad allanol wedi’i adleoli, i’r clostir bach ar ochr dde’r ddreif.

Mae’r trefniant cyffredinol hwn yn parhau i ganol yr ugeinfed ganrif (gweler map 1961 yr AO), er bod nifer yr adeiladau allanol yn cynyddu yn y gogledd-ddwyrain rhwng 1898 a 1915.

Collwyd yr adeiladau allanol hyn ar ôl 1961 (mae’n debyg pan droswyd yr adeilad yn dafarn) a heddiw gellir sylwi ar eu hôl troed o hyd o fewn creithiau ar yr ardal barcio fawr sy’n dal i ddiffinio llawer o hen gwrtil y ffermdy.

Yn ôl Brew Wales: “Mae’r Pantmawr wedi’i osod yn ei thiroedd helaeth ei hun ac mae rhannau o’r adeilad carreg hwn yn dyddio’n ôl i 1828, er iddo gael ei ailadeiladu ym 1898 a dim ond yn ddiweddar y cafodd ei adnewyddu. Yn wreiddiol, ffermdy ac adeiladau fferm cysylltiedig oedd yr hen adeiladau, a adeiladwyd o garreg frasnadd. Daeth yr eiddo’n dafarn ym 1960 pan adeiladwyd yr ystâd leol.”

Ni ddaethpwyd o hyd tystiolaeth bendant i gefnogi’r hawliadau hyn eto, ac eithrio ar gyfer y dyddiad ailadeiladu sy’n deillio o garreg dyddiad yn y talcen dwyreiniol.

 

1 Gweler Archif Morgannwg cyf: DXGC123.

2 Yn Nhŷ Tredegar.

Disgrifiad

Mae Tafarn y Pantmawr o fewn ynys faestrefol, lle roedd cynllun y tai cyfagos wedi’i ddiffinio’n glir gan ei bresenoldeb o fewn y dirwedd. Saif y dafarn (yr hen ffermdy) o fewn cwrtil mawr – maes parcio tarmac erbyn hyn (sy’n dal i ddiffinio llawer o gwrtil yr hen dyddyn), gyda’r ddreif o ffordd Tyla Teg yr hyn sy’n weddill o’i llwybr mynediad hanesyddol o Heol Pant-mawr.

Mae prif ran y Dafarn yn adain ddeulawr â thri bae, sy’n ymestyn tua’r de-de-orllewin, gydag adain berpendicwlar i’r cefn (wedi’i osod yn is ond hefyd yn cynnwys dau lawr). Mae gan y wedd flaen ddrws mynedfa canolog, gyda ffenestri uPVC modern drwyddi draw. I’r llawr cyntaf, mae gan y ffenestri dalcennau ac maent yn torri trwy linell y bondo.

Mae estyniad deulawr pellach i’r gorllewin (wedi’i osod ychydig yn is) ac estyniad adeilad unllawr i’r dwyrain, y ddau ar yr un echelin. Mae carreg ddyddiad o fewn y talcen dwyreiniol yn nodi ‘Rebuilt 1898′. Toeau talcen ar oleddf sydd i’r adeilad, wedi’u gorchuddio â llechi. Mae cyrn simneiau i ddau ben y brif adain wedi’u ffurfio o frics llwydfelyn gyda brics coch addurnol wedi’u gosod yn lletraws, fel corbelau i gynnal y corun.

Mae estyniadau unllawr bach modern â thoeau gwastad i’r cefn.

Rheswm

Mae gan y safle hanes hir, un a ddechreuodd pan oedd yn dyddyn yn y 18fed ganrif (os nad ynghynt). Nid yw swm y ffabrig sydd wedi goroesi o’r gwaith ailadeiladu ym 1898 yn glir, ond dywedir bod rhannau o’r adeilad yn dyddio o 1828. Gwerth Hanesyddol

Wedi cael ei ddefnyddio fel tafarn ers c.1960; mae gan yr adeilad werth cymunedol hefyd.

Cyfeirnodau

Dim i’w ganfod

Delweddau ychwanego

1840 Tithe Map showing the Pantmawr pub site, Cardiff

Map Degwm 1840

Lleoliad

Dweud eich dweud